Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Adnabod
Bro
Conwy

Yr union lyfr ar gyfer Steddfod Genedlaethol yr Urdd
yr wythnos nesaf

Dydd Iau, Mai 25, 2000

.
Cyhoeddir y llyfr Bro Conwy yn arbennig ar gyfer ymweliad Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a'r fro honno yr wythnos nesaf.

Dyma nawfed llyfr Cyfres Broydd Cymru - pob un ohonyn nhw wedi eu cyhoeddi i gyd-daro ag ymweliad un o'r ddwy Eisteddfod Genedlaethol a gwahanol ardaloedd Cymru.

Awdur Bro Conwy yw Eryl Owain a bydd y gyfrol hon yn un anhepgor ar gyfer unrhyw ymwelydd a Llandudno.

Bythynnod pysgotwyr

Tref gymharol ifanc yw hi wedi tyfu yn ganolfan wyliau o'r hyn a oedd yn bentref mwyngloddwyr a physgotwyr a'u bythynnod ar lethrau'r Gogarth,

Fel yr eglura Eryl Owain, teulu pwysicaf yr ardal oedd teulu Mostyn ac ef a fu'n gyfrifol am droi'r dref y ganolfan wyliau sidêt ag yw heddiw.

"Yn 1934 gallai arweinlyfr frolio fod yn Llandudno dros ddwy fil o fannau i aros noson ac ar yr un pryd gallai gynghori fod yn rhaid llogi ymhell ymlaen llaw i sicrhau ystafell," meddai Eryl Owen.

Lle i wylliaid guddio ysbail

Wrth gwrs, y mae Bro Conwy yn ymestyn ymhell tu draw i ffiniau Llandudno ac os bydd cyfle rhwng sesiynau steddfodol byddai'n braf ymlwybro i dueddau Llanrwst, Bro Elwy, Uwchaled ac yn y blaen - ardaloedd sydd wedi eu mwydo mewn diwylliant a thraddodiad.

Pentref Ysbyty Ifan lle rhoddodd Ifan ap Rhys o Dre Brys dir i farchogion Urdd Sant Ioan sefydlu eglwys ac ysbyty tua 1190 - ond bod ysbyty yn golygu lletygarwch yr adeg honno yn hytrach nag yn lle i'r sâl fel heddiw.

Yma yr arhosai pererinion ar eu ffordd i Enlli.

Yn ystod dyddiau Edward 1 meddiannwyd Ysbyty Ifan gan wylliaid "a gamddefnyddiodd yr hawl o seintwar i sefydlu lloches ar gyfer eu hysbail."

Un o enwogion diweddarach yr ardal oedd y cerddor, T. Osborne Roberts, gwr Leila Megane.

Brodor enwog y methais a gweld ei enwi ydi Orig Williams. Nid yw'n cael ei enwi mewn cysylltiad â Llansannan lle mae'n byw yn awr ychwaith mwy nag yw Syr Wyn Roberts yn haeddu ei enwi mewn cysylltiad a'r Ro-wen er bod yr awdur Saesneg Gwen Moffat yn haeddu brawddeg. Go brin i'w chyfraniad hi fod cymaint i'r Gymraeg a Syr Wyn.

Ond y mae yma, yn gyffredinol, oriel deg o enwogion, Richie Thomas ym Mhenmacho a'r englynwr Sion Owen a anfonodd air o'r America ar ôl sylwi iddo wneud camgymeriad mewn englyn ar bont y llan.

Trechu'r Afanc

Stori ryfeddol yw un Llyn yr Afanc. Yr Afanc yn anghenfil a fyddai'n achosi difrod i'r dyffryn a'i bobol.

"Rhwymwyd ef mewn cadwynau hirion a chryfion a chael y ddau ychen cryfaf yn y wlad i'w lusgo drwy Ddolwyddelan a thrwy fwlch yn y mynydd . . . sy'n dwyn yr enw Bwlch Rhiw'r Ychen o hyd. Bu'n gymaint o ymdrech nes i lygad un ychen syrthio o'i ben a dyna pam y gelwir llyn bychan gerllaw yn Bwll Llygad yr Ych."

Mae'r gyfrol yn berwi o straeon tebyg sy'n dangos adnabyddiaeth drylwyr o'r ardal.

Eglura darddiad yr ymadrodd Cymru, Lloegr a Llanrwst.

Deillia meddai o'r cyfnod pan oedd y dref ar y ffin rhwng Tywysogaeth Gwynedd ac Arglwyddiaeth Dinbych "ac yn osgoi gorfod plygu i'r naill na'r llall."

Protest yn erbyn syrcas Seisnig

Yn Nhrefriw, sy'n enwog am ei ddyfroedd iachusol, bu gwrthdystaid yn 1863 gan Gwyilym Cowlyd yn erbyn "syrcas deithiol Seisnig" oedd yn cael ei hadnabod fel yr Eistedddfod Genedlaethol.

"Torrodd ar draws weithgareddau'r Orsedd a gynhaliwyd ar y sgwâr yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, 1891. . . Hebryngwyd ef oddi yno gan heddwas."

Cowlyd yw awdur un o englynion hyfrytaf y Gymraeg;

Y llynau gwyrddion llonydd - a gysgant
Mewn gwasgod o fynydd
A thynn heulwen ysblennydd,
Ar len y dwr, lun y dydd.


Er cyfoethoced yr englyn bu'r bardd ei hun farw mewn tlodi.

Nid pob darn o farddoniaeth sydd mor ganmoliaethus fel y dengys y rhigwm hwn i'r Sportsman's Arms neu Fryn Trillyn:

I Bryn-trillyn daw'r cwrw brag
Barilau'n llawn a mynd o'ma'n wâg
Ond mae'r morynion yn wahanol iawn
Dod yma'n wâg a mynd o'ma'n llawn.

Yn ogystal a'r testun difyr y mae yn y gyfrol hefyd restr o atyniadau arbennig, atyniadau hamdden, llyfryddiaeth a mynegai i leoedd a phobol.

Bro Conwy
gan Eryl Owain. Cyfres Broydd Cymru 9. Gwasg Carreg Gwalch. £3.95.
Wythnosau Blaenorol:

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y SΓ®n Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy