Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pony welwch chwi hynt y gwynt ar glaw?

Vaughan Roderick | 15:00, Dydd Mawrth, 26 Mehefin 2012

Mae 'na ryw atyniad rhyfedd yn perthyn i hanes dyddiau olaf gwladwriaethau ac ymerodraethau. Am ryw reswm mae campwaith Gibbon ynghylch cwymp Rhufain o hyd yn fwy diddorol na'r amryw lyfrau sy'n ymwneud â'r ymerodraeth ar ei hanterth. Yma yng Nghymru mae Canu Heledd a marwnad Gruffudd ab yr Ynad Coch i Llywelyn II o hyd yn adleisio.

Fel mae'n digwydd rwyf wedi bod yn darllen dau lyfr ynghylch cwymp gwladwriaethau yn ddiweddar. Mae teitl "" yn hunanesboniadol. Ymwneud â
dyddiau olaf y Conffederasiwn yn rhyfel cartref America mae "". Rwy'n argymell y ddau.

Mae testunau'r ddau lyfr yn wladwriaethau sy'n gyfarwydd i ni heddiw er pa mor fyrhoedlog oedd hanes y CSA. Mae gwladwriaethau coll eraill bron yn angof ac mae Norman Davies yn adrodd hanes rhai ohonynt yn ei lyfr "". Fel mae'n digwydd mae un o deyrnasoedd yr hen ogledd yn un o'r gwledydd y mae Davies yn dewis adrodd ei hanes. Mae 'na ambell i atgof ohoni yn llenyddiaeth Cymru ond nemor ddim yn hanes ysgrifenedig na llafar yr Alban.

Yn ei lyfr mae Norman yn gwneud un o'r pwyntiau yna sy'n gwbl amlwg ar ôl i rywun ei wneud - sef bod pob gwladwriaeth yn dirwyn i ben rhyw bryd. Fel Rhufain ac Ystrad Clud perthyn i hanes neu ddiflannu ohoni yw tynged pob un o wladwriaethau'r byd.

Daeth sylw Norman i'n meddwl wrth i mi holi Willie Rennie, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban ar fy rhaglen wleidyddol Saesneg fore Sul. Lansio'r ymgyrch "Na" yn refferendwm annibyniaeth yr Alban oedd testun y sgwrs ac fe wnaeth Willie Rennie bwynt diddorol.

Er bod nifer aelodau'r Cenhedloedd Unedig wedi cynyddu o 51 yn 1945 i 193 heddiw roedd pob un o'r gwladwriaethau newydd a ffurfiwyd naill ai'n ganlyniad dad-drefedigaethu neu'n ffrwyth datgymalu gwladwriaeth dotalitaraidd. Doedd yr un wlad ddatblygedig ddemocrataidd wedi rhannu'n ddwy yn ystod y cyfnod hwnnw, meddai. Roedd y cysylltiadau economaidd a chymdeithasol, a bywyd cysurus eu trigolion yn gwneud hynny'n broses lawer ynrhy gymhleth a pheryglus.

Fe wnaeth Willie Rennie bwynt o ddweud nad oedd yn credu ei bod hi'n amhosib i'r Alban fod yn annibynnol ond cefais yr argraff nad oedd yn credu bod hynny'n mynd i ddigwydd. Efallai nad oedd ei hyder cymaint â un o Seneddwyr Rhufain yn ei hoes aur ond gallasai'r gred fod y Deyrnas Unedig yn rhy fawr i fethu fod yn beryglus iawn i'r ymgyrch Na.

Stauell Gyndylan ys tywyll heno,
Heb dan, heb wely.
Wylaf wers; tawaf wedy.


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:57 ar 29 Mehefin 2012, ysgrifennodd Joseph Hill:

    Beth am Tsiecoslofacia?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.