Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Them nymbars

Vaughan Roderick | 11:58, Dydd Iau, 6 Rhagfyr 2012

Doeddwn i ddim wedi bwcio gwyliau ta beth. Dyw'r peth o ddim ots i fi felly ond mae 'na ambell i wyneb pryderus o gwmpas y lle 'ma o glywed y bydd y Cynulliad mwy na thebyg yn ymgynnull am sesiwn frys wythnos nesaf. Cynhelir y sesiwn i drafod y rheoliadau ynghylch y lwfans treth cyngor - budd-dal sy'n cael ei ddatganoli o San Steffan i'r Cynulliad yng Nghymru ac awdurdodau lleol yn Lloegr.

Derbyniodd aelodau'r Cynulliad y rheoliadau - dros dri chan tudalen ohonyn nhw am ychydig wedi chwech o'r gloch neithiwr. Munudau'n ddiweddarach gofynnwyd iddyn nhw bleidleisio i atal y rheolau sefydlog er mwyn eu cymeradwyo.

Doedd dim dewis ond gwneud hynny yn ôl y gweinidog perthnasol Carl Sargeant am ei fod yn disgwyl derbyn "them nymbars" o Whitehall. Llusgo traed bwriadol oedd ar fai yn ôl y gwrthbleidiau. Roedd y ddadl yn un danbaid. Dyma hi.

















Beth aeth o le i'r llywodraeth, felly? Yn gyntaf er ei bod wedi ennill pleidlais Rhodri Glyn Thomas roedd grŵp Plaid Cymru wedi ei rhannu ac yn ail fe gwympodd del posib gyda'r Ceidwadwyr yn ddarnau. Yn ôl y Torïaid roedd cytundeb wedi ei gyrraedd ac fe newidiodd y Llywodraeth ei meddwl. Yn ôl ffynonellau Llafur roedd y Ceidwadwyr wedi cyflwyno rhestr siopa amherthnasol ac amhriodol. Nid oedd modd ei derbyn.

Beth bynnag yw'r esboniad fe fydd ambell i aelod cynulliad yn gorfod siomi'r plant wythnos nesaf. Hei ho!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:41 ar 6 Rhagfyr 2012, ysgrifennodd Dewi:

    O ni yn gweld y Llywydd yn hynod, hynod o wan yn y clip yma.
    Dwi ddim yn meddwl fysa John Bercow yn cael ei hyn mewn sefyllfa lle dydy nhw ddim yn edrych yn sicr o'i bethau ar camera.
    Amser am Lywydd newydd?

    Yr un peth dwi hefyd wedi sylwi ar ol hyn ydy pa mor wan ydy cyfryngau Cymru. Petai pobol yn gwybod am y shambles yma (o nain i'r mab sydd yn y coleg a syn cael cymorth) fysa nhw yn wallgo. Ond maer Â鶹ԼÅÄ yn methu (doedd o ddim ar y wefan tan dipyn wedyn). Doedd o ddim ar Newsnight. Doedd o ddim ar y 'prif newyddion'. Da chi yn rhoi gwasanaeth sal i bobol Cymru- ac yn sicr, petai hyn yn digwydd yn Lloegr. Fe fysa Eric Pickles ar hyd Newsnight, Daily Politics ayyb.

  • 2. Am 18:38 ar 7 Rhagfyr 2012, ysgrifennodd Steffan John:

    Mae hi'n bennod hollol hurt a gwarthus i ddisgwyl AC bleidleisio ar reolau heb iddynt gael y cyfle i'w darllen. Serch hynny, rhaid i mi anghytuno gyda thi Dewi. Ar y cyfan mae'r Â鶹ԼÅÄ yn gwneud swydd dda, ond drwy natur y gorfforaeth, rhaid iddi gadw draw o ymddangos yn dueddol.

    Mae ein cyfryngau yn ein gadael ni lawr, ond mwy o gyfryngau ideolegol sydd angen. Nid y Â鶹ԼÅÄ sydd ar fai am eu habsenoldeb.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.