Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Angen nyrs
i nyrsio'r
nyrsus?

Bwlio a chamdrin angylion

Dydd Iau, Mai 11, 2000

Y mae ymhell dros hanner y Nursing Times yn hysbysebion swyddi.

Hawdd deall pam os ydi prif erthyglau dau rifyn o'r cylchgrawn yn llinyn mesur.

Y mae nyrsus yn bobol sy'n cael eu gorweithio a'u bwlio yn ofnadwy.

Dydi hon ddim yn ddelwedd ydym yn ei chysylltu a'r 'angylion' truenus eu cyflog hyn ond yn ôl arolwg yr NT y mae'n rhywbeth sy'n digwydd ar raddfa eang o fewn y gwasanaeth iechyd.

"Bullying is rife in the NHS." meddir gan ychwanegu:

"Fel pe na byddai gan nyrsus ddigon i ddygymod ag ef yn amddiffyn eu hunain rhag ymosodiadau aelodau cecrus a meddw o'r cyhoedd." .

Pum gwahanol fath o fwlio

A chwynir mai'r peth gwaethaf ynglyn â'r bwlio yma yw fod y bwlis yn llwyddo i wneud hynny heb gael eu cymryd i gyfrif.

Mae pum gwahanol fath o fwlio:

Lladd ar gymeriad rhywun trwy ddirmyg a sibrydion.
Gwrthod caniatad i'r victim ateb yn ôl trwy weiddi a rhegi arnyn nhw.
Eu hynysu a'u hanwybyddu
Gwneud eu gwaith yn anodd a'u gorweithio.
Camdrin yn gorffol neu eu bygwth a chamdriniaeth gorffforol.

Mor ddrwg yw cyflwr rhai nyrsus, y mae rhaglenni teledu am nyrsus ac ysbytai yn codi ofn arnyn nhw. Mae eraill yn dioddef o iselder ac yn methu cysgu'r nos.

Lludded emosiynol

Fel pe na byddai hyn yn ddigon; y mae rhifyn yr wythnos ganlynol, yr wythnos hon, o NT yn son am nyrsus meddwl yn y gymuned yn dioddef o anhwylder seicolegol a lludded emosiynol ac yn gorddefnyddio alcohol oherwydd stres a phwysedd gwaith.

"Burnt out - is work wrecking your life?" hola'r NT.

Disgrifir nyrsus wedi ymlâdd yn emosiynol, yn meddwl yn isel ohonyn nhw'u hunain, yn smocio dros 20 y dydd ac i ffwrdd yn sâl o leiaf naw diwrnod y flwyddyn.


Nid y math o fywyd y mae rhywun yn ei gysylltu a gwaith nyrs!

Rheswm arall y mae colofnydd o'r enw Mark Radcliffe yn ei gynnig dros brinder nyrsus. Dywed ef fod yna gymaint o wahanol swyddi fel na all pobol benderfynu pa un i drio amdani.

Dywed fod yna fwy o wahanol swyddi nyrsio nag sydd yna o wahanol fathau o siocled a darlunia 45,000 o wannabe nurses a'u trwynau yn erbyn ffenast y siop nyrsio yn methu a phenderfynu pa flas i fynd amdano.

Ef hefyd sy'n egluro sut y mae pethau mewn gwirionedd gyda'r swyddi siwpyrnyrsus mawr eu cyflog yr ydym wedi clywed cymaint amdanyn nhw yn ddiweddar.

Meddai Radcliffe: "Am bob nyrs ymgynghorol y mae yna rhyw 15,000 o nyrsus gradd D ac am bob swydd glinigol arbenigol y mae yn lond berfa o swyddi gradd-E.

Help gyda'r bwyd

Ond un swydd newydd ddiddorol sy'n cael sylw'r NT yw un y ward hostess - sef pobol sydd ar gael ei helpu cleifion gyda'u prydau bwyd ac yn gweithio rhwng deg y bore a dau y pnawn.

Yn ôl cynllun peilot mae canmoliaeth cleifion ohonyn nhw yn fawr iawn.

Un peth y mae rhywun yn ymwybodol iawn ohono o ddarllen yr NT yw fod arian yn rhywbeth sy'n dal i lethu'r gwaith pwysig - a diddiolch, yn aml - hwn.

Dim rhyfedd fod un colofnydd yn dyfynnu cwestiwn a ofynnodd Julie Burchill yn y Guardian rai wythnosau'n ôl wrth gymharu'r cyflog nyrsus ac actorion.

"Pam y mae pobl yn cael cardod am fod yn nyrsus go iawn ond yn cael ffortiwn am smalio bod yn nyrs?" meddai hi.

Trethu cardiau cyfarch

Un ffordd o godi arian yw trwy drethi a chyfeiria'r NT at awgrym dyn o Uttoxeter a gafodd sbel mewn ysbyty.

Awgryma ef ychwanegu treth at bris y cardiau hynny sy'n dymuno ichi wella'n fuan. "Dydw i ddim yn meddwl y byddai neb yn cwyno talu 50c yn ychwanegol am gerdyn pe byddai'r arian yn mynd i'r gwasanaeth iechyd," meddai.

Efallai nad ydio'n syniad mor ddwl a hynny.

Nursing Times. £1.10 yr wythnos.



Os yr ydych eisiau ymateb i'r erthygl hon cliciwch isod a gwebostio:

glyn.evans@bbc.co.uk

 
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y SΓ®n Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy