Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Ifan, wyr Ioan Mai, gyda model o'r Lusitania Y baban oedd ar y Lusitania yn sgrifennu llyfr am ddirgelwch suddo'r llong

Dydd Iau, Mehefin 15, 2000
Dychwelyd o Winsconsin i Lithfaen ar benrhyn Llyn ar y llong Lusitania oedd rhieni Ioan Mai Evans yn Hydref 1913 - brin bum mis cyn geni Ioan Mai.

Bu John Evans, tad Ioan Mai, yn trin ithfaen yn rhai o chwareli’r dalaith yn Red Granite a’i fam, Ellen, yn gwneud gwahanol swyddi fel cadw lojars - hefyd yn capela yn Gymraeg ar y Sul ac yn mynychu ffair flynyddol y cowbois ac yn mynd i’r pictiwrs ambell i bawn gyda phomeranian ar ei glin.

Colli plentyn oherwydd blerwch

Yr oedd yn dychwelyd i Gymru yn awr am iddi golli ei chyntaf anedig oherwydd blerwch meddygol ac ofn i’r un peth ddigwydd i’r baban newydd oedd yn ei chroth.

Lai na blwyddyn wedi ei thaith ar y Lusitania roedd y Rhyfel Mawr wedi cychwyn ac ym Mai 1915 suddwyd y llong gan long danfor Almaenig oddi ar arfordir Corc, Iwerddon.

Boddwyd 1,201 - gan gynnwys nifer o Americanwyr cyfoethog, y criw a thri Almaenwr oedd yn garcharorion yn y celloedd.

Bu’r gresynu am anfadwaith yr Almaenwyr yn fodd, maes o law, i dynnu’r Unol Daleithiau i mewn i’r rhyfel.

Yn naturiol yr oedd gan Ellen Evans ddiddordeb yn nhynged y llong, diddordeb a drosglwyddodd i Ioan Mai, ei mab.

Mae'n ddiddordeb sy'n dal yn fyw yn y teulu heddiw, 85 mlynedd wedi'r digwyddiad. Ar hyn o bryd mae Ioan Mai yn sgrifennu llyfr am y llong a dirgelwch ei suddo a gyhoeddir cyn diwedd y flwyddyn.

Yr hyn a glywodd ei fam gan y morwyr

Mae ganddo ddamcaniaethau diddorol gyda rhai o’r pethau a glywodd ei fam gan y morwyr, yn rhyfeddol ddadlennol.

Bedwar mis cyn y fordaith honno yn 1913 yr oedd y Lusitania wedi bod mewn doc sych yn Lerpwl. Yn ôl Cwmni Cunard yr oedd hi yno i osod tyrbeins newydd ond mae amheuaeth fawr a yw’r eglurhad hwnnw’n wir.

Mfwy tebygol o lawer yw fod y leinar yn cael ei haddasu at bwrpas rhyfel.

Ym mis Mawrth 1914, bum mis cyn cychwyn Y Rhyfel Mawr, cyhoeddodd Prif Arglwydd y Morlys, Winston Churchill, fod deugain o longau masnach Prydain wedi’u harfogi at bwrpas amddiffynnol.

Ceir cefnogaeth bellach i’r ddamcaniaeth gan rywbeth a ddywedodd Churchill mewn cyfarfod ricriwtio yn Lerpwl, lle digwyddai’r Lusitania fod wrth y cei: "I mi nid yw ond 45,000 tunnell arall o abwyd byw (livebait)."

Churchill yn gwybod am y perygl?

Defnyddiwyd y gair livebait fel prawf fod Churchill yn ymwybodol o’r perygl i’r Lusitania. A’i fod yn fodlon ei haberthu er mwyn pardduo’r Almaenwyr yng ngolwg America, pe suddid hi.

A dyna’n union ddigwyddodd.

"Aeth llawer blwyddyn heibio," meddai Ioan Mai. "Un prynhawn yr oedd fy mam erbyn hyn wedi troi ei deg a phedwar ugain oed. Canodd y ffôn a dyma ymchwilydd o'r morlys yn holi a oedd John ac Ellen Evans yn dal yn fyw. Roedd am wybod beth oedd eu hatgofion o’r fordaith ar y Lusitania yn Hydref 1913.

‘Deud wrtho fo,’ meddai mam, ‘ma dirty ship o’dd hi.’ Dyma fi’n ei hannog i ddewis ei geiriau yn fwy gofalus.

"‘Chdi sydd ddim yn dallt’ medda hitha. ‘Y criw o’dd yn ei galw hi’n dirty ship … a hynny am nad o’dd hi’n cymryd y tonnau fel dylsa hi. A deud wrtho fo fod y criw yn deud mai'r rheswm am hynny oedd ei bod hi yn y dry dock yn Lerpwl am ddeufis cyn hwylio i roi gynnau arni.’

"Diolchodd y dyn ar y ffôn a holodd o ddim mwy."

Bydd edrych ymlaen mawr yn awr at weld union gasgliadau Ioan Mai yn ei lyfr ynglyn â'r dirgelwch mawr hwn.

 
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy