Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


llyfr Huw Jones Chwipio
chwain
a dal
cwningod


Golwg ar ddywediadau bachog y ffermwr wrth ei waith


Dydd Iau, Ebrill 20, 2000
Ni all rhywun ond edmygu, a rhyfeddu at, lafur ac ymdrech Huw Jones yn llunio y Cydymaith Byd Amaeth y mae ei ail gyfrol wedi ei chyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch.

Pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau bydd yn garreg filltir mewn geiriaduro yn y Gymraeg - ac angen tipyn o le ar silff lyfrau rhywun.

Bydd yn bedair cyfrol i gyd a gyda’r ddwy gyntaf dros bedwar can tudalen yr un, mae’n amlwg fod yma gryn chwysu wedi bod a dim ond at ddiwedd y llythyren L yr ydym wedi cyrraedd.

Y mae Huw Jones yn adnabyddus fel gweinidog ac fel arweinydd ffraeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol pan nad oedd raid ichi fod yn actor neu seren deledu i fedru arwain steddfod.

Ef hefyd yw awdur darlith hwyliog y llofft stabal. Darlith sy’n arwydd bod ei bedigri amaethyddol yn un go sownd.

Chwarel o wybodaeth
Mae’r ddwy gyfrol y mae wedi eu cyhoeddi yn barod yn brawf fod ganddo chwarel ddishysbydd o wybodaeth am y byd amaethyddol.

Achos y mae’r Cydymaith Byd Amaeth yn llawer iawn mwy na dim ond geiriadur termau amaethyddol. Y mae’n cynnwys nid yn unig ystyron geiriau a thermau ond hefyd nodiadau gwerthfawr am arferion amaethyddol - rhai ohonynt yn arferion sydd wedi peidio a bod erbyn hyn. Pwy sy'n cofio, fod dal cwningod yn ddiwydiant o bwys yng nghefn gwlad ar un adeg wrth i ffermwyr drio troi pla yn gynhaliaeth?

Yr hyn sy’n wych gyda'r Cydymaith yw nad oes yr un manylyn wedi ei hepgor.

Chwilio am lithriad
Tuedd gysetlyd rhywun gyda chyfrolau fel hyn yw eu rhoi ar brawf. Chwilio am yr hyn sydd ddim yno neu hyd yn oed ddod o hyd i lithriad neu gamsyniad. A gyda’r gair dyfnu ar ddalen 86 y daliais innau yr hollwybodus fel petai.

"Cael y sugno, cael i arfer â sugno, cynefio â sugno (am lo, oen, ebol ayyb)," medda fo.

Wel, nid yn fy rhan i o'r byd, meddwn innau. Mae dyfnu yn golygu’r gwrthwyneb yn llwyr yno - sef ceisio cael anifail i beidio â sugno a’i gael i fwyta bwyd go iawn. Yr oeddwn yn synnu i Huw Jones, sydd hefyd o Sir Fôn, lithro yn y fath fodd.

Ond cyn imi roi croes ar ei lyfr darllenais ymlaen: "mewn cyferbyniad i diddyfnu sef cael i arfer â pheidio sugno. Gan fod dyfnu yn ffurf gywasgedig ar ‘diddyfnu’ mewn rhai ardaloedd gall fod yn gamarweiniol," meddai.

Aaaah!

Gweld y defnydd
Ychwanegiad buddiol at yr eglurhad o eiriau ydi’r dyfyniadau y mae’n eu cynnwys i ddangos y defnydd o’r geiriau neu ymadroddion mewn llenyddiaeth ac ar lafar. Eto dan dyfnu mae’n rhoi yr enghreifftiau:O enau meibion a rhai yn dyfnu y gwnaethost foliant o 1632 ac o 1750 daw’r dyfyniad, "Cig perchyll ac wyn tra fwynt yn dyfnu, i ddyn ieuangc y mae da."

Nid hen eiriau yn unig yw cynnwys y Cydymaith. Y mae’r ail gyfrol hon yn cychwyn gyda Chwa ( enw gwrywaidd am ogwydd mewn olwyn) ac yn gorffen gyda lyri, sef ffurf dafodiaethol ar lori.

Rhwng y ddau begwn cawn ein tywys i fyd sydd weithiau yn rhyfeddol, bob amser yn ddifyr ac, ar adegau, wedi diflannu yn llwyr megis yn hanes y dyrnwr. Y mae adran helaeth yn ymwneud a hen arferad y diwrnod dyrnu .

"Canrif gwta fu oes y dyrnwr mawr yng Nghymru o 60au’r 19g i 60au’r 20g. Eithriad oedd ei weld ar waith ar ôl tua 1970" meddai - er ychwanega i un Bugeilys Bach yn Llyn fod yn gweithio cylchdaith ddyrnu mor ddiweddar a 1979.

Goleuo ystyr ymadroddion

Weithiau mae yma eglurhad sy’n goleuo ystyr ymadroddion yr ydym yn dal i’w defnyddio ond heb sylweddoli eu tarddiad.

Haff, er enghraifft, yn golygu "crafangiad sydyn, gafaeliad sydyn, cael gafael cyflym" meddai. Eglurhad sy’n rhoi ei wir awryddocad i’r dywediad cyffredin cael eich hafflau ar rywbeth.

A phan ydym yn son am rywun yn dod ar ei hald faint sy’n sylweddoli mai trot neu duth ceffyl yw hald a faint hefyd sydd yn sylweddoli pan yn son am rai yn hyrddio yn erbyn ei gilydd mai’r gair hwrdd - maharen - yw y gwraidd ac mai darlun sydd yma o ddau hwrdd yn tylcio ei gilydd? Yn hwrdd-io yn erbyn ei gilydd.

Mae termau eraill hefyd sydd yr un mor farddonol. Hoffais i chwipio chwain fel ymadrodd i ddisgrifio cae sydd mor llwm y gellir chwipio chwain arno. "Priodoldeb y ddelwedd yw bod y cae mor llwm fel nad oes gan chwain le i guddio," meddai Huw Jones.

Mae hwn yn ddywediad hwylus hefyd i’r rhai hynny sy’n chwilio am ffurf Gymraeg o no room to swing a cat, achos meddai Huw Jones eto: "Hefyd, stafell mor fach fel na ellir chwipio chwanen ynddi."

A gyda llaw pe byddech yn son am chwipio cath yn y Gymraeg, ymadrodd gwlad yw am waith teiliwriaid yr oes o'r blaen yn mynd o gwmpas ffermydd a chartrefi i deilwrio dillad yn ôl y galw.

Ond gallai rhywun fynd ymlaen am byth fel hyn - yn cyfeirio, er enghraifft, at un o’r tua deugain o ymadroddion yn cychwyn gyda'r gair dafad.

Diddordeb naturiol mewn geiriau
Y mae gan y rhan fwyaf ohonom ddiddordeb naturiol mewn geiriau ac ymadroddion a phe byddai ond am hynny y mae i’r Cydymaith ei apêl.

Ond y mae iddo fuddioldeb hefyd fel gwaith ymchwil sylweddol a bydd mawr edrych ymlaen at gael ein hafflau ar y ddwy gyfrol nesaf.

Gwelodd y ddwy gyntaf olau dydd o fewn blwyddyn i’w gilydd ac y mae’r wasg i’w chanmol am hynny o ystyried maint y cyfrolau.

I’w chanmol hefyd am gadw’r pris am y fath waith mor rhesymol a £10 y copi.

Cydymaith Byd Amaeth. Cyfrol 2: chwa-lyri
gan Huw Jones. Gwasg Carreg Gwalch. £10.


Os am ymateb i'r erthygl hon cliciwch ar
glyn.evans@bbc.co.uk
er mwyn gwebostio'n syth.

 
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy