Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Ail
wynt
i Nova

Arloesydd a fu farw
yn cychwyn eto

Dydd Iau, Mai 25, 2000

Cylchgrawn yr wythnos: sylwadau Glyn Evans

Mae o'n un o'r cloriau mwyaf trawiadol a chofiadwy yn hanes cloriau cylchgronau.

Croten fach ddu yn sefyll yn ddel uwchben y geiriau: "Efallai eich bod chi'n meddwl fy mod i'n edrych yn annwyl ond a fyddech chi'n byw y drws nesaf i Mami a Dadi?"

Un o nifer o gloriau yn adlewyrchu natur flaengar y cylchgrawn Nova a gyhoeddwyd gyntaf yn 1965 ac a agorodd gwys go arbennig ym maes cylchgronau merched rhwng hynny a'i ddiwedd yn 1975.

Sathru cyrn hysbysebwyr

Nova
ddechreuodd wneud y pethau nad oedd cylchgronau merched yn eu gwneud cyn hynny. Un o ganlyniadau hynny oedd sathru cyrn hysbysebwyr.

Ddechrau'r saithdegau, cyn iddi fod mor ffasiynol ag yw hi heddiw i wrthwynebu gwisgo dillad ffwr, defnyddiodd Nova drampod a chardotion i fodelu cotiau ffwr. Disgrifwyd y cotiau fel "y pethau olaf ydych eu hangen."

Collodd filoedd o bunnau wrth i gwmniau dillad ffwr wrthod hysbysebu ynddo.

Dangos y ffordd i eraill

Er i Nova ei hun farw yr oedd wedi gwneud digon i ddangos y ffordd i gylchgronau merched eraill a aeth yn fwy-fwy rhyfygus gyda threigl y blynyddoedd.

Erbyn hyn mae pob un yn llawn rhyfyg.

Y mis hwn, mae'r cylchgrawn a gyhoeddodd erthygl fentrus (yn y chwedegau) "Sut i ddadwisgo gerbron y gwr" ac a gyhoeddodd luniau modelau yn eistedd ar y ty bach, yn awr am roi cynnig arall arni.

Digwydd hynny mewn dyddiau pan yw cylchgronau merched 'blaengar' wedi eu britho ag erthyglau orgasmig ynglyn a charu efo dynion dieithr, caru efo merched eraill, cynhyrfu'ch gilydd yn rhywiol ac yn y blaen.

Agor ei fater ei hun

Yr addewid yw y bydd Nova newydd cwmni IPC yn agor ei fater ei hun yn hytrach na cheisio cystadlu'n uniongyrchol a'r rhyfyg hwn.

Bydd yn ceisio bod yn flaengar ac yn sylweddol ar yr un pryd.

Mae'r rhifyn newydd cyntaf gyda llun o Ann Claudia yn syllu'n syn arnoch oddi ar y clawr yn cael ei ddisgrifio fel Collector's Edition.

Faint fydd ei werth mewn ugain mlynedd, nid oes wybod. Mewn ocsiwn yn 1997 talodd Jarvis Cocker o Pulp £2,1000 am gasgliad cyflawn o'r 125 o gopiau a gyhoeddwyd rhwng '65 a ''75 er mai ond £300-£600 oedd y pris gofyn.

Defnydd trawiadol o luniau

Tebyg bod digon o amser wedi treiglo ers yr angladd yn '75 fel na fydd yn rhaid i'r cyhoeddwyr newydd fod yn rhy ymwybodol o draddodiad hynod y cylchgrawn.

Does yna ddim yn y rhifyn cyntaf sy'n mynd i ddychryn na chyffroi neb sy'n darllen y cylchgronau hyn ond y mae yna arwyddion y bydd yna ddefnydd trawiadol o luniau - fel y llun o gig noeth penglog wedi ei flingo i fynd efo erthygl am ddillad ffwr unwaith eto!

"Fur is sexy, we all fantasise about having some kind of sex with animals," meddai un pennawd.

Ffasiwn mwy rhyfeddol fyth yw'r un ymhlith merched i greu lluniau trawiadol ar flew eu harffed.

"In the USA, crotch couture doesn't raise an eyebrow," meddai rhyw ddynes o Miami wrth drafod y "pubic topiary" hwn sy'n galluogi merched i gael baneri eu gwlad, mefusen neu logo Merc yn yn eu mannau dirgel.

Dywedodd y golygydd cyn cyhoeddi na fyddai'n mynd ar ôl deiets carlam a phrydferthwch smâl. Yn y rhifyn hwn yr hyn mae'n ei wneud yw tynnu'r gorau o brydau merched cyffredin o Ffrainc, Siapan, yr Unol Daleithiau a Phrydain - y pedair ohonyn nhw yn cael eu darlunio'n noeth.


Blair yn ddyn lloerig!

Bu'r cylchgrawn hefyd yn holi cant o ferched 'blaengar' - Juli Burchils a Mo Mowlams y byd yma - am bynciau cyfoes fel hhiliaeth, cyffuriau a phriodoldeb cyplau hoyw yn magu plant.

Y canlyniad? Dywedodd 83 ohonyn nhw nad yw merched sy'n gweithio yn cael chwarae teg.

Dim ond 47 sy'n "dal i gredu yn Tony Blair" a dywedodd Rebecca Ray amdano, "Dyn Lloerig wedi dod i ddinistrio Prydain ydi Tony Blair. Mae wedi mynd yn wallgof. Pe byddwn yn ei gyfarfod yn y stryd byddai gennyf ei ofn"

Ychydig iawn, iawn, sydd o'r farn na ddylai cyplau hoywon gael magu plant ond y mae amhendantrwydd ynglyn â'r cwestiwn, A yw dynion angen merched fwy nag yw merched angen dynion?

Merched yn fwy particlar

Beth bynnag yr angen y mae erthygl arall yn cyhoeddi fod yna "dystiolaeth wyddonol" fod merched yn fwy gofalus na dynion efo pwy maen nhw'n cysgu.

Dim ond chwech o ferched allan o bob cant a ddywedodd ie wrth ddyn dieithr yn eu gwahodd i'w gartref y noson honno tra bo 69 y cant o ddynion wedi derbyn yr un gwahoddiad oddi wrth ferch.

Ni chytunodd yr un ferch i garu â dyn yr oeddynt newydd ei gyfarfod ond yr oedd 75 y cant o ddynion yn fodlon manteisio ar yr un cynnig gan ferch ddieithr.

Rhyfedd o fyd.

Nova. The Second Coming. mehefin 2000. £1.50

"
Wythnosau Blaenorol:

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y SΓ®n Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy