Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth

Archifau Tachwedd 2011

Sbin Uwch Adsbin

Vaughan Roderick | 14:17, Dydd Mercher, 30 Tachwedd 2011

Sylwadau (0)

Dydw i ddim yn gwybod os ydw i wedi dal feirws neu rywbeth ond am yr ail bost yn olynnol rwyf am gyfeirio yn ôl at ddyddiau Mrs Thatcher. 1990 yw'r maes llafur heddiw - blwyddyn pan oedd trafferthion Treth y Pen ar eu hanterth a'r llywodraeth Geidwadol yn gwegian.

Ar ddydd Sadwrn y 31ain o Fawrth roedd protest yn Llundain gan ryw chwarter miliwn o bobol wedi esgor ar drais a therfysg gyda siopau a cheir ar dan, dros gant o bobol wedi eu hanafu a thri chant wedi eu harestio. Yn wahanol i derfysgoedd eleni doedd 'na ddim adwaith enfawr yn erbyn y terfysgwyr ymhlith y cyhoedd oedd, ar y cyfan, yn gynddeiriog ynghylch y dreth newydd.

Ar y meinciau Ceidwadol roedd y sibrwd ynghylch dyfodol Thatcher ar gynnydd ac am gyfnod roedd hi'n ymddangos y byddai canlyniad gwael yn etholiadau lleol mis Mai yn ddigon i selio ei thynged.

Sut oedd achub y Prif Weinidog felly? Roedd gan ei rhingyll mwyaf ffyddlon gynllun - yr enghraifft orau y gwn i amdani o chwarae'r gêm ddisgwyliadau.

Fe lwyddodd Cadeirydd y blaid, Kenneth Baker i argyhoeddi newyddiadurwyr gwleidyddol mai'r unig ganlyniadau oedd o bwys oedd canlyniadau dau gyngor pitw yn Llundain sef Westminster a Wandsworth. Dim ond y rheiny fyddai'n cynrychioli'r farn genedlaethol, meddai, ffactorau lleol fyddai'n gyfrifol am yr holl ganlyniadau eraill.

Mae'n anodd coelio bod hyd yn oed newyddiadurwyr oedd yn treulio'u dyddiau o fewn swigen San Steffan wedi llyncu'r peth - ond fe wnaethon nhw.

Fel oedd Kenneth Baker yn gwybod yn iawn, o ganlyniad i werthoedd trethianol tai yn y ddwy ardal roedd eu trigolion ymhlith yr ychydig oedd wedi elwa o gyflwyno treth y pen. Fe adlewyrchwyd hynny yng nghanlyniadau'r etholiad. Y bore wedyn roedd papurau cefnogol i'r Ceidwadwyr yn uchel eu cloch wrth ddathlu 'buddugoliaeth' y Ceidwadwyr a chyhoeddi 'methiant' y gwrthbleidiau.

Pennawd ar wefan y Daily Mail heddiw wnaeth fy atgoffa o'r hanes. Dyma mae'n ei ddweud.

"Heathrow has never been more efficient! Passengers' glee as border agency strike actually SPEEDS UP passport control"

Pe bawn i'n sinig, ac wrth gwrs dydw i ddim, byswn yn amau bod y Llywodraeth yn fwriadol wedi bod yn ceisio dyrchafu Heathrow fel rhyw fath o faen prawf o lwyddiant neu fethiant streiciau'r sector gyhoeddus. Ar yr un pryd byddai sinig yn amau bod y Llywodraeth wrthi fel lladd nadroedd yn ceisio sicrhau bod y gweithredu yn cael nemor ddim effaith ar y maes awyr.

Byswn i byth yn awgrymu'r fath beth wrth gwrs - ond rwy'n sicr bod David Cameron yn ddiffuant wrth ddiolch i weithwyr ei swyddfa breifat wnaeth wirfoddoli i weithio ar ddesgiau pasport Heathrow.

Amser maith yn ôl

Vaughan Roderick | 14:14, Dydd Mawrth, 29 Tachwedd 2011

Sylwadau (0)

Un mlynedd ar hugain yn ôl i ddoe fe yrrwyd Margaret Thatcher i Balas Buckingham i gyflwyno ei hymddiswyddiad yn ffurfiol i'r Frenhines. Roedd yn ddiwedd cyfnod mewn gwleidyddiaeth ac ers hynny mae cenhedlaeth o etholwyr wedi tyfu i fyny heb unrhyw gof ohoni fel Prif Weinidog.

Go brin fod unrhyw un o dan ddeg ar hugain oed ac atgofion uniongyrchol o wleidyddiaeth y cyfnod. Nid bod hynny'n golygu nad oes gan rai o'r ifanc deimladau cryfion ynghylch y ddynes haearn. Mae'n debyg ei bod hi wedi bod yn destun sawl stori amser gwely - boed hynny fel bwci bo neu arwr! Dyma un arall.

Wel, blantos, ffrind gorau Margaret oedd Tina. Heb Tina ni fyddai hi wedi llwyddo i ennill tri etholiad o'r bron. Roedd yn gyfnod unigryw bron yn hanes gwleidyddol Prydain - cyfnod lle doedd na fawr o gysylltiad rhwng cyflwr yr economi a ffawd etholiadol y Llywodraeth. Yn wir cafodd Mrs Thatcher ei buddugoliaeth fwyaf yn 1983 pan oedd yn economi ar ei din a nifer y di-waith ymhell dros dair miliwn. Roedd cyflwr y Blaid Lafur a Rhyfel y Falklands yn rhannol gyfrifol am y fuddugoliaeth honno ond roedd a wnelo Tina llawer a'r peth hefyd.

I'r rheiny sydd ddim wedi ei chwrdd o'r blaen acronym yw Tina sy'n sefyll dros "There Is No Alternative". Honno oedd y fantra Geidwadol oedd yn mynnu nad oedd dewis arall ond preifateiddio, llacio rheolaeth y banciau a'r marchnadoedd arian a chyflymu tranc y diwydiannau trymion a rhannau helaeth o'r diwydiant cynhyrchu.

Fe fydd angen cymorth Tina ar y Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol nesaf, dybiwn i.

Beth bynnag oedd ei gymhellion economaidd roedd strategaeth wleidyddol George Osborne yn weddol amlwg o'r eiliad y croesodd trothwy 11, Downing Street am y tro cyntaf. Y bwriad oedd rhoi llwyth o foddion cas i'r sector gyhoeddus a'r trethdalwr yn gynnar yn nhymor y Llywodraeth yn y gobaith y byddai 'na arwyddion economaidd addawol erbyn cynnal yr etholiad nesaf yn 2015. Mewn byd perffaith fe fyddai'r ystadegau'n ddigon da i allu torri rhyw faint ar drethi.

Wel, mae'r byd ymhell o fod yn berffaith. Yn ôl ystadegau'r OBR a gyhoeddwyd heddiw y disgwyl y bydd diweithdra o hyn yn 2.4 miliwn adeg yr etholiad nesaf. Yn y sector gyhoeddus fe fydd gweithwyr wedi goddef pum mlynedd o ddirywiad yn eu cyflogau a'u safonau byw. Fe fydd hynny'n wir am sawl un yn y sector breifat hefyd.

Oni ellir darbwyllo'r etholwyr nad oedd 'na ddewis arall go brin y bydd pobol yn teimlo fel gwobrwyo pleidiau'r Llywodraeth.

Beth bynnag yw'r cyfiawnhad economaidd dros y mesurau a gyhoeddwyd ganddo heddiw mae'r peryg gwleidyddol i George Osborne yn amlwg. Gallai cymryd camau digon tebyg i'r rhai mae Llafur wedi bod yn galw amdanynt dros y deunaw mis diwethaf awgrymu i'r etholwyr bod ganddo fe ddau ddewis yn ôl yn 2010 - a'i fod wedi dewis yr un anghywir.

Rhagdybio...

Vaughan Roderick | 11:08, Dydd Iau, 24 Tachwedd 2011

Sylwadau (0)

Mae'n ddiwrnod cymharol dawel yn y gwaith heddiw. Gallwn fod yn saff bod trafodaethau ynghylch y gyllideb yn digwydd yn rhywle ac efallai cawn ni achlust o sut mae pethau'n mynd yn y man.

Mae gen i gyfle felly i ddweud gair am un stori Brydeinig sef darlith Nick Clegg ynghylch hiliaeth a draddodwyd y bore 'ma. Roedd 'na un frawddeg oedd yn sefyll allan i fi sef hon:

"The real lesson from the last 30 years is it is not enough for a society to reject bigotry. Real equality is not just the absence of prejudice. It is the existence of fairness and opportunity too."

Mae'r pwynt yn un diddorol ac yn sicr mae'n bosib i unigolyn neu gymdeithas fod yn rhydd o ragfarnau negyddol tra'n parhau i goleddu rhagdybiaethau ynghylch lleiafrifoedd.

Cafwyd enghraifft o hynny yr wythnos hon yn yr ymateb i a gyhoeddwyd gan sefydliad Demos ynghlch gwladgarwch Prydeinig.

Mae'r adroddiad drwyddi draw yn ddiddorol ond yr agwedd a ddenodd sylw'r wasg oedd y canfyddiad bod Mwslimiaid yn fwy gwladgarol na thrwch y boblogaeth. Fel ei gilydd roedd papurau ar y dde a'r chwith fel pe bai nhw wedi eu synnu gan y canfyddiad. Hynny yw, roedd hyd yn oed papurau na ellir eu cyhuddo am eiliad o fod yn rhagfarnllyd ynghylch Mwslemiaid a rhagdybiaeth ynghylch agweddau Mwslemiaid tuag at y Deyrnas Unedig.

Nid hwn yw'r tro cyntaf i Demos chwalu rhagdybiaeth ynghylch Mwslemiaid Prydain. Yn ôl yn Mis Mehefin (ar sail yr un arolwg, mae'n ymddangos) cyhoeddodd y sefydliad ynghylch agweddau gwahanol gymunedau ffydd tuag at y ffordd y mae Prydain yn trin pobol hoyw.

Yn reddfol fe fyswn i wedi rhagdybio mai anffyddwyr ac yna efallai Cristnogion neu Iddewon fyddai'r mwyaf brwd dros hawliau bobol hoyw. Nid felly, Sikhiaid a Mwslemiaid oedd y ddwy gymuned ar frig y rhestr oedd yn cefnogi deddfwriaeth gyfarataledd.

Roedd adroddiad Demos yn ymddangos fel pe bai'n gwrthddweud arolwg gan Gallup yn ôl yn 2009 pan holwyd dros fil o Fwslemiaid Prydeinig. Doedd dim un ohonyn nhw'n credu bod rhyw hoyw yn foesol dderbyniol.

Ond does 'na ddim anghysondeb rhwng y ddau ganlyniad o reidrwydd. Mae'n ddigon posib i aelod o leiafrif sydd dan bwysau ymfalchïo yn y ffordd y mae'r gyfraith yn amddiffyn hawliau lleiafrif arall - heb gymeradwyo daliadau neu weithredoedd y lleafrif hwnnw.

Peth peryg fyddai rhagdybio'n wahanol.


Cyfri'r Ceiniogau

Vaughan Roderick | 14:56, Dydd Mercher, 23 Tachwedd 2011

Sylwadau (4)

"Mae oglau'r coffi wedi cyrraedd y pumed llawr." Dyna oedd disgrifiad un Democrat Rhyddfrydol sy'n agos y trafodaethau ynghylch Cyllideb Llywodraeth Cymru am gyflwr y trafodaethau hynny. Mae'r cloc yn tician, wrth gwrs gyda'r Llywodraeth yn gorfod gosod y gyllideb ddydd Mawrth nesaf ar gyfer dadl ar y chweched o Ragfyr.

Gyda'r Ceidwadwyr wedi eu cau allan o'r trafodaethau mwy neu lai o'r cychwyn mae'n deg dweud bod timau negodi Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi eu siomi gan agwedd y Llywodraeth hyd yma. Yn ôl ffynonellau yn y ddwy blaid roedd hi'n ymddangos bod y Llywodraeth yn fodlon aros tan y funud olaf gan gynnig fan gonsesiynau yn y gred y byddai'r naill blaid neu'r llall yn cracio.

Rwy'n synhwyro bod y sefyllfa wedi newid rhyw ychydig yn ystod y trafodaethau diweddaraf yn arbennig y rhai gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol. P'un ai y gall Llafur ddod o hyd i'r arian angenrheidiol i dalu pris unrhyw ddel ai peidio sy'n fater arall.

Mae 'na un ffactor a allai effeithio ar benderfyniadau'r Llywodraeth. Galw am wariant ar ddatblygu economaidd a chyflymu'r rhaglen gyfalaf mae Plaid Cymru. Bwriad cynllun Ieuan Wyn Jones yw rhoi hwb byr dymor i'r economi mewn cyfnod anodd. Cytundeb ynglŷn â chyllideb 2011-12 yn unig sydd ei angen.

Dymuno gweld arian yn cael ei arallgyfeirio i ysgolion sy'n addysgu'r mwyaf difreintiedig mae'r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae synnwyr cyffredin yn dweud na fyddai'n synhwyrol i wneud hynny am flwyddyn yn unig. Wedi'r cyfan, beth fyddai pwynt cyflogi rhagor o athrawon yn 2011 ac yna eu diswyddo flwyddyn yn ddiweddarach?

Pe bai Carwyn yn chwarae ei gardiau'n ofalus mae 'na wobr werth ei chael yn fan hyn. Ai fi yw'r unig un sy'n cofio 'opsiwn Seland Newydd'?

Llafur Llugoer

Vaughan Roderick | 15:23, Dydd Mawrth, 22 Tachwedd 2011

Sylwadau (0)

Rwy'n ceisio peidio ysgrifennu gormod ynghylch y ffrae ynglŷn â system bleidleisio'r Cynulliad. Rwyf wedi dweud o'r blaen bod systemau'n bwysig. Ar y llaw arall go brin fod yr un stori o lai o ddiddordeb i'r rheiny y tu fas i'r swigen wleidyddol.

Yr hyn sy'n hela dyn i grafu pen ynghylch y stori hon yw pam yn union y mae Llafur yn parhau i daflu cols ar y tan arbennig yma? Fel mae Alan Trench, un o'r arbenigwyr ar ddatganoli / anoracs blaenaf yn esbonio draw ar ei mae'r dystiolaeth bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu cyflwyno unrhyw newid yn dila iawn. Ar ben hynny mae rhai o honiadau Peter Hain wedi bod yn ffeithiol anghywir.

Yn wyneb hynny, pam wnaeth Carwyn Jones benderfynu rhyddhau'r ffaith ei fod wedi ysgrifennu at David Cameron ynghylch y mater? Pam cadw'r stori yn fyw - a pham mynnu bod angen naill ai fandad etholiadol neu refferendwm i wneud unrhyw newid o gwbwl i'r system bleidleisio neu'r setliad presennol?

Mae'r gwrthgyferbyniad a'r datblygiadau gwleidyddol yr Alban yn drawiadol. Nid son am amddiffyn y statws quo na'r angen am fandad etholiadol mae Douglas Alexander mewn araith yng Nglasgow heddiw. Yn hytrach mae'r llefarydd Llafur ar faterion tramor yn dweud

"We must do more than oppose separation. We must be true to our own history and advocate devolution. That does not and need not require simply a defence of the status quo... I believe that Alex Salmond will be defeated in his referendum on separation. I believe that once again it will be re-asserted that devolution is the settled will of the Scottish people. But that does not mean that the settlement itself cannot respond to circumstances."

