Complaint
Mae’r ECU wedi derbyn nifer sylweddol o gwynion am yr erthygl uchod ar wefan 鶹Լ News. Mae’r rhai sy’n cwyno wedi mynegi ystod eang o bryderon ynghylch cywirdeb a didueddrwydd yr erthygl a’i gallu i achosi niwed a thramgwydd. Mae pob cwyn wedi cael ei darllen a’i hystyried.
Mae’r ECU fel arfer yn cyhoeddi ymateb unigol i bob cwyn mae’n ei dderbyn, ond mae polisi cyhoeddedig y 鶹Լ ar gyfer delio â chwynion yn rhoi cyfle i’r 鶹Լ ymateb i nifer o gwynion am yr un mater drwy lunio crynodeb o’r prif bwyntiau a godwyd, eu hystyried gyda’i gilydd a chynhyrchu un ymateb. Ar yr achlysur hwn, rydym wedi penderfynu cyhoeddi un ymateb, ar ffurf canfyddiad gan Bennaeth yr ECU, sy’n rhoi sylw i’r holl bwyntiau pwysig y cwynion (ond nid o reidrwydd yn y termau y mae achwynwyr unigol wedi’u nodi) ac sy’n eu hasesu yn erbyn safonau golygyddol y 鶹Լ, fel y nodir yn ei Chanllawiau Golygyddol ’r Canllawiau cysylltiedig. Mae hyn yn golygu efallai na fydd rhai pwyntiau a godir gan achwynwyr unigol yn cael sylw uniongyrchol ond credwn fod y dull gweithredu’n gymesur ac mai dym’r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau gwerth am arian i bawb sy’n talu ffi’r drwydded.
Yn y canfyddiad hwn drwyddo draw, mae’r termau “lesbiaid” a “merched trawsryweddol” wedi cael eu defnyddio i wahaniaethu rhwng y grwpiau y tynnir sylw atynt yn yr erthygl y cwynir amdani, ac nid i awgrymu eu bod yn gategorïau sy’n annibynnol ar ei gilydd.
Outcome
Materion yn ymwneud â’r gwyn
Didueddrwydd
Cododd y rheini a oedd yn cwyno ddau fater penodol mewn perthynas â didueddrwydd:
- nad yw’r cysyniad o “ddidueddrwydd dyladwy” (a ddiffinnir yn y Canllawiau Golygyddol fel “digonol a phriodol i’r allbwn, gan ystyried pwnc a natur y cynnwys, disgwyliad tebygol y gynulleidfa ac unrhyw arwydd a allai ddylanwadu ar y disgwyliad hwnnw”) yn cyfiawnhau cynnwys cyfraniadau gan bobl neu sefydliadau y mae achwynwyr yn ystyried eu bod yn drawsffobig;
- nad oedd yr erthygl yn cynnwys yr ystod o safbwyntiau angenrheidiol ar gyfer sylw diduedd i bwnc dadleuol, y mae’r Canllawiau Golygyddol yn nodi:
Gall ‘pwnc dadleuol’ fod yn fater sy’n ddadleuol o ran polisi cyhoeddus neu mewn cyd-destun gwleidyddol neu ddiwydiannol. Gall hefyd fod yn ddadleuol yng nghyd-destun crefydd, gwyddoniaeth, cyllid, diwylliant, moeseg neu unrhyw fater arall.
Wrth benderfynu a yw pynciau’n ddadleuol, dylem ystyried:
- lefel yr ymryson a dadlau cyhoeddus a gwleidyddol
- pa mor amserol yw’r pwnc
- sensitifrwydd o ran credoau a diwylliant y cynulleidfaoedd perthnasol
- a yw’r pwnc yn destun dadlau mawr neu’n fater pwysig mewn gwlad, rhanbarth neu gymuned benodol neu mewn maes ar wahân sy’n debygol o gynnwys rhan sylweddol o’r gynulleidfa o leiaf
- barn resymol ynghylch a yw’r pwnc yn un pwysig
- y gwahaniaeth rhwng materion seiliedig ar ffaith ’r rheini sy’n fater o farn.
Wrth ddelio â ‘phynciau dadleuol’, rhaid i ni sicrhau bod pwys a sylw dyladwy yn cael eu rhoi i amrywiaeth fawr o farnau a phersbectifau arwyddocaol, yn enwedig os yw’r dadlau amdanynt yn frwd.
Mewn perthynas â 1, roedd rhai achwynwyr yn cynnig cyfatebiaeth rhwng safbwyntiau hiliol neu homoffobig a chynnwys safbwyntiau yr oeddent yn eu hystyried yn drawsffobig, gan nodi nad yw didueddrwydd dyladwy yn gofyn am gynrychiolaeth o’r safbwyntiau hiliol neu homoffobig pan fo hil neu gyfeiriadedd rhywiol yn destun sylw newyddion. Roedd Pennaeth yr ECU o’r farn nad oedd y cyfatebiaethau hyn yn fuddiol oherwydd i ba raddau y mae dadlau o hyd ynghylch yr hyn sy’n farn drawsffobig, y ddadl ei hun sy’n adlewyrchu i ba raddau y dadleuir bod hawliau gan neu ar ran pobl draws yn gwrthdaro â hawliau gan neu ar ran grwpiau eraill sydd wedi dioddef rhagfarn, anfantais neu erledigaeth. Felly, nid oedd yn derbyn na ellid cyfiawnhau cynnwys y cyfraniadau a wrthwynebir o ran didueddrwydd dyladwy – er bod i ba raddau yr oedd didueddrwydd mewn gwirionedd yn fater yn y cyswllt hwn yn gwestiwn a gaiff ei ystyried isod.
Mewn perthynas â 2, mae’n bwysig bod yn glir am y pwnc y mae’r erthygl yn rhoi sylw iddo, sef y cyntaf yn y cyfryngau prif ffrwd y DU mae’n debyg, i edrych ar brofiad rhai lesbiaid o dan bwysau i gael rhyw gyda menywod trawsryweddol. Nid yw a oes pryderon yn y maes hwn ai peidio yn bwnc dadleuol, ond mae'n fater o ffaith. Roedd y dystiolaeth a gynhwyswyd yn yr erthygl (hyd yn oed heb gyfeirio at dystiolaeth arall a gasglwyd gan yr awdur ond na gafodd ei gynnwys) yn dystiolaeth a oedd yn cadarnhau bod pryderon o’r fath. Mae’n ddigon posibl y byddai adrodd ar y ffaith hon yn destun dadlau, er enghraifft ynghylch nifer neu arwyddocâd y ffenomen yr adroddir arni, ond nid yw hynny ynddo ei hun yn ei gwneud yn “bwnc dadleuol” sy’n golygu bod angen cynnwys “ystod eang o safbwyntiau a safbwyntiau a phersbectifau arwyddocaol” y dylid eu hadlewyrchu.
Mae pwnc yr erthygl, serch hynny, yn ymwneud â phwnc y gellid ei ystyried yn bwnc dadleuol oherwydd ei fod yn fater o “ddadl neu bwysigrwydd mewn cymuned benodol”, sef a yw dewis rhai lesbiaid i beidio â chael menywod trawsryweddol fel partneriaid rhywiol yn ddilys neu, fel mae rhai yn dadlau, yn arwydd o drawsffobia. Cysylltodd yr awdur â nifer o bobl a sefydliadau a allai fod wedi rhoi llais i’r farn honno ond, ar wahân i Stonewall (a wnaeth ddarparu datganiad a oedd yn cael ei adlewyrchu yn yr erthygl), nid oeddent yn dymuno cyfrannu. Er hynny, roedd eu safbwyntiau’n cael eu cynrychioli ar sail yr hyn yr oeddent eisoes wedi’i ddweud ar y cofnod cyhoeddus, naill ai yng nghorff yr erthygl (yn achos Stonewall a Veronica Ivy) neu yn yr adran sy’n dwyn y teitl “Pwy arall y cysylltwyd â nhw?”. Roedd Pennaeth yr ECU o’r farn bod hyn yn ddigonol i fodloni gofynion didueddrwydd dyladwy i’r graddau yr oeddent yn berthnasol i’r erthygl.
Cywirdeb
Mae’r Canllawiau Golygyddol yn dweud:
Mae’r 鶹Լ wedi ymrwymo i sicrhau cywirdeb dyladwy yn ei holl allbwn....Ystyr y term ‘dyladwy’ yw bod rhaid i’r cywirdeb fod yn ddigonol ac yn briodol i’r allbwn, gan ystyried pwnc a natur y cynnwys, disgwyliad tebygol y gynulleidfa ac unrhyw hysbysrwydd a all ddylanwadu ar y disgwyliad hwnnw.
Prif fater y gŵyn ynghylch cywirdeb oedd bod y sail dystiolaethol dros awgrymu pwysau gan fenywod trawsryweddol yn peri problem sylweddol i lesbiaid yn annigonol. Yn y cyswllt hwn, nododd Pennaeth yr ECU fod y pennawd “Mae rhai menywod trawsryweddol yn rhoi pwysau arnom i gael rhyw” (nad oedd wedi’i ysgrifennu gan awdur yr erthygl) yn rhoi’r argraff y byddai’r erthygl yn canolbwyntio ar bwysau a roddir gan fenywod trawsryweddol, tra bod ei ffocws o leiaf gymaint ar bwysau mewnol a brofir gan rai lesbiaid o ganlyniad i hinsawdd barn (fel y tybiwyd hynny ganddynt) yn y gymuned LGBT, yn hytrach na phwysau uniongyrchol gan fenywod trawsryweddol. Dim ond un o’r cyfranwyr a enwyd a siaradodd am eu profiadau[1] eu hunain oedd yn ymlygu merch drawsryweddol fel ffynhonnell bosibl o bwysau, ac roedd hynny mewn cyd-destun lle’r oedd eisoes wedi mewnoli’r gred y dylai lesbiaid fod yn agored i ganlyn merched trawsryweddol (yn yr un modd, fel wnaeth un di-enw ymateb i holiadur Get the L Out a oedd yn honni eu bod wedi cael eu treisio gan fenyw drawsryweddol a ddisgrifiodd ei hun fel rhywun a oedd eisoes wedi ei “chyflyru gan y ddamcaniaeth cwiar”). Ym marn Pennaeth yr ECU, rhoddodd y pennawd argraff braidd yn gamarweiniol o’r erthygl ei hun, ac roedd yn ymddangos o nifer o’r cwynion bod hyn wedi cyfrannu at ddealltwriaeth o’r erthygl fel rhywbeth a oedd yn canolbwyntio mwy ar ymddygiad merched trawsryweddol nag a oedd yn wir mewn gwirionedd. I’r graddau hynny, roedd yn is na safonau cywirdeb dyladwy’r 鶹Լ.
Roedd cwynion hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod yr erthygl wedi cynnwys data a gynhyrchwyd gan Get The L Out yn 2019 (ar sail yr arolwg a gafodd ei grybwyll uchod). Dywed Canllawiau Golygyddol y 鶹Լ ar “Polau piniwn, arolygon, holiaduron, pleidleisiau a ‘phôl gwelltyn”:
Pan fydd arolwg wedi cael ei gomisiynu gan gorff allanol sydd â diddordeb yn y mater, dylid dweud wrth y gynulleidfa, a dylem fod yn wirioneddol amheugar o ran sut rydym yn ei drin... Os nad yw [arolygon] o werth ystadegol ac yn ymddangos eu bod wedi cael eu hyrwyddo i roi sylw i achos neu gyhoeddiad penodol yn unig, dylem fod yn wirioneddol amheugar ac ystyried peidio â’u defnyddio o gwbl, yn enwedig pan fyddant yn ymwneud â materion difrifol neu ddadleuol.
Roedd canfyddiadau’r holiadur Get the L Out, fel y nodwyd yn yr erthygl (er enghraifft, bod 56% o’r rhai ymatebodd “wedi dweud eu bod yn cael eu bygwth neu eu gorfodi i dderbyn menyw drawsryweddol fel partner rhywiol”) yn tueddu i roi’r argraff bod pwysau i gael rhyw gyda menywod trawsryweddol, boed hynny gan fenywod trawsryweddol unigol neu o gonsensws ymgyrchwyr, yn brofiad eang, neu hyd yn oed yn brofiad i’r mwyafrif, ymysg lesbiaid. Ym marn Pennaeth yr ECU, fodd bynnag, nid oedd yn darparu sail ddigonol ar gyfer yr argraff honno. Anfonwyd yr holiadur at nifer fach o grwpiau “menywod yn unig” a “lesbiaidd yn unig”, a dim ond tua un rhan o dair o’r 80 wnaeth ymateb oedd yn dod o’r DU. Roedd yr erthygl yn cynnwys rhai rhybuddion, er enghraifft drwy gydnabod “efallai nad yw’r sampl yn gynrychioladol o’r gymuned lesbiaidd ehangach” a thrwy ddisgrifio Get the L Out fel sefydliad y mae ei aelodau “yn credu bod hawliau lesbiaid yn cael eu hanwybyddu gan lawer o’r mudiad LGBT presennol” ac a oedd wedi cael eu cyhuddo o “gulni, anwybodaeth a chasineb”. Fodd bynnag, nid oedd yn ymddangos i ni fod y rhain yn mynd yn ddigon pell i’w gwneud yn glir i ddarllenwyr nad oedd yr arolwg yn ddilys yn ystadegol nac i ba raddau y mae gan Get the L Out agenda (fel sefydliad sy’n credu bod “ymgyrchu trawsryweddol yn dileu lesbiaid, ac yn tawelu ac yn dirmygu lesbiaid sy’n meiddio siarad allan”) y mae canlyniadau’r arolwg i bob golwg yn eu hategu. I’r graddau bod yr erthygl wedi methu ag arfer y lefel briodol o amheuaeth wrth ymdrin â’r arolwg, roedd yn is na safonau cywirdeb dyladwy’r 鶹Լ.
Gyd’r ddau bwynt yma mewn golwg, aeth Pennaeth yr ECU ymlaen i ystyried y ddadl a gyflwynwyd gan nifer o’r achwynwyr fod yr erthygl yn cyfleu argraff o faint a difrifoldeb y mater yr oedd yn ei archwilio, a oedd yn mynd y tu hwnt i’r hyn y gellid ei gyfiawnhau ar sail ei dystiolaeth, a oedd yn bennaf yn anecdotaidd, ac i’r graddau yr oedd yn deillio o sefydliadau ac unigolion ag agenda gwrth-drawsryweddol, y dylid ei ystyried ag amheuaeth. Cytunodd nad oedd sail tystiolaeth yr erthygl yn ddigon i gefnogi’r argraff bod “bod dan bwysau i gael rhyw” yn brofiad eang i lesbiaid yng nghyd-destun eu perthynas â menywod trawsryweddol, a nododd y datganiadau canlynol yn yr erthygl, a nodwyd gan achwynwyr, fel rhai a roddodd yr argraff bod hynny yn wir:
Cysylltodd nifer o bobl â mi i ddweud bod “problem enfawr” i lesbiaid, a oedd dan bwysau i “dderbyn y syniad y gall pidyn fod yn organ ryw gan fenyw”. (Awdur)
Rydyn ni’n gwybod bod lleiafrif, ond lleiafrif sylweddol o fenywod trawsryweddol o hyd, yn pwyso ar lesbiaid i fynd allan gyda nhw a chael rhyw gyda nhw... (Bev Jackson, Cynghrair Pobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol)
Er ei fod yn derbyn bod y ddau ddatganiad yn gallu cyfleu’r argraff y cwynwyd amdani, roedd yna ffactorau yr oedd yn ymddangos iddo ef eu bod yn cymhwyso'r graddau y byddent wedi gwneud hynny. I ddechrau, roedd y farn bod “problem enfawr” wedi’i phriodoli’n glir i bobl a oedd wedi cysylltu â’r awdur ar ôl darllen erthygl flaenorol ganddi[2], ac felly nid oedd wedi’i chyflwyno fel casgliad gan yr awdur. Yn ail, aeth yr awdur yn ei blaen i holi’r cyfrannwr ar y sail ei fod yn dweud “lleiafrif sylweddol”, a ddenodd gyfaddefiad gan y cyfrannwr, sef “Nid oes gennym ffigurau”. Gan gymryd y amodau hyn ynghyd â chydnabyddiaeth yr awdur tuag at ddechrau’r erthygl, yn absenoldeb ymchwil, “bu’n anodd penderfynu ar wir faint y broblem”, nid oedd Pennaeth yr ECU yn credu y byddai’r datganiadau a nodwyd uchod wedi ychwanegu’n sylweddol at yr argraff gamarweiniol sy’n deillio o bennawd yr erthygl a’i ffordd o ymdrin ag arolwg Get The L Out, ac ni chanfu unrhyw dramgwydd pellach o ran cywirdeb dyladwy yn y cyswllt hwn.
Roedd rhai achwynwyr yn dadlau ei bod yn anghywir ac yn gamarweiniol i’r awdur ysgrifennu “Yn ogystal â Veronica Ivy, cysylltais â nifer o fenywod trawsryweddol proffil uchel eraill sydd naill ai wedi ysgrifennu neu siarad am ryw a pherthnasoedd. Nid oedd yr un ohonynt eisiau siarad â mi”, ar y sail bod Chelsea Poe wedi cytuno i gael ei chyfweld (er, fel mae’n digwydd, ni ddefnyddiwyd unrhyw ddyfyniadau o’r cyfweliad yn yr erthygl[3]). Mae’n amlwg mai mater o farn yw a yw’r disgrifiad “proffil uchel” yn addas i menyw drawsryweddol benodol, lle gallai fod elfen oddrychol. Felly, er bod Pennaeth yr ECU yn derbyn y byddai rhai yn ystyried bod Chelsea Poe yn ffitio’r disgrifiad, nid oedd yn credu y byddai’n anghywirdeb difrifol ei disgrifio fel arall. Nid oedd ychwaith yn credu bod y cwestiwn wedi effeithio’n sylweddol ar y pwynt a oedd yn cael ei wneud gan yr awdur, ar sail ei fod yn ymwneud â chysylltu â deg menyw drawsryweddol yr oedd hi’n eu hystyried yn uchel eu proffil, ac a fyddai wedi cynrychioli’r farn y dylai lesbiaid fod yn agored i ganlyn â menywod traws gyda phidyn, ac nid oedd yr un ohonynt yn cytuno i gael eu cyfweld. Nododd fod safbwyntiau rhai ohonynt, o’r hyn yr oeddent wedi’i roi ar y cofnod cyhoeddus, yn cael eu hadlewyrchu yn yr adran o’r erthygl a gyflwynwyd gan y darn a ddyfynnwyd uchod (“Pwy arall y cysylltwyd â nhw?”).
Niwed a Thramgwydd
Prif fater y gŵyn i lawer oedd bod yr erthygl yn cyflwyno stereoteip niweidiol a negyddol mewn perthynas ag ymddygiad menywod trawsryweddol, ac wrth wneud hynny roedd yn drawsffobig.
Mae canllawiau’r 鶹Լ ar Niwed a Thramgwydd a Phortreadu yn dweud y gall cynnwys sy’n cael ei ddarlledu neu ei gyhoeddi gan y 鶹Լ adlewyrchu, ond na ddylai fytholi, y rhagfarn sy’n bodoli yn ein cymdeithas; a bod yn rhaid i allbwn sy’n cynnwys safbwyntiau a allai ysgogi casineb neu achosi tramgwydd gael cyfiawnhad golygyddol clir a chynnwys her briodol a/neu gyd-destun priodol.
Wrth farnu i ba raddau yr oedd yr erthygl yn cydymffurfio â’r safonau golygyddol hyn, fe wnaeth Pennaeth yr ECU ystyried yn gyntaf i ba raddau yr oedd yn ymwneud ag ymddygiad a fyddai’n debygol o gyfleu argraff niweidiol a negyddol o’r rhai y dywedwyd eu bod yn ymgysylltu â hynny. Nododd, er y gellid ystyried bod y cysyniad o bwysau i gael rhyw, sy’n cael ei honni gan y pennawd, yn awgrymu amhriodoldeb ar ran y rhai yr honnir eu bod yn rhoi pwysau, mae gwahaniaeth, serch hynny, rhwng gorfodaeth (a fyddai fel arfer yn cael ei ystyried yn resynus) a pherswâd neu eiriolaeth, ac y gallai fod yna achlysuron lle byddai un carfan wedi profi tebyg i bwysau lle byddai’r carfan arall wedi ei ystyried o ran ewyllys da fel perswâd cyfreithlon. Roedd yr erthygl yn cynnwys un enghraifft o ymddygiad a fyddai ond yn cael ei ystyried yn un cymhellol (petai’n cael ei adrodd yn gywir), yn achos yr ymatebydd dienw i’r holiadur Get The L Out a oedd yn honni ei fod wedi cael ei threisio gan fenyw drawsryweddol, ond nid oedd awgrym bod hyn yn adlewyrchu ymddygiad menywod trawsryweddol yn gyffredinol. Yn yr unig achos arall a oedd yn nodi menyw draws fel ffynhonnell bosibl o bwysau, nid oedd y cyfrannwr (“CDZ”) yn myfyrio o gwbl ar ymddygiad y fenyw drawsryweddol ar wahân i ganiatáu’r awgrym ei bod wedi parhau i roi sylw, er bod y cyfrannwr “wedi egluro dro ar ôl tro nad oedd ganddi ddiddordeb”, a disgrifiodd y pwysau a deimlodd yn bennaf mewn perthynas â’i hymateb ei hun i “iaith y cyfnod” ’r hyn yr oedd hi’n ei ystyried yn agwedd gyffredin yn y gymuned LBGT.
Er bod Pennaeth yr ECU yn cydnabod y gallai rhai ystyried agwedd o’r fath yn resynus oherwydd y profiad o bwysau y mae’n ymddangos ei fod wedi cyfrannu ato yn achos rhai cyfranwyr i’r erthygl, mae’n amlwg nad yw hyn yn farn y rhai sy’n dadlau bod dewis rhai lesbiaid i beidio â chael menywod trawsrywiol fel partneriaid rhywiol yn arwydd o drawsffobia – safbwynt sy’n cael ei ddangos gan y dyfyniadau yn yr adran “Pwy arall y cysylltwyd â nhw?” yn yr erthygl. Felly, daeth i’r casgliad (ac eithrio’r unig honiad o drais rhywiol) nad oedd yr erthygl yn priodoli menywod trawsryweddol, yn gyffredinol nac yn unigol, i ymddygiad y gellir ond ei ystyried yn resynus, a’i fod, yng ngolwg llawer o fenywod trawsryweddol ac eiriolwyr, mai’r hyn a ffafrir gan rhai lesbiaid, yn hytrach nag ymddygiad y rhai sy’n ceisio perthynas â nhw, sy’n agored i feirniadaeth. Mae’n dilyn o hyn nad oedd Pennaeth yr ECU yn credu bod yr erthygl yn cyflwyno stereoteip niweidiol a negyddol mewn perthynas ag ymddygiad menywod trawsryweddol, a oedd mewn perygl o ysgogi casineb neu a oedd yn rhoi sail resymol dros dramgwyddo. Mae hefyd yn dilyn na fyddai’r elfennau o anghywirdeb a nodwyd yn gynharach yn y canfyddiad hwn wedi cyfrannu at greu stereoteip niweidiol neu negyddol, er y gallent fod wedi arwain at argraff ormodol o nifer yr achosion o’r pryderon y rhoddir sylw iddynt yn yr erthygl.
Mynegodd rhai achwynwyr bryder ychwanegol bod darparu dolen i’r adroddiad gan Get the L Out yn torri safonau’r 鶹Լ, gan fod yr adroddiad yn cynnwys iaith dramgwyddus a thrawsffobig. Mae Canllawiau perthnasol y 鶹Լ yn dweud, pan fydd cynnwys y 鶹Լ yn cynnig dolenni i wefannau allanol, y dylid ystyried pryderon ynghylch “torri’r gyfraith o bosibl”, ac mewn rhai achosion y gallai fod yn briodol ychwanegu ymwadiad penodol neu roi gwybod i’r defnyddiwr fel arall am ddeunydd dadleuol neu heriol.
Nid yw’r canllawiau’n dweud na ddylid byth darparu dolenni at ddeunydd a allai fod yn dramgwyddus, nac y dylid cynnig rhybudd penodol bob amser. Roedd y testun ar y dudalen yn egluro bod rhai yn ystyried bod y sefydliad yn drawsffobig, a disgrifiwyd yr adroddiad ei hun mewn termau a oedd yn egluro’r ddadl a oedd yn gysylltiedig ag ef:
Er ei fod yn cael eu croesawu gan rai yn y gymuned LGBT, disgrifiwyd adroddiad Angela fel rhywbeth trawsffobig gan eraill.
“[Dywedodd pobl] ein bod yn waeth na threiswyr am ein bod [yn honedig] yn ceisio fframio pob menyw drawsryweddol fel treisiwr,” meddai Angela.
O ystyried y cyd-destun hwn, mae’n annhebygol y byddai unrhyw un a ddilynodd y ddolen (i dudalen sy’n cynnal yr adroddiad, yn hytrach n’r adroddiad ei hun) wedi bod yn amharod i ddod ar draws iaith o’r math y cwynir amdani. Yn unol â hynny, nid oedd Pennaeth yr ECU yn credu bod cynnwys y ddolen neu hepgor ymwadiad penodol yn golygu torri safonau golygyddol y 鶹Լ.
Tynnodd rhai achwynwyr sylw at yr hyn yr oeddent yn ei ystyried yn iaith gam-ryweddu neu fio-hanfodol sy’n peri tramgwydd i bobl drawsryweddol. O’r enghreifftiau a roddwyd, roedd yn ymddangos i Bennaeth yr ECU bod un yn seiliedig ar gamsyniad. Dyfynnwyd bod y cyfrannwr “Jennie” yn dweud “Rydw i wedi cael rhywun yn dweud y byddai’n well ganddyn nhw fy lladd i na Hitler...Roedden nhw’n dweud y bydden nhw’n fy nghrogi i gyda gwregys pe baen nhw mewn ystafell gyda mi a Hitler. Roedd hynny’n hynod o dreisgar, dim ond oherwydd na fyddwn i’n cael rhyw gyda menywod trawsryweddol”, ac roedd rhai yn ystyried ei defnydd o “n” fel rhywbeth oedd yn bwrw amheuaeth yn fwriadol ynghylch rhyw menyw drawsryweddol. Fodd bynnag, ni ddywedodd “Jennie” unrhyw beth i awgrymu mai menyw drawsryweddol oedd yn gwneud y sylwadau dan sylw, ac ni welodd Pennaeth yr ECU unrhyw sail dros dybio eu bod wedi gwneud hynny. O ganlyniad, nid oedd yn derbyn bod hyn yn enghraifft o gam-ryweddu. Roedd enghreifftiau eraill yn cynnwys cyfranwyr a oedd yn cyfeirio at fenywod trawsryweddol fel “gwrywod yn fiolegol” neu â nodweddion “ɰɲ”, ond nid oedd hyn, mewn unrhyw achos, yn gwadu bod menywod trawsryweddol yn fenywod mewn gwirionedd ac yn llygaid y gyfraith. Er bod Pennaeth yr ECU yn gwerthfawrogi bod modd i gyfeiriadau o’r fath beri tramgwydd, credai fod cyfiawnhad dros eu cynnwys oherwydd y bwriad golygyddol i roi cipolwg ar brofiad a theimladau’r cyfranwyr dan sylw. Ni ddaeth o hyd i unrhyw enghraifft o iaith gam-ryweddu na bio-hanfodol yng ngeiriau’r awdur ei hun.
Roedd nifer o’r achwynwyr yn dadlau ei bod yn amhriodol i’r erthygl (yn ei ffurf wreiddiol) gynnwys cyfweliad gyd’r seren pornograffig lesbiaidd ’r cyfarwyddwr Lily Cade, ar sail ei hymddygiad rhywiol blaenorol ’r safbwyntiau trawsffobig a oedd ganddi ar-lein ar ôl i erthygl y 鶹Լ gael ei chyhoeddi. Mae’r rhai sy’n gyfrifol am erthygl y 鶹Լ wedi dweud nad oeddent yn ymwybodol o safbwyntiau trawsffobig Ms Cade cyn i’r erthygl gael ei chyhoeddi ac maent yn honni nad oedd sail resymol ar gyfer rhagweld y safbwyntiau a fynegodd wedi hynny. Maent wedi cadarnhau nad oedd unrhyw arwydd yn eu hymwneud â hi a fyddai wedi tynnu eu sylw at y ffaith fod ganddi farn benodol am fenywod trawsryweddol, neu y gallai fod ganddi unrhyw broblemau iechyd meddwl. Roeddent yn cydnabod, fodd bynnag, ei bod wedi cyfaddef i ymddygiad sydd bellach yn cael ei gydnabod fel cam-drin rhywiol mewn sgwrs Zoom ym mis Medi 2020, a oedd wedi colli sylw erbyn yr adeg yr oedd yr erthygl yn barod i’w chyhoeddi dros flwyddyn yn ddiweddarach. Yng nghyd-destun yr erthygl, byddai’r wybodaeth hon wedi helpu’r darllenwyr i farnu ei sylwadau yng ngoleuni ei gweithredoedd ei hun, ac roedd yn anffodus na chafodd ei chynnwys. Ar ôl i broblemau ymddygiad rhywiol Ms Cade a sylwadau ar-lein dilynol ddod i’r amlwg, fodd bynnag, tynnwyd ei chyfraniad o’r erthygl, a chafodd y diweddariad canlynol ei ychwanegu ato ar 4 Tachwedd 2021:
Rydym wedi diweddaru’r erthygl hon, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, er mwyn tynnu cyfraniad gan un unigolyn yng ngoleuni sylwadau y mae wedi’u cyhoeddi ar bostiadau blog yn ddiweddar, yr ydym wedi gallu eu dilysu.
Rydym yn cydnabod y dylid bod wedi cynnwys cyfaddefiad o ymddygiad amhriodol gan yr un cyfrannwr yn yr erthygl wreiddiol.
Roedd Pennaeth yr ECU o’r farn bod hwn yn ymateb priodol yn yr amgylchiadau, ac yn ddigon i ddatrys materion y gŵyn yn y cyswllt hwn. Roedd nifer o’r achwynwyr o’r farn nad oedd y diweddariad yn rhoi digon o fanylion am y rheswm pam yr oedd cyfraniad Ms Cade wedi cael ei ddileu, ond mae’n rhaid i’r 鶹Լ ystyried sut i ddisgrifio deunydd tramgwyddus heb ailadrodd a pharhau ag unrhyw drosedd y gallai ei achosi, ac roedd Pennaeth yr ECU yn credu bod cyfiawnhad dros beidio â rhoi manylion yn yr achos hwn.
Hefyd yn y cyswllt hwn, cyfeiriodd rhai achwynwyr at honiadau y dylai’r 鶹Լ fod wedi bod yn ymwybodol o’r materion mewn cysylltiad â Ms Cade oherwydd bod Chelsea Poe wedi cyfeirio atynt yn ei chyfweliad â’r awdur. Gwrandawodd Pennaeth yr ECU ar recordiad o’r cyfweliad cyfan a fe wnaeth ganfod fod Ms Poe wedi cyfeirio at Ms Cade yng nghyd-destun ei phrofiad saith mlynedd ynghynt wrth ystyried cynnig gwaith gan gwmni cynhyrchu yr oedd Ms Cade yn cyfarwyddo ffilmiau ar ei gyfer, ond nad oedd wedi gwneud hynny mewn termau a oedd yn awgrymu bod Ms Cade yn drawsffobig ac na chyfeiriwyd at ei chyfaddefiad o gam-drin rhywiol. Yn unol â hynny, ni wnaeth Pennaeth yr ECU ganfod unrhyw sail i’r honiadau bod Ms Poe wedi tynnu sylw’r 鶹Լ at y materion perthnasol mewn perthynas â Ms Cade.
Crynodeb o’r canfyddiadau
Bu i Bennaeth yr Uned Cwynion Gweithredol (ECU) ganfod bod yr erthygl, er ei fod yn ddarn cyfreithiol o newyddiaduriaeth ar y cyfryw, wedi disgyn o dan safonau cywirdeb y 鶹Լ am ddau reswm: roedd y pennawd wedi rhoi’r argraff camarweiniol bod ffocws yr erthygl ar y pwysau a roddwyd ar ferched trawsrywiol, a bod ymdriniaeth yr ymchwil a wnaethpwyd gan Get the L Out ddim wedi amlinellu yn glir ei fod yn ddiffygiol mewn dilysrwydd ystadegol. Hefyd canfyddodd y torrwyd safonau mewn perthynas ag un cyfraniad i’r erthygl (a gafodd ei dynnu wedyn) a ystyriodd iddo dderbyn y sylw briodol drwy ddiweddariad a ychwanegwyd i’r erthygl. Cafodd y cwynion felly eu cynnal yn rhannol mewn perthynas a chywirdeb a’u datrys mewn perthynas ’r cyfraniad a gafodd ei ddileu.
[1] “CDZ”
[2] “Rhyw, celwydd a cydsyniad cyfreithiol: All ystryw droi rhyw yn drais?”, /news/uk-england-49127545
[3]Gofynnodd rhai achwynwyr am esboniad ynghylch pam na ddefnyddiwyd y cyfweliad. Ar ôl gwrando ar y recordiad, rydym yn cytuno â’r awdur nad oedd yn cynnwys unrhyw beth a oedd yn taflu cymaint o oleuni ar y materion y rhoddwyd sylw iddynt yn yr erthygl fel ei fod yn gwarantu eu bod yn cael eu cynnwys.
Further action
Gweithredu pellach
Cafodd pennawd a chynnwys yr erthygl ei newid i adlewyrchu’r canfyddiad.