Βι¶ΉΤΌΕΔ

Hysbysiad preifatrwydd i gyfranwyr

Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn esbonio pa ddata personol yr ydym yn ei gasglu a beth sy'n digwydd iddo.

Ar gyfer pwy?

Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn ar gyfer “cyfranwyr”, sef:

  • talent ar yr awyr (fel actorion, cerddorion, cyflwynwyr, awduron a chyfansoddwyr),
  • pobl sy'n gwneud cais i ymuno a’n rhaglenni (ymddangos ar sioe gwis, er enghraifft),
  • pobl eraill sy'n darparu cyfraniadau ar gyfer ein rhaglenni (fel pobl sy'n cael eu cyfweld neu bobl sy'n rhoi lluniau i ni eu defnyddio neu bobl sy'n caniatáu i ni ddefnyddio eu heiddo fel lleoliad ffilmio), a
  • asiantaethau neu cynrychiolwyr cyfranwyr.

Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn egluro pa ddata personol rydym yn ei gasglu a beth sy'n digwydd iddo.

Os ydych yn cyfrannu at gynhyrchiad Βι¶ΉΤΌΕΔ Studios dylech gyfeirio at Bolisi Preifatrwydd Cyfranwyr Βι¶ΉΤΌΕΔ Studios.

Os ydych yn cael eich cyflogi ar gontract cyflogaeth gan y Βι¶ΉΤΌΕΔ neu Βι¶ΉΤΌΕΔ Studios yna dylech gyfeirio yn lle hynny at Hysbysiad Preifatrwydd Βι¶ΉΤΌΕΔ People.

Eich data personol

Fel cyfrannwr, rydych chi'n darparu gwybodaeth amdanoch chi eich hun. Gelwir hyn yn “ddata personol”.

Rydych chi'n darparu data personol ar y ffurflen gais, cytundeb talent, ffurflen ganiatâd a gohebiaeth gyda ni am eich cyfraniad, gan gynnwys (lle bo'n berthnasol):

  • Eich enw
  • Cyfeiriad e-bost
  • Cyfeiriad

Os oes gennych chi gytundeb talent, mae'n bosibl y byddwch chi hefyd wedi rhoi mathau eraill o ddata personol i ni, gan gynnwys:

  • Rhif ffôn symudol
  • Dyddiad geni
  • Rhywedd
  • Statws preswyl
  • Cenedligrwydd
  • Rhif pensiwn
  • Manylion ariannol, gan gynnwys gwybodaeth am gyfrif banc
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Rhif nawdd cymdeithasol UDA
  • Rhif staff y Βι¶ΉΤΌΕΔ

Rydych chi hefyd yn darparu data personol fel rhan o'ch cyfraniad. Gallai hyn fod yn ddelwedd, llais, lluniau ohonoch chi, golygfeydd o'ch eiddo a gwybodaeth arall yn eich cyfraniad sy'n ffordd o ddangos pwy ydych chi.

Categori Arbennig a Cofnod Data Troseddau Personol

Gallwch ddewis rhannu yr uchod gyda ni yn ymwneud â'ch:

  • hil neu ethnigrwydd
  • barn wleidyddol
  • credoau crefyddol neu athronyddol
  • Aelodaeth o undeb llafur
  • iechyd
  • bywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol
  • geneteg neu fiometreg
  • Tor Cyfraith
  • Dedfrydau Troseddol

Mewn rhai achosion byddwn yn eich holi am wiriad troseddol (Disclosure and Barring Service Check) ar ein cyfer.

Gwybodaeth o ffynonellau eraill

Gallwn casglu wybodaeth amdanoch o ffynonellau cyhoeddus (er enghraifft cyfryngau cymdeithasol) neu ymchwil cyhoeddus arall fel ymchwil marchnad. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth amdanoch gan gynhyrchwyr annibynnol ac is-gwmnïau’r Βι¶ΉΤΌΕΔ yr ydym wedi’u comisiynu i wneud rhaglenni i’r Βι¶ΉΤΌΕΔ.

Sut rydym yn defnyddio eich data personol

Y Βι¶ΉΤΌΕΔ neu Βι¶ΉΤΌΕΔ Studios (fel y bo’n berthnasol) yw’r “rheolydd data” ac sy’n penderfynu sut defnyddir eich data personol. Gelwir hyn yn “brosesu data”.

Mae gofyn i’r rheolydd data gael sail gyfreithiol er mwyn prosesu data personol. Rydym yn prosesu eich data personol ar gyfer:

  • Cyflawni’r cytundeb a’r berthynas rhyngoch chi a ni, gan gynnwys rheoli hawliau, gwneud taliadau, cysylltu â chi neu eich asiant parthed y cytundeb a dibenion eraill er mwyn defnyddio eich cyfraniad. ;
  • ein diddordeb cyfreithlon wrth ystyried eich cais i fod mewn rhaglen a chyhoeddi eich cyfraniad fel deunydd newyddiadurol, celfyddydol neu lenyddol. Rydym o'r farn, ar y cyfan, nad yw’r gwaith prosesu hwn yn anghymesur â'ch hawliau a'ch rhyddid nac unrhyw effaith y gall y prosesu hwn ei gael arnoch chi;
  • i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau statudol, rheoleiddiol neu gydymffurfiaeth, fel cyflog a thriniaeth gyfartal, diogelu, adrodd i Gyllid a Thollau EM a'n rhwymedigaeth gyfreithiol i gynnal ymchwil i wella ein cynnwys a'n gwasanaethau, a
  • perfformiad tasg gyhoeddus y Βι¶ΉΤΌΕΔ a’n rôl i weithredu er budd y cyhoedd a gwasanaethu pob cynulleidfa gyda chynnwys sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu. Mae hyn yn gyson â dibenion cyhoeddus ehangach y Βι¶ΉΤΌΕΔ o dan ei Siarter Frenhinol.Mae’n rhaid i ni gael sail gyfreithiol ychwanegol i brosesu eich data personol Categori Arbennig a Data Tor Cyfraith. Pan fyddwch chi’n rhannu data personol Categori Arbennig a Data Tor Cyfraith gyda ni, byddwn yn ei brosesu dim ond gyfer newyddiaduraeth, celf a llenyddiaeth neu lle mae ganddom eich caniatâd neu hawl cyfreithiol.

Pan fydd trydydd parti yn eich cynrychioli, bydd y Βι¶ΉΤΌΕΔ hefyd yn rhannu data personol â'ch asiant neu gynrychiolydd er mwyn i'r Βι¶ΉΤΌΕΔ gyflawni'r dibenion a nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn ac at y diben o ganiatáu mynediad i'ch cynrychiolydd i'r Porth Artistiaid & Chyfranwyr ar eich rhan.

At y dibenion hyn gellir rhannu eich data personol o fewn Grwp y Βι¶ΉΤΌΕΔ a gyda thrydydd partïon gan gynnwys parti comisiynu, darparwyr data a rheoli taliadau rhaglenni, undebau a chyrff sy'n cynrychioli'r diwydiant (Equity, Undeb y Cerddorion, Cymdeithas Cerddorion, Urdd Awduron Prydain Fawr a Chyfarwyddwyr y DU) neu asiantau dosbarthu a enwebwyd gan undeb, partneriaid ymchwil, cynhyrchwyr a dosbarthwyr. Fel arall, byddwn dim ond yn rhannu eich data personol pan fydd gennym sail gyfreithlon briodol i wneudd hynny.

Bwriadwn gadw eich cyfraniad am byth. Byddwn yn cadw eich cytundeb talent, eich ffurflen gydsynio a’ch data personol sy’n ymwneud â’ch cyfraniad am hyd yr hawlfraint yn eich cyfraniad. Cedwir ceisiadau aflwyddiannus i fod mewn rhaglen tan ar ôl darlledu'r rhaglen neu'r gyfres.

Sut rydym yn cadw eich data yn diogel

Rydym yn cynnal sustemau ac yn diogelu data er mwyn gwarchod rhag colled, cam ddefnydd, datgeliad, newidiad neu chwalfa'r wybodaeth sydd ganom amdanoch. Rydym yn darparu hyfforddiant ac arweiniad i’r timoedd cynhyrchu er mwyn eu bod yn deall sut i gadw eich data yn ddiogel wrth wneud rhaglenni.

Os rhydych yn teimlo fod eich wybodaeth wedi cael i gyfaddawdu cysylltwch a ni yn syth.

Plant fel cyfranwyr

Os rydych yn rhiant neu'n warcheidwad i blentyn o dan 13 blwydd oed gwnewch yn siΕµr eich bod yn egluro iddynt yr hyn sydd yn digwydd i’w data personol.

Os oes gennych unrhyw gonsyrn am ddiogelwch data personol yn ein meddiant am eich plentyn a sut y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hwnnw cysylltwch â ni isod.

Eich hawliau

Yn unol â’r gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau penodol mewn perthynas â’ch data personol.

Gallwch wneud cais i ni i gael mynediad at eich data personol, cywiro unrhyw wallau sydd ynddo a’i ddileu, neu osod cyfyngiad ar ei brosesu, mewn rhai amgylchiadau. Mae cywiro yn golygu cywiro gwallau yn eich data personol.

Mae gennych hawl i gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch sut mae’r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn defnyddio eich data personol neu sut mae’r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn ymdrin â chwynion.

Os yw eich cais yn ymwneud â’ch cyfraniad, byddwn yn ystyried effaith eich cais ar:

  • gyhoeddi eich cyfraniad gennym fel deunydd newyddiadurol, artistig neu lenyddol er budd y cyhoedd, a
  • chyflawni’r cytundeb rhyngoch chi a ni.

Cysylltiadau

Bydd ein Swyddogion Diogelu Data yn gyfrifol am ateb cwestiynau mewn perthynas â’r Hysbysiad preifatrwydd hwn.

Os oes genych unrhyw gwestiynau am hyn neu am eich hawliau cyfreithiol cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data isod.

Manylion y Βι¶ΉΤΌΕΔ:

  • drwy e-bost: dpa.officer@bbc.co.uk
  • drwy'r post: Βι¶ΉΤΌΕΔ Data Protection Officer, C/o First Floor, Wogan House, 99 Great Portland Street, Llundain, W1W 7NY

Manylion Βι¶ΉΤΌΕΔ Studios:

  • drwy e-bost: dataprotection@bbc.com
  • drwy'r post: Βι¶ΉΤΌΕΔ Studios, 4B, 101 Wood Lane, Llundain, W12 7FA

Rydym yn cael ein rheoleiddio gan . Gallwch hefyd gysylltu â'r swyddfa honno am gyngor a chymorth.

Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: