|
|
Fy
Nghawl
fy Hun
Adolygiad Gwyn Griffiths |
Hwyrach i mi fod yn ffodus yn y man y cefais fy addysg uwchradd. Ni
fedraf achwyn am ddiffyg awyrgylch Gymreig Ysgol Sir Tregaron, er
mai Saesneg oedd iaith y dosbarth. Ond tros y blynyddoedd clywais
gwyno mawr gan gynifer o gyfeillion, rhai yn bobl amlwg iawn, a gawsant
eu haddysg yn Ysgol Tytandomen. Mawr fu’r lladd arni, ei diffyg Cymreictod
a phrinder cydymdeimlad a thraddodiadau’r ardal.
Mae tipyn o labyddio, hefyd, ar yr hen ysgol gan y bardd a’r gwr hynod
aml-ddoniau hwnnw, Gerallt Lloyd Owen, yn ei hunan-gofiant, Fy
Nghawl Fy Hun. Ar gychwyn y drydedd bennod mae’n cofnodi digwyddiad
mewn gwers hanes, ac yntau, erbyn hynny, yn y chweched dosbarth. Mae’r
athro’n gofyn iddo pa mor bell y medrai olrhain ei achau. Atebodd
Gerallt, "yn fy Saesneg fy hun", y medrai eu holrhain i Lywarch Hen
yn y chweched ganrif. Chwerthin yn goeglyd wnaeth yr athro. "But seriously,
boy, how far can you really trace your ancestors?"
Eglurodd Gerallt wrtho iddo gael y sicrwydd fod yr hyn ddwedodd yn
wir yn ôl neb llai na Bob Owen Croesor. Am yr athro, tebyg na wyddai
pwy oedd Bob Owen ac ni chlywsai am Lywarch Hen er i hwnnw - yn ôl
traddodiad - farw filltir neu ddwy o Ysgol Tytandomen.
Mae’r stori fach yna’n cyfleu llawer am gynnwys y gyfrol gyfoethog
hon. Y bachgen a godwyd yng nghanol "y pethe" yn y Sarnau lle’r oedd
Bob Lloyd yn frenin - "llond ty o ddiwylliant oedd". Meddyliwch amdano’n
sgrifennu am R. Williams Parry a fu’n ysgol-feistr yn y Sarnau yn
1912-13. "Roedd Williams Parry wedi ymadael a’r Sarnau ddeng mlynedd
ar hugain cyn fy ngeni ac eto, nid gormodiaeth yw dweud ei fod yn
llechu ym mhob twll a chornel o’m plentyndod," meddai Gerallt. Ac
yr oedd yn amlwg fod Williams Parry dipyn o flaen ei oes fel athro
hanes - lawer mwy na’r gwr gafodd Gerallt yn chweched dosbarth Tytandomen.
A’r dylanwad hwnnw wedi goroesi degawdau.
’Roedd barddoni i Gerallt, mor naturiol ag anadlu. Mor naturiol fel
pan gyfarfu Waldo Williams mewn Ysgol Haf yn Harlech daethant yn gyfeillion
a pharhau i lythyra’n achlysurol ar ôl hynny. Waldo oedd y tiwtor
a Gerallt yn yr ysgol o hyd.
Nid cyfrol am feirdd a barddoni mo hon o bell fordd. Mae’n llawn asbri’r
pethau’n sy’n diddori pobl ifanc. Helyntion carwriaethol yn y coleg
a phêl-droed, er enghraifft. Ceir hanes rhai o’i gampau ef ei hun
ar y maes - a’i frawd Geraint, hefyd. Ac ambell dim caletach na’i
gilydd, fel Cwm Tirmynach. "Roedd y rheiny mor ffyrnig nes eu bod
yn cadw o gyrraedd ei gilydd," meddai.
"Yn ddiweddarach, un a fu’n chwarae dros Gwm Tirmynach am lawer blwyddyn
oedd Elwyn Edwards a ddaeth wedyn yn brifardd ar ôl ffeirio clec asgwrn
am glec cynghanedd."
I ganol hyn i gyd daw dicter oherwydd Tryweryn. A dicter at ambell
ddarlithydd o Sais fu’n dan ar ei groen yn ei gyfnod yn y Coleg Normal.
Cyfeiria at bennaeth yr Adran Saesneg, gwr sarhaus ac anghynnes o’r
enw Croker. Gresyn na fuasai, os yw’n fyw, fedru Cymraeg i ddarllen
yr hyn sydd gan Gerallt i ddweud amdano. Ond ’roedd eraill mwy hynaws
o lawer yn ddarlithwyr yn y coleg, fel y dramodydd Huw Lloyd Edwards.
Mae’n gwneud i rywun dristau, weithiau, o ganfod athrawon a darlithwyr
sy’n analluog i ddygymod â disgyblion sy’n amlwg yn alluocach a mwy
disglaer na nhw. Yr oedd Gerallt, fe gofiwn, wedi ennill Cadair yr
Urdd cyn cyrraedd y coleg.
Mae’r gyfrol yn gorffen yn 1968 pan sefydlodd y comic Cymraeg Yr
Hebog ac yntau ar fin troi tua’r de i fod yn athro yn Ysgol Glyndwr,
yr ysgol breifat Gymraeg a sefydlwyd gan y dyn busnes a’r cenedlaetholwr
tanbaid, Trefor Morgan. Mae’n amlwg fod llawer mwy i ddod a chawn
edrych ymlaen am gyfrol arall ddifyr a blasus.
Cyhoeddwyd Fy Nghawl Fy Hun - Gerallt Lloyd Owen gan Gwasg
Gwynedd, Pris £6.95.
|
|
|