|
|
Cylchgrawn
yr wythnos
Glyn Evans yn ceisio
bod yn bedair ar bymtheg oed
eto
Dydd Iau, Mawrth 16, 2000
|
Cyfaddefiad. Nid y fi
brynodd y rhifyn o 19 fum i’n ei ddarllen yr wythnos hon. Gadawodd y ferch ifanc oedd yn
eistedd gyferbyn a fi ar y trên o'r gogledd ef ar ei hôl wedi inni gyrraedd Caerdydd.
Ond adawodd hi ddim mo’r Free Mobile Phone Holder oedd efo’r cylchgrawn. Rhai pobl!
Dydw i ddim yn siwr ydi etifeddu cylchgrawn fel hyn yn ddwyn yng ngolwg
y gyfraith. Rwy’n ymddiheuro os yw .
Wn i ddim, hefyd, beth mae ei adael yn ei ddweud am y cylchgrawn achos ddarllenodd hi ddim llawer arno
fo yn ystod y daith ychwaith.
Dau beth ar eu meddwl
Ond yr hyn mae’r cylchgrawn yn ei ddweud am bobol ifanc pedair ar
bymtheg oed yw nad ydyn nhw’n meddwl am fawr ddim ond rhyw a’u pryd
a’u gwedd.
Does yna ddim resipis ac yn sicr does yna ddim cynghorion sut i hel llwch o du ôl y wardrob neu dan y
gwely.
Ond y mae yna golofn -- fuddiol i’r sawl a’i myn - dan y teitl Foreplay of the Month sy’n digwydd
bod yn ymwneud y mis hwn ag effaith ddyrchafol merched yn anadlu’n ysgafn chwareus i glustiau dynion a
chnoi tagelli eu clustiau.
Rhagchwarae y mae iddo difficulty rating o un seren allan o bump!
Rhywbeth y gallai rhywun o fy oed i, hyd yn oed, ddygymod ag ef.
Ar gyfer yr ansicr
i'r rhai hynny sy’n ansicr o’u rhywioldeb eu hunain y mae dalen gwestiwn ag ateb How sexy are you
fel y gall merch ddarganfod a yw hi deigres y dwfe ynteu’n gath fach y gwely wenscot.
Er enghraifft mae yfed vodka martini yn ei gwneud yn vamp, yfed vodka strêt yn ei
gwneud yn secspot; yfed vodka a thonic yn sex kitten ac yfed vodka a Red Bull yn nymphet.
Mae yna gryn bwyslais ar ddod i adnabod yr hunan gyda gwahoddiad i wneud llun yn cynnwys coeden, ty, llwybr,
ffens, haul, llyn a neidr fel y gall arbenigydd ddehongli cymeriad merch yn ôl ffurf y goeden, ty
ac ati.
Llwybr unionsyth, er enghraifft, yn arwydd o ferch sy’n sicr o’i meddwl ei hun ond llwybr troellog yn
arwydd o rywun digyfeiriad sydd braidd ar goll.
Am ddynion, mae cân eu ffôn symudol yn datgelu llawer am eu cymeriad gyda pherchen ffôn arferol
ei gloch yn "completely normal, bordering on boring" ond brên y llanc sy’n defnyddio ei gynhyrfwr
(vibrator) wedi ei leoli rhwng ei goesau!
Mae’n debyg mai’r cam naturiol ar ôl dod i adnabod eich hun yw dod i adnabod eraill yn well ac i’r
perwyl hwnnw mi ffeiriodd Becks a Simon a Stuart a Helen gariadon ei gilydd gyda Becks yn mynd allan efo
Stuart a Simon efo Helen gan adrodd yn ôl wedyn.
Ond hoffwn i ddim rhgoi’r argraff fod y cylchgrawn yn anwybyddu gwir gwestiynau mawr ein bodolaeth ar
sail rhyw fanus fel hyn.
Ac ar ysgwyddau dyn o'r enw Jon Axworthy y mae'r cyfrifoldeb o fynd i'r afael a hwy yn syrthio ac i’r
afael ag arferiad gwrywaidd nad oeddwn i yn gwbl gyfarwydd ag ef y mae ond mynd i'r afael: Pam y mae dynion
yn pî-pî dros offer trydan a phoptai ar ôl bod allan yn yfed?
Yn ôl neurophysiologist o’r enw Dr Raymond Pritxchett ac iwrolegydd
ymgynghorol o’r enw Dominic Carey, y mae yfed lot yn gwneud i ddynion
fod eisiau codi yn y nos ond gan fod eu pledren yn deffro cyn eu brên
maen nhw'n cael anhawster gwahaniaethu rhwng y ty bach a’r ffwrn neu
beiriant stereo ac yn pî-pî dros y rheini.
Efallai y galla i fod o help trwy awgrymu i’r cyhuddiedig drio bwyta’u chips popty ar ôl eu mwydo
yn y pan am hanner awr.
19 - It’s all new. £2.10.
|
|
|