Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cario'r groes

Vaughan Roderick | 14:48, Dydd Mawrth, 19 Mehefin 2012

Roedd 'na gyfnod pan oedd y Democratiaid Rhyddfrydol yna awchu am isetholiadau. Roedd dulliau ymgyrchu'r blaid a pharodrwydd eu haelodau i deithio milltiroedd lawer i ymgyrchu yn gwneud buddugoliaeth yn bosib yn y llefydd mwyaf annisgwyl. Roedd modd concro caerau Ceidwadol fel Newbury, Christchurch ac Eastleigh a rhai Llafur fel Dwyrain Brent, De CaerlÅ·r a Dunfermline a Gorllewin Fife.

Gwgu nid gwenu ynghylch y posibilrwydd o isetholiadau mae aelodau'r blaid erbyn hyn - gan wybod bod clatsien yn debycach na choncwest. Cymerwch isetholiad Gorllewin Bradford fel enghraifft. Gyda'r holl sylw yn cael ei roi i fuddugoliaeth anhygoel George Galloway hawdd oedd methu sylwi bod pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol wedi gostwng i 1,505 o 4,372 yn 2010 a bod y blaid wedi colli ei hernes. Colli ei hernes wnaeth y blaid yng Nghanol Barnsley hefyd - gan golli nid yn unig i Lafur a'r Ceidwadwyr ond hefyd i UKIP, y BNP ac ymgeisydd annibynnol.

Does syndod felly fy mod wedi cael ymateb digon surbwch pan wnes i grybwyll y tebygrwydd o isetholiad yn Ne Caerdydd a Phenarth wrth un o fawrion y blaid. Mae hwnnw'n debyg o ddigwydd o ganlyniad i ddewis Alun Michael fel yr ymgeisydd Llafur ar gyfer swydd Comisiynydd Heddlu De Cymru.

Cyn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf fe fyddai'r blaid wedi dwli at y syniad o droedio strydoedd yr etholaeth. Roedd De Caerdydd a Phenarth wedi ei chlustnodi fel sedd darged tymor hir gan y blaid ac roedd hi'n dal sawl sedd gyngor o fewn ei ffiniau. Gyda phleidlais Geidwadol sylweddol i'w gwasgu fe fyddai'r sedd o fewn eu cyrraedd.

Ond ni ddaw ddoe byth yn ôl. Yn yr etholiadau Cyngor eleni collodd y blaid bob un o'i seddi cyngor yn yr etholaeth. Mewn un ward lle gollodd tri chynghorydd eu seddi enillodd y blaid mil o bleidleisiau'n llai nid yn unig na'r ymgeiswyr Llafur buddugol ond hefyd mil yn llai nac ymgeiswyr Plaid Cymru.

A fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn trafferthu rhyw lawer yn Ne Caerdydd a Phenarth, felly? Does dim llawer o ddewis ganddyn nhw, mewn gwirionedd. Fe fyddai colli ernes yn embaras difrifol ond mae 'na ffactor arall yn chwarae ar feddyliau strategwyr y blaid.

O ganlyniad i'r ad-drefnu etholiadol fe fydd ffiniau etholaeth Canol Caerdydd, sedd Jenny Willott, yn newid. Oes angen dweud o ble y mae'r wardiau sy'n debyg o gael eu hychwanegu ati yn dod?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:24 ar 19 Mehefin 2012, ysgrifennodd Dewi:

    Oes rhaid i Alun Michael ymddiswyddo fel AS CYN yr etholiad (i fod yn Gomisiynydd), yntau ydio'n cael sefyll a dal fod yn AS?.

    Neu mewn geiriau eraill- os dio'n colli yr etholiad i fod yn Gomisynydd a fydd o dal yn cael aros fel AS?

  • 2. Am 17:45 ar 19 Mehefin 2012, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dydw i ddim yn sicr os oes rhaid iddo ymddiswyddo ond gobaith Llafur yw cynnal yr isetholiad ar un diwrnod ac etholiad y Comisynydd.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.