Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Romeao a straeon eraill
Adolygiad


Straeon
gyda gafael


Bu Glyn Evans yn darllen straeon byrion Gareth Miles

Dydd Iau, Mawrth 16, 2000

Y mae gan Gareth Miles agenda wleidyddol - os dyna’r ymadrodd trwsgwl, cywir - amlwg iawn ac mewn casgliad o straeon byrion o’i eiddo a gyhoeddwyd yn ddiweddar nid oes ymgais i guddio hynny.

Fe allai hynny, mewn dwylo llai celfydd, fod yn feichus i'r darllenydd ond dyw’r wythien wleidyddol amlwg ddim yn gwneud Romeo a Straeon Eraill yn wrthun o gwbl.

Y mae yn gyfrol eang ei gweledigaeth gyda’i gwleidyddiaeth nid yn unig yn un genedlaethol Gymraeg ond hefyd yn ymwneud a hawliau a brawdgarwch dyn yn fydeang.

Tebyg fod Marcsaidd yn air cyfleus a phriodol gydag argyfwng a gwrthdaro yn esgor ar ddigwyddiadau nid yn unig yn gymdeithasol ond mewn bywyd personol hefyd.

Mae yma rai profiadau personol hunllefus sy'n ysgwyd ac yn sobri rhywun.

Y mae’r llwyfan i’r chwe stori fer yn eang felly.

Plethu i'w gilydd
Yn ogystal a bod yn blethwaith thematig y mae rhai ohonyn nhw yn plethu i’w gilydd o ran y stori hefyd.

Er enghraifft, y mae Rhian ac M yn gorgyffwrdd ac hefyd Rosa a Branwen ond, yn y ddau achos, oherwydd breuder y cysylltiad does dim rhaid darllen y naill i werthfawrogi a deall y llall.

Mae yn gyfrol llawn adleisiau.Weithiau mae’r adleisiau hynny fel ag yn Branwen yn gwbl amlwg. Mae Cymraes o’r enw Branwen yn priodi Gwyddel, Kevin, sy’n aelod o’r IRA ac yn cael ei chamdrin ganddo ar ôl cartrefu ar yr Ynys Werdd. Does dim rhaid bod yn hyddysg iawn yn ei Fabinogion i weld arwyddocâd hynna.

Hon, i mi, yw un o straeon gorau y casgliad yn cael ei hadrodd o safbwynt sawl cymeriad gan gynnwys tad Branwen a’i brodyr Mathonwy a Gwyn gyda Mathonwy yn aelod o’r fyddin ac yn filwr yn Iwerddon.

Does yna ddim du a gwyn yn hon na'r straeon eraill ac mae cymhlethdod a thyndra y berthynas rhwng y gwahanol gymeriadau bob amser yn afaelgar ac weithiau yn gignoeth.

"Marwolaeth Mam oedd gwreiddyn pob drwg ddigwyddodd wedyn," yw’r frawddeg gyntaf yn Branwen sy’n agor y drws i gawlach o berthynas deuluol a chwestiynau am berthynas pobl a’i gilydd.

Yn y stori M y mae’r gyfeiriadaeth yn amlwg at y smyglwr cyffuruiau o Gymro, Howard Marks o Faesteg, ond y stori yn fwy na dim ond ei hanes o.

Camdrin a threisio
Datgelodd Gareth Miles adeg cyhoeddi’r gyfrol fod y stori ddirdynnol, Rosa, un arall o oreuon y gyfrol ond ei bod yn dirwyn i ben yn rhy frysiog, wedi ei sylfaenu ar hunangofiant Rigoberta Menchu o Guatamala.

Adlais o stori Blodeuwedd sydd yn ei hanes hi yn ferch ifanc o America Ladin a ddaeth i fyw i Gymru ar ôl cael ei chamdrin a’i threisio a gweld ei brawd ei hun yn cael ei ladd.

Nid oes amau dawn Gareth Miles fel lluniwr stori ac y mae ganddo ddawn arbennig i ddatblygu’r hanes trwy lygaid sawl cymeriad.

Rhagoriaeth arall yw ei ddawn i greu sgyrsiau a chyfleu natur cymeriad trwy ei sgwrs.
Mae sgwrs chwithig dau o hen gyfoedion ysgol yn cyfarfod ar faes y Steddfod yn benigamp yn Romeo a sgyrsiau'r cyfryn-gwn yn Eifion Maelor yn batrwm.

Y mae amrywiaeth o acenion a thafodieithoedd Cymraeg yma . Pob un yn argyhoeddi ac yn hwyluso’r darllen. Bydd sawl sgrifennwr yn genfigennus o glust mor fain.

Llawer mewn ychydig
Fel storiwr, hefyd, mae’n effeithiol ac yn ddiwastraff a does yna ddim afradu geiriau

Y mae llawer yn cael ei gyfleu mewn ychydig eiriau gyda’r brawddegau moel yn gwneud mwy na chofnodi ffaith ond yn cyfleu teimladau hefyd. Mae'n werth ei weld yn adeiladu brawddegau.

"Mi fydda’n hanas ni fel teulu wedi bod yn wahanol iawn pe na bai’r Sais wedi bod ar gymaint o frys i gyrraedd ’i dy ha’ yn Abar-soch. Doedd o na’i Jag fawr gwaeth. Mi ddaeth hen Wolsley 1500 ’Nhad o’r drin yn rhyfeddol o dda, ond mi aeth Mam drwy’r winsgrin."

Mewn cynildeb, mae llawer a go brin mai honna yw’r enghraifft orau o’r hyn rwyf am ei gyfleu.

Ar y clawr ymffrostir y bydd testun a ieithwedd y straeon hyn yn "sicr" o "ymestyn ffiniau y stori fer yng Nghymru."

Dydw i ddim yn siwr iawn be mae rhyw ymadrodd ffuantus felna i fod i’w olygu yn union. Os ydio’n golygu fod yma straeon gafaealgar mewn arddull i’w hedmygu sy’n mynd i’r afael a phynciau o bwys mewn ffordd ddifyr nad yw’n llethol o gwbwl, cytunaf gant y cant.

Romeo a Straeon Eraill gan Gareth Miles. Gwasg Crreg Gwalch. £4.75

Beth ydych chi wedi ei ddarllen yn ddiweddar? Ydych chi am ei argymell i eraill? Anfonwch i ddweud. Gwebostiwch trwy glicio yma:

glyn.evans@bbc.co.uk

 
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy