|
|
Chwilio
am farn
yn y theatr
Bwrw
golwg dros gylchgrawn yr wythnos
Dydd Iau, Ebrill 5, 2000
|
Efallai
fod Rhodri Morgan yn arweinydd mwy poblogaidd nag Alun Michael yn
y Cynulliad Cenedlaethol. Ond a fydd o gystal?
Dyna'r cwestiwn sydd wrth wraidd erthygl yn y rhifyn diweddaraf o
Barn.
Mae arbenigwr ar wleidyddiaeth y dydd o Brifysgol Aberystwyth, Richard
Wyn Jones, yn tynnu sylw’r darllenwyr at y ffaith "nad yw cyfathrebu
cywrain arwr y werin yn ddigon i gynnal ei lywodraeth . . . Rhaid
g’neud nid, deud."
Dawn dweud
Er nad oes amau dawn dweud Rhodri dywed fod "cwestiynau wedi codi
ynglyn â’i ddawn gwneud. A dagrau’r peth - o safbwynt y Blaid Lafur
Gymreig - yw na fydd cyfathrebu cywrain yn ddigon o hyn ymlaen. Yn
y tymor canolig, mae’n rhaid i’r Cynulliad Cenedlaethol ddechrau gwneud
argraff os ydi’r Blaid Lafur Gymreig am ei chodi ei hun o’i chyflwr
lluddiedig presennol."
Dydi’r arwyddion ddim yn dda: ". . . mae beirniadaeth hallt y Comisiwn
Ewropeaidd o gynlluniau Llafur ar gyfer defnyddiio arian Amcan Un
yng Nghymru yn codi cwestiynau sylfaenol ynglyn â gallu Rhodri Morgan.
Wedi’r cwbl, ef oedd yr Ysgrifennydd oedd yn gyfrifol am baratoi’r
cynlluniau yma," meddai Richard Wyn Jones.
Pa ymateb bachog fydd gan Mr Morgan i hyn tybed.
Ac ynglyn â’r Amcan Un bondigrybwyll y mae erthygl bwysig,
a digon trwm, gan Gareth Wyn Jones ac Einir Young sy’n dadlau fod
y Trysorlys yn amddifadu Cymru o arian Ewropeaidd.
'Wedi siomi'r dosbarth gweithiol'
Pwnc gwleidyddol gwahanol sydd yn mynd a bryd Simon Brooks, golygydd
y cylchgrawn, yn ei golofn ef - sef y modd y mae’r Cynulliad, yn ei
olwg ef, wedi siomi’r dosbarth gweithiol yng Nghymru.
"Dosbarth, nid rhyw, yw’r prif anghyfiawnder yng Nghymru heddiw. Efallai
yn ein hymdrech i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau ein bod wedi
anghofio hynny," meddai.
Barn amserol
Yn cael eu hamlygu yn yr un rhifyn o Barn y mae anhawster cylchgrawn
misol i fod yn amserol.
Cyrhaeddodd y rhifyn hwn gydag erthygl ynddo yn cwyno am anffyddlondeb
Ryan Giggs i dîm pêl-droed Cymru yr union ddiwrnod wedi i hwnnw sgorio
gôl fendigedig dros ei wlad yn erbyn y Ffindir.
Trafodaeth ar gyflwr rygbi drannoeth gêm Lloegr a wneir er bod llawer
wedi digwydd ers hynny a bydd rhai yn darllen am ragoriaeth Iwerddon
ar ôl i Gymru eu trechu.
Chwilio am feirniaid
Mae’r adran Theatr yn gwbl amserol, fodd bynnag.
Ynddo mae Ifor ap Glyn yn cwyno fod Cymru yn brin o feirniaid.
"Mae’n rhyfedd pa mor anfodlon yw pobl i feirniadu," meddai - er mi
glywch chi lawer o gwyno sydd ddim, rwy'n cydnabod, yn union yr un
peth.
Ond eto meddai Ifor ap Glyn: "Os prin yw’r rhai sydd am fod yn feirniaid,
mae ’na lawer sy’n awchu am feirniadaeth."
Dydw i ddim mor siwr. Chwilio am ganmoliaeth mae llawer o'r bobl hyn
ond wrth ddweud hynny rwy'n cyfaddef nad ydw i mor gybyddus a hwy
a'r byd hwn.
'Paid a brifo'
Dydio ddim yn cynnig ateb i’r cwestiwn; oes na bethau gwerth eu beirniadu
er bod theatrau hanner gwag yn codi’r cwestiwn hwn - ond y mae yn
tynnu sylw at gyfrifoldeb beirniaid i "ddefnyddio’i b/phwer yn ystyriol"
rhag brifo yn ormodol gyda beirniadaeth gas. Yn enwedig frifo pobl
ifainc y gallai geiriau geirwon dorri eu calonnau.
Hmmm; fel y byddai Gwilym Owen yn dweud.
Glyn Evans
|
|
|