Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Tri
chylchgrawn Urddasol!


Glyn Evans yn cael golwg ar gylchgronau'r Urdd ar gyfer bywyd modern

Dydd Iau, Mehefin 15, 2000

Cylchgrawn yr Wythnos:

Hoffi'r peth neu beidio mae gennym oll ddiddordeb mewn selebs - hen air Saesneg, hyll, am bobol sy'n enwog am fod yn enwog.

Maen nhw dan draed rhywun ym mhob man yn dweud ac yn gwisgo y nesa peth i ddim. Ffrogiau efo mwy o holltau a thyllau nag o ddeunydd ynddyn nhw.

Y ferch gyntaf ar Channel 4

Un ohonyn nhw ydi'r ferch o Brestatyn, Carol Vorderman, a ddaeth i enwogrwydd gyntaf am fod y ferch gyntaf ar Channel 4 - ac wedyn am fod yn beniog.

Erbyn hyn mae hi mor enwog am fod yn enwog am fod yn beniog y mae gan bobl fwy o ddiddordeb yn ei phen ôl nag yn ei phen gwneud syms.

Mae'r llun ohoni ar glawr ac oddi mewn i iaw, cylchgrawn yr Urdd i ddysgwyr ifanc, yn gwbwl weddus fodd bynnag.

Hi yw gwestai'r mis gyda phob math o fân wybodaeth amdani - ei hen dad-cu yn gweithio yn Indonesia lle helpodd ddarganfod moddion rhag beri-beri. Ysgrifennodd lyfrau am adar a phlanhigion y wlad.

Mae rhai blynyddoedd ers i mi weld cylchgronau'r Urdd er y byddaf yn dal i droi at Gymru'r Plant yr oes o'r blaen o bryd i'w gilydd.

Cymreictod ac addysg ers talwm
Yr oedd pwyslais y rheini yn drwm ar Gymreictod ac addysg.

Does yna ddim mwyach Gymreictod herfeiddiol y gorffennol - heddiw, gwneud pethau yn naturiol yn y Gymraeg heb bregethu am hynny yw y dull.

Er bod yna ymdrech o hyd i addysgu mae'r dull yn dra gwahanol i un gwerslyfryddol y gorffennol er mor arloesol oedd y rheini yn eu dydd.

Yn y rhifyn o iaw a gefais i y mae erthygl am y digartref, poblogrwydd newydd tatwio eich corff gyda sesiwn holi-ac-ateb â pherchenogion stiwdio datwio yn Ninbych-y-pysgod.

"Mae'n rhaid i chi fod yn artistig. Mae'n rhaid i chi gael hyfforddiant am ddwy flynedd. Mae'n rhaid i chi fod yn tatwist am ugain mlynedd i chi ddod yn Master Tatooist."

Mi fodlona i ar sgrifennu negeseuon ataf i fy hun ar gefn fy llaw efo beiro.

Digonedd o luniau

Mae'r ddau gylchgrawn arall, Cip a Bore Da ar gyfer plant iau. Cip ar gyfer rhai rhwng saith ac unarddeg a Bore Da ar gyfer dysgwyr.

Y ffilm Gwr y Gwyrthiau sy'n cael prif sylw - canmoliaethus - Cip ond y mae yna hefyd bosau, stori a straeon cartwnaidd lu.

Hefyd, mae sylw i gwn achub penmaenmawr a darn am gyfres deledu newydd, Porc Peis Bach.

Mae yna hefyd gyfarwyddiadau sut i wneud coctels heb alcohol.

Mae pwyslais ym mhob un ar gyflwyno'n gyffrous ac yn fywiog - er, weithiau mae yna duedd i bentyrru pethau.

Cip - 90c; iaw - £1; Bore Da - 80c
Wythnosau Blaenorol:

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y SΓ®n Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy