Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Teulu'r Mans

Vaughan Roderick | 15:55, Dydd Mercher, 10 Hydref 2012

Y penwythnos nesaf fe fydd digwyddiad yn cael ei gynnal a fyddai mewn cyfnod arall yn cael ei gyfri'n un o bwys hanesyddol i Gymru. Mae'n arwydd o drai crefydd ym mywyd ein gwlad bod y stori wedi cael ychydig iawn o sylw y tu hwnt i furiau ein Capeli ac Eglwysi.

Y 'Cydgynulliad' yw enw'r digwyddiad ac yn ôl gwefan yr Eglwys Bresbyteraidd fe allai fod yn "drobwynt pwysig i Gristnogaeth Gymreig".

Cyfarfod o'r Eglwysi Cyfamodol yw'r Cydgynulliad. Mae'r rheiny yn cynnwys yr Anglicaniaid a'r rhan fwyaf o'r enwadau anghydffurfiol. Fe fydd yr Hen Gorff yno ynghyd â'r rhan fwyaf o'r Bedyddwyr, y Methodistiaid a'r Eglwys Rydd Diwygiedig. O'r enwadau mawrion traddodiadol dim ond yr Annibynnwr sy'n cadw draw.

I danlinellu pwysigrwydd y digwyddiad fe fydd Ysgrifennydd Cyngor Eglwysi'r Byd yn bresennol wrth i gyfres o gynlluniau gael eu cyhoeddi - cynlluniau sydd yn ôl y yn rhai "creadigol a beiddgar ar gyfer gweddnewid y sefyllfa eciwmenaidd yng Nghymru".

Yr hyn sydd dan sylw mae'n debyg yw cam enfawr tuag at gael gwared ar yr hollt rhwng y Capel a'r Llan tra'n diogelu gwahanol draddodiadau o fewn fframwaith Eglwysig newydd. O safbwynt hanes Cristnogaeth yng Nghymru gallai'r digwyddiad hwn gynrychioli'r newid mwyaf yn ein bywyd crefyddol ers dyddiau Hywel Harris a Daniel Rowland.

Yn gefndir i hyn oll wrth gwrs mae'r argyfwng sy'n wynebu'r Eglwysi o safbwynt eu haelodaeth, eu hadeiladau a'u hoffeiriadaeth.

O fewn cwta ganrif fe drodd Cymru o fod yn un o wledydd mwyaf crefyddol y byd i un o'r lleiaf. Yn 1905 roedd gan y Presbyteriaid 170,000 o bobol yn derbyn cymun yn fisol. Ganrif yn ddiweddarach yn 2005 180,00 oedd cyfanswm addolwyr rheolaidd ein holl Gapeli ac Eglwysi gyda'i gilydd. Mater o 'gilio i grynhoi ei mwy adfer' yw'r Cydgynulliad mewn gwirionedd felly.

Pam godi'r peth o gwbwl ar flog gwleidyddol? Mae 'na reswm!

I raddau helaeth iawn mae traddodiadau a rhaniadau crefyddol y genedl wedi dylanwadu ar ei thraddodiadau a rhaniadau gwleidyddol. Plaid y Llan oedd y Ceidwadwyr tra bod y Rhyddfrydwyr a Phlaid Cymru ar y cyfan yn bleidiau capel. Roedd p'un ai oedd Llafur yn blaid capel neu'n blaid Gatholig yn dibynnu ar ble yn union yng Nghymru yr oeddech chi!

Rwyf wedi dadlau droeon bod pleidiau Cymru yn debycach i enwadau na phleidiau go iawn. Mae eich ymlyniad i un ohonyn nhw yn fwy o fater o gefndir, teulu, iaith a dosbarth nac o syniadaeth na pholisi.

Os ydy'r muriau rhwng yr enwadau yn chwalu os gobaith am wleiyddiaeth ychydig yn fwy aeddfed tybed?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:40 ar 11 Hydref 2012, ysgrifennodd Rhys Llwyd:

    Cofnod difyr Vaughan, ond dwi'n amau dy fod yn gor bwysleisio pwysigrwydd y cyfarfod dydd Sadwrn. Er nad oes gen i wrthwynebiad i weld Cristnogion o wahanol draddodiadau yn cyd-weithio dwi'n poeni mae ceisio atgyfodi hen syniad sydd wedi methu fydd yn digwydd dydd Sadwrn. Flogging a dead horse.

    Mae Cristnogion o fy nghenhedlaeth i'n cyd-weithio ar draws ffiniau enwadol traddodiadol yn gwbl naturiol heb fod angen gwastraffu egni ac amynedd ar geisio undod mwy ffurfiol a sefydliadol. Mae undod organig yn digwydd beth bynnag rhwng pobl sy'n dilyn Iesu. Dyna yw'r Eglwys anweledig.

    Mae angen canolbwyntio ymdrechion ar waith mewn eglwysi lleol, ar wyneb y graig megis. Dyna pam na fydda i yno dydd Sadwrn, er mod i yn dymuno bendith run fath i bobl sydd am fynd.

  • 2. Am 00:31 ar 14 Hydref 2012, ysgrifennodd Emlyn:

    Wedi bod yno ddydd Sadwrn, yn anffodus mae'n rhaid cytuno gyda Rhys. Os oes yna gymhelliad digonol i gydweithio, mi fydd yn digwydd yn naturiol ddigon: boed yn lleol neu'n genedlaethol.

    Yn syml iawn, mae'r Eglwys yng Nghymru yn dweud bod rhaid i bob enwad arall gael esgobion (ac ordeinio esgobaethol) cyn fyddan nhw, yr Eglwyswyr, yn fodlon cydnabod gweinidogaeth gweinidogion yr enwadau eraill yn llawn.

    Am haerllugrwydd!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.