Fe fyddai cyhuddiad o safonau dwbl neu ragrith yn annheg yn fan hyn. Wedi cyfan holl bwynt datganoli yw bod gwleidyddion a phleidiau yn gallu torri gwahanol gwysau yn y gwahanol wledydd.

Ar y llaw arall un o'r ffactorau oedd yn allweddol i lwyddiant yr ochor "ie" yn y refferendwm eleni oedd yr angen i 'gadw lan gyda'r Alban'. Mae 'na beryg y bydd rhai yn credu bod Llafur Cymru yn cael ei gadael ar ôl.

Adrodd hanes

Vaughan Roderick | 14:20, Dydd Iau, 17 Tachwedd 2011

Sylwadau (2)

Rwy'n amau bod gwaith yr hanesydd Norman Davies yn gyfarwydd i'r rhan fwyaf o ddarllenwyr y blog yma.

I'r rheiny dydd ddim wedi dod ar ei draws ei waith roedd llyfr Norman Davies "The Isles" (1999) ynghyd a llyfr Linda Colley "Britons" (1992) yn gyfrifol am newid sylfaenol yn y ffordd y mae hanes yn ynysoedd hyn yn cael ei ddadansoddi. Tynnu sylw at fyrhoedledd Prydeindod a natur aml-genedlaethol yr ynysoedd hyn wnaeth Colley - ysgrifennu cyfrol yn croniclo'u hanes gan ddefnyddio'r persbectif hwnnw wnaeth Davies.

Os oes angen prawf o ddylanwad gwaith Davies does ond rhaid sylwi bod y term "English Civil War" wedi diflannu o lecsicon yr haneswyr ar ôl i Davies nodi bod hwnnw'n enw hurt a'r gyfres o ryfeloedd mewn tair gwahanol wlad.

Cefais gyfle heddiw i holi Norman am ei lyfr newydd "Vanished Kingdoms" ar gyfer fy rhaglen fore Sul ar Radio Wales. Llyfr yw hwn yn croniclo 'gwladwriaethau coll' Ewrop - yn fwyaf arbennig y rheiny sy'n cael y lleiaf o sylw gan haneswyr. Gellir synhwyro peth o'r cymhelliad yn y cyflwyniad i'r llyfr "I'r Anghofiedig - to those historians tend to ignore".

Gwladwriaethau'r hen ogledd, yn fwyaf arbennig Ystrad Clud, oedd prif destun y sgwrs. Cewch wrando ar Radio Wales neu brynu'r llyfr i ddysgu mwy am y rheiny - ond roedd pennod arall o'r llyfr wedi denu fy sylw hefyd sef un yn dwyn y teitl "Éire".

Mae cynnwys enw Gwyddeleg Iwerddon ar restr o wladwriaethau coll yn ymddangos braidd yn rhyfedd ar yr olwg gyntaf ond cyfeirio at sefydliad y Wladwriaeth Rhydd yn 1922 fel y cam cyntaf tuag at ddiflaniad wladwriaeth arall mae'r llyfr. Y Deyrnas Unedig yw'r wladwriaeth honno.

Hanesydd yw Norman Davies nid proffwyd ond o gofio bod y llyfr wedi mynd i'r wasg peth amser yn ôl mae ei ddamcaniaeth ynghylch effaith trafferthion yr Ewro ar y farn gyhoeddus yn Lloegr yn hynod o graff. Efallai y byddai'n syniad i Unoliaethwyr wrando ar ei rybudd bod y Deyrnas Unedig yn uchel iawn ar y rhestr o wladwriaethau sy'n debyg o ddiflannu yn ystod y blynyddoedd nesaf. Mae'n bosib ar y llaw arall ei bod hi'n rhy hwyr.

Yn ein sgwrs mae Norman y mynd gam ymhellