Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Daergryn Bach yn Hampshire

Vaughan Roderick | 10:04, Dydd Iau, 21 Chwefror 2013

Pethau rhyfedd yw isetholiadau ym Mhrydain. Anaml iawn y maent yn effeithio ar y fathemateg seneddol. Mae'n rhaid i fwyafrif llywodraeth fod yn hynod fregus iawn megis un Llafur yn Hydref 1974 neu un y Ceidwadwyr yn 1992 cyn i golli ambell i sedd fod yn broblem. Hyd yn oed yn yr achosion hynny fe lwyddodd John Major i gadw i fynd am y cyfan o'i dymor ac roedd Jim Callaghan o fewn ychydig wythnosau i'r pum mlynedd cyn iddo golli pleidlais o hyder.

Eto i gyd mae isetholiadau'n cael eu trin gan wleidyddion a'r cyfryngau fel rhyw brawf pwysig o gyflwr y pleidiau ac yn arwydd o'r tywydd gwleidyddol. Mae newyddiadurwyr yn tueddu heidio tuag at hyd yn oed yr isetholiad mwyaf di-nod a phan ddaw hymdinger fel Eastleigh mewn lle sy'n gyfleus i Lundain, wel gwyliwch mas pobol fach! Fe fydd na fwy o gamerâu ar eich Stryd Fawr na sy'n ffilmio carped coch y BAFTAS.

Dyw'r cyfryngau Cymraeg ddim yn gwbwl rhydd o'r obsesiwn hwn. Cofiaf i'r Byd ar Bedwar ddarlledu hanner awr gyfan ynghylch isetholiad Bermondsey pan etholwyd Simon Hughes ac roedd 'na gyfnod pan oeddwn i hefyd yn aml yn cael fy nanfon i baratoi adroddiad ynghylch rhyw ornest neu'i gilydd.

Dydw i ddim yn cofio p'un ai y gwnes i ymweld ac Eastleigh yn ystod isetholiad 1994 nei beidio. Rwy'n cofio myn i un Christchurch ychydig i'r gorllewin ac un Newbury ychydig i'r gogledd. Gwnes i elw bychan yn y ddau trwy fentro swllt a'r y rhyddfrydwyr. Tan yn ddiweddar roedd mentro ar y blaid felen mewn is etholiad yn fuddsoddiad wedd gall. Wedi'r cyfan roedd isetholidau yn llythrennol yn rhoi modd i fyw i'r drydedd blaid ac roedd hi'n arllwys popeth oedd ganddi i mewn i'w hennill.

Dydw i ddim wedi bod yn Eastleigh y tro hwn. Peidiwch ddisgwyl i mi ddarogan canlyniad felly. Serch hynny rwyf wneud un pwynt bach o hir brofiad.

Mae momentwm neu ddiffyg momentwm yn nyddiau olaf yr ymgyrch yn hollbwysig mewn isetholiadau ac mae adroddiadau yn y wasg a sibrydion y pleidiau yn awgrymu taw gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol y mae'r momentwm yn Eastleigh.

Mae 'na beryg enfawr i David Cameron yn hynny. Os daw hi'n amlwg i'r etholwyr bod yr enillydd fwy neu lai wedi ei setlo fe fydd y rheiny sy'n tueddu at Lafur, Ukip neu un o'r pleidiau llai yn teimlo'n fwy rhydd i bleidleisio o'r galon. Gallai hynny effeithio ar siâr y Democratiaid Rhyddfrydol o'r bleidlais ond pa ots yw hynny os ydy'r blaid yn fuddugol?

Yn bwysicach gallai diffyg gwasgfa'r "ras dau geffyl" beryglu gafael y Torïaid ar yr ail safle. Fe fyddai colli yn Eastleigh yn anaf i David Cameron - ond cwt fyddai hi nid clais. Fe fyddai dod yn drydydd ar y llaw arall yn gythraul o glatsied.

Ydy hynny'n bosib? Mewn isetholiad mae unrhyw beth yn bosib. Gofynnwch i George Galloway.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.