|
|
Merched
ddoe
Yn
dal cyn hardded
ag erioed
Glyn Evans yn edrych ar Gylchgrawn yr Wythnos
Dydd Iau, Mai 4, 2000
|
Dydyn
nhw ddim yn eu gwneud nhw fel oeddan nhw. Dyna’r unig gasgliad i ddod
iddo wrth fyseddu’r rhifyn diweddaraf o’r cylchgrawn i ddynion, Later.
Rhaid i’r cylchgrawn hynod gyfoes ac amserol hwn fynd yn ôl
i’r pumdegau i chwilio am pinup werth chweil.
Ac yn wir i chi, hyd yn oed heddiw y mae yna rywbeth yn dal yn go
arbennig ynglyn â'r Brigitte Bardot ifanc - y ferch a oedd yn gyfuniad
o ddiniweidrwydd a goglais rhywiol ac y bathwyd y term sex kitten
ar ei chyfer.
Llun a dynnwyd ohoni hi - the 20th century’s most remarkable sexual
icon - yn noeth yn y pumdegau yw un o brif luniau’r cylchgrawn
a dwy ddalen ohoni mewn wyth gwahanol ystum rhywiol i gadarnhau cywirdeb
y geiriau.
Ac oedd, yr oedd rhywbeth yn sbesial ynglyn â seren Et Dieu
Crea La femme - A Duw a Greodd Ddynes. O safbwynt pryfocio
rhywiol dydi’r eiconau modern fel Heather I-feel-sexy-Graham
ddim yn y râs hyd yn oed mewn rhan arall o'r cylchgrawn.
Yn syth i Uffern
Yr ydym i gyd, dwi'n siwr, yn falch o ddarllen fod Heather (y mae
ei chorff lluniaidd wedi ei deilwrio’n arbennig ar gyfer hotpants
a sgidiau uchel) wrth ei bodd gyda "crude humour" ac yn gwbl
gartrefol gyda’r "concept of sexual congress."
Hynny, er ei bod wedi ei magu yn "devout Catholic" y dywedwyd
wrthi fod y llwybr rhywiol yn arwain ar ei ben i Uffern.
Yr argraff a gawn yw ei bod erbyn hyn wedi cysegru ei bywyd i ddadwneud
diniweidrwydd yr ieuengrwydd Pabyddol hwnnw - ac yn gwneud eithaf
joban o hynny mewn ffilmiau nid amwys eu teitlau fel Two Girls
and a Guy - heb anghofio am ei phen ôl wrth gwrs.
Ond mae’r cylchgrawn yn mynnu edrych yn ôl. Nid yn unig ar Bardot
ond ar brydferthwch Kim Bassinger, hefyd, a fu’n hudo Garth mewn londret
yn Wayne’s World yn 1993.
Y cwestiwn nad yw’n cael ei ofyn na’i ateb yw; a fyddai y boneddigesau
Bassinger, Bardot a Graham yn edrych ddwywaith arnom ni ddarllenwyr
Latest.
Dynion pasgedig, boliog
A chymryd ein bod ni i gyd yn edrych fel y dynion yn yr erthygl am
golli pwysau, Male weight-loss: Forget Everything you’ve been told,
go brin y byddan nhw onibai eu bod nhw, fel Heather, yn mwynhau
jôcs - neu o leiaf ddynion pasgedig, boliog, sy'n edrych yn dipyn
o jôc.
Datgelu’r "ffeithiau caled" sut yr ydym yn ennill brasder a sut i
gael gwared ag ef wedyn y mae’r erthygl. Ymhlith yr awgrymiadau y
mae codi awr yn gynt a mynd allan i gerdded am hanner awr cyn brecwast.
Yn wir, cerddwch, cerddwch, cerddwch ydi’r neges fawr i foliau mawrion
fel fi: cerdded i fyny’r grisiau yn lle defnyddio'r lifft; cerdded
i fyny grisiau eraill i dai bach y llawr uwchben yn hytrach na’r rhai
cyfleus ar eich llawr eich hun a cherdded i weld pobol mewn swyddfa
ym mhen draw yr adeilad yn hytrach na'u galw ar y ffôn mewnol.
Ac yfed llawer o ddwr.
Hynny, mae’n debyg, fel eich bod yn treulio mwy fyth o amser yn nhai
bach y llawr uwchben a gwneud mwy fyth o waith siarad i’ch cydweithwyr.
Beicio yn eich hunfan
Awgrym arall, mewn erthygl arall, ydi beicio. Ond nid y math hwnnw
o feicio sy'n mynd a chi i rywle ond ar gefn beic sy’n sefyll yn ei
unfan waeth faint fyddwch chi’n dradlo.
Pwy fyddai’n credu y gallech chi losgi 700 calori mewn hanner awr
a deng munud trwy aros yn eich hunfan?
Ond go brin fod hwn yn ymarfer i'w argymell i’r rhai hynny sy’n teimlo
nad yw eu bywyd yn mynd i le’n byd.
Sut i fod yn sâl
Ac os na wnaiff yr holl ymarfer sefydlog yma ichi deimlo’n gwla mae
Later yn rhoi manylion bob mis am salwch y gallwch ffonio’r
gwaith amdano i gael amser i ffwrdd.
Mae'r golofn, "Ways to get a day off sick - illnesses you
can fake on the phone" yn swnio'n un fuddiol iawn i mi.
Salwch y mis y tro hwn yw Bowenoid Papulosis sy’n gwarantu
saith niwrnod ar y tro i ffwrdd yn sâl ichi.
Nid yn unig rhoddir manylion am y salwch ei hun ond hefyd, gynghorion
ynglyn a'r pre-illness preparation achos cyfrinach unrhyw salwch
smalio effeithiol yw fod y bobol yn y gwaith yn dweud, pan ydych chi
i ffwrdd, bethau fel, Dydio ddim wedi bod yn edrych yn iawn ers
dyddiau.
Gyda llaw rydw i’n hoffi’r awgrym o gael salwch hynod bersonol gan
fod bosus yn swil o holi’n rhy fanwl ynglyn â’r rheini.
Ffasiwn Caerdydd a Merthyr
Y mae llawer gwell siap fodd bynnag ar y criw o fechgyn ifanc y daeth
adran ffasiwn Later ar eu traws ar strydoedd Caerdydd.
Sean
yr entrepreneur a qualified psychologist 29 oed
yn gwisgo siaced a throwsus gan Hennes er enghraifft a Craig, 27,
y rheolwr storfa, mewn Rollneck gan French Connection a throwsus
gan Reiss.
Ond dydi Later ddim yn datgelu ei fod ef, Craig Lima, hefyd
yn chwarae pêl-droed i Ferthyr Tudful lle mae wedi sgorio pedair
gôl i'r tîm cyntaf y tymor hwn a lle mae'n cael ei adnabod
fel tipyn o classy dresser.
Pawb a'i broblem
Mae gan Later ("Voted best new magazine,"
meddan nhw, er na ddywedir gan bwy!!) golofn hefyd ar gyfer y rhai
hynny sydd ddim yn sgorio - neu yn achos un darllenydd y disgwylir
iddo sgorio mewn lleoedd anghyfleus.
Ar gyfer rhoi'r bobl hynny ar ben ffordd sicrhawyd gwasanaeth Alan
Percy, yn "resident therapist and relationship adviser"
a Paul Daniels y consurwr.
Sgrifennodd un o'r darllenwyr i mewn ii gwyno, os cwyno hefyd: "My
girlfriend only likes sex in strange places - parks, buses, anywhere
but the bedroom in fact. It’s great every now and again, but how can
i convince her that sex can be just as much fun at home?"
Dydio ffadan o wahaniaeth gen i be di cyngor Alan a Paul. Yr hyn ydw
i eisiau wybod ydi, lle gallaf i ddod o hyd i ferch felna?
Later. Rhifyn 13. Mehefin 2000. £3.
Os yr ydych eisiau ymateb i'r erthygl hon cliciwch yma a gwebostiwch:
glyn.evans@bbc.co.uk
|
|
|