Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Et tu?

Vaughan Roderick | 15:31, Dydd Mercher, 4 Gorffennaf 2012

Dyma i chi gwestiwn diddorol. Ydy'r grŵp Ceidwadol yn y Cynlluniad hwn yn llai effeithiol nac oedden nhw yn y Cynulliad diwethaf? Mae 'na rai, gan gynnwys rhai o fewn y blaid a'r grŵp, yn argyhoeddedig eu bod nhw.

Nodwedd fwyaf annisgwyl y pedwerydd Cynulliad yw pa mor hawdd y mae Llafur wedi ei chael hi i lywodraethu o gofio nad oes ganddi fwyafrif yn y siambr. Efallai bod arafwch y Llywodraeth wrth baratoi deddfwriaeth yn rhannol gyfrifol am hynny. Serch hynny fe fyddai gwrthblaid effeithiol wedi gorfodi i'r Llywodraeth ddioddef ambell i ddydd anghysurus a phleidlais anodd erbyn hyn - ond y gwir amdani yw bod Carwyn Jones yn rhydd i fod yn weddol ddi-hid ynghylch yr hyn sy'n ei wynebu yn y Senedd.

Mae'r gwrthgyferbyniad rhwng y ffordd yr oedd y gwrthbleidiau yn cydweithio er mwyn arteithio Llywodraeth Alun Michael yn y Cynulliad cyntaf a'r amser hawdd y mae Carwyn Jones yn cael yn drawiadol iawn. Hyd y gwelaf i does 'na fawr ddim ymdrech wedi bod i ddod o hyd i dir cyffredin rhwng y Ceidwadwyr a'r ddwy wrthblaid arall er mwyn rhoi pwysau ar y Llywodraeth mewn meysydd penodol a does 'na ddim arwydd chwaith o unrhyw fath o strategaeth yn y ffordd y mae'r grŵp yn gweithredu.

Cymerwch ddoe fel enghraifft. Os ydych chi'n defnyddio Twitter mae'n debyg eich bod wedi sylwi ar newyddiadurwyr y Bae yn trydar yn hapus ynghylch stori o'r enw #Bindergate. Stori fach oedd hi ynghylch y cannoedd o bunnau yr oedd y Llywodraeth wedi gwario ar ffeiliau crand i ddal papurau gweinidogion wrth iddyn nhw fynychu'r siambr.

Mae newyddiadurwyr yn dwlu ar straeon felly. Mewn un ystyr maen nhw'n gymharol ddibwys ond maen nhw'n saff o gael eu darllen ac o ddenu ymateb gan ddarllenwyr a gwylwyr.

Gan amlaf os ydy plaid yn dod o hyd i stori o'r fath mae'n ein cyrraedd fel e-bost gan ymchwilydd neu swyddog y wasg. Nid felly yn achos #Bindergate. Pris ffeiliau'r Llywodraeth oedd testun cynhadledd newyddion wythnosol arweinydd yr wrthblaid - yr unig destun. Yn ôl ambell i Dori di-galon nid fel 'na mae rhedeg gwrthblaid effeithiol.

Gyda Phlaid Cymru wedi treulio blwyddyn yn syllu ar ei bogail ei hun, ar adegau mae hi wedi ymddangos mai'r Democratiaid Rhyddfrydol gyda'u pum aelod yw'r fwyaf effeithiol o'r tair gwrthblaid. Mae ambell i Geidwadwr o'r farn na ellir gadael i hynny barhau.

Hirddydd haf yw'r cyfnod cynllwynio traddodiadol mewn gwleidyddiaeth. Er gwaetha'r tywydd gaeafol dyw pethau ddim yn wahanol eleni. Cynyddu mae'r sibrydion yn y Bae a San Steffan ynghylch dyfodol Andrew RT Davies. Does dim symudiadau pendant i'w gweld eto dim ond rhyw deimlad bod rhywbeth yn y gwynt. Fe gawn weld.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:01 ar 4 Gorffennaf 2012, ysgrifennodd Steffan John:

    Digon gwir, ond does prin fantais wleidyddol - a hyd yn oed llai o awydd - i'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig nag i Blaid gydweithio gyda'r Ceidwadwyr. Mae'r safon o'u gwrthbleidio yn gwneud hynny'n haws fyth.

    Er nad wyf yn gefnogol ohonynt yn wleidyddol, mae eu methiant llwyr i roi traed y llywodraeth yn agosach tuag at y fflamau yn niweidio’r wlad.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.