Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Llinyn Trons
yn cydio

Adolygiad o Nofel y Mis

Dydd Iau, Mai 19, 2000

Syniad i'w ganmol ydi un Cyngor Llyfrau Cymru i gael Nofel y Mis gyda’r nofel honno yn cael lle o anrhydedd mewn siopau llyfrau.

Mae’n syniad gwell fyth pan yw’r nofel sy’n cael ei dewis yn un mor naturiol a gafaelgar ag un mis Mai.

Mae awdur Llinyn Trons yn adnabyddus i ddarllenwyr Â鶹ԼÅÄ Cymru’r Byd gan fod Bethan Gwanas yn un o’n cyfranwyr rheolaidd.

Daeth i amlygrwydd fel nofelydd, gyntaf, gyda’r nofel rygbi merched, Amdani, a drowyd wedyn yn gyfres deledu.

Criw o bobol ifanc yn eu harddegau yw cymeriadau Llinyn Trons - gyda Llinynh Trons yn llysenw un ohonyn nhw oherwydd ei fod yn cael ei ystyried - wel, yn cael ei ystyried yn dipyn o linyn trons.

Mae’r teitl bachog yn arwydd o’r math o iaith naturiol, hawdd ei dilyn sy’n cael ei defnyddio yn y nofel. Iaith sy’n peri i’r stori lifo’n ddirwystr o un ddalen i’r llall.

Llinyn Trons, Llion Jones, sy’n dweud yr hanes yn ei eiriau ei hun am brofiadau criw o blant ysgol blwyddyn TGAU yn dod i adnabod eu hunain ac i adnabod ei gilydd tra’n treulio cyfnod mewn canolfan gweithgareddau awyr agored.

Mae yma ddringo, hwylio canws, syrthio mewn cariad, cenfigen, croesdynnu a dysgu gwersi.

Y mae rhywun yn ymwybodol yn syth mai am bobol - plant - go iawn y mae Bethan Gwanas yn sgrifennu. Mae’r dweud yn naturiol drwyddo draw ac yn arw pan fo galw am hynny. Er yn nofel i rai o oed ysgol dydi hon ddim yn nofel y mae ei hiaith wedi ei diheintio a’i glastwreiddio ar gyfer y dosbarth.

"Fy mwriad oedd apelio at bobl ifanc sy’n darllen fawr ddim Cymraeg ar hyn o bryd. Dwi’n gobeithio y bydd plant ysgol yn gallu uniaethu â’r stori, y cymeriadau â’r iaith sydd yn y gyfrol," meddai Bethan.

Diau, iddi daro’r cywair cywir er efallai y bydd ambell un yn codi ei eiliau wrtyh ddarllen am bobol ifanc ar ‘wyliau’ ysgol yn rhegi, hel diod a chwydu ond bydd y digwyddiadau a’r sgyrsiau yn rhai a fydd yn gyfarwydd i ddarllenwyr ieuanc heddiw.

Ac er wedi ei sgrifennu ar gyfer plant nid oes amheuaeth y bydd sawl darllenydd hynach yn cael blas arni hefyd.

Mae llawer o’r nofel yn ymwneud a’r gweithgareddau awyr agored eu hunain a’r modd y mae criw o blant yn cydymddwyn ac yn gwrthdaro dan amgylchiadau arbennig. Y mae i bob un o’r cymeriadau ei nodweddion a’i briodoleddau a hynny’n creu gwahanol densiynau o fewn y grwp.

Y mae tro annisgwyl a thrist yng nghynffon y nofel ond yn gwbl greadwy gan gyffwrdd ac yn argyhoeddi.

Nofel fer, fyrlymus am bobol go iawn gyda sgyrsiau naturiol, felly. Nofel werth chweil ar gyfer unrhyw fis.

Llinyn Trons gan Bethan Gwanas. Lolfa. £4.95.


beth ydych chi wedi ei ddarllen yn ddiweddar? Beth oedd eich barn amdano? Anfonwch i ddweud. Cliciwch isod a gwebostio:
glyn.evans@bbc.co.uk

 
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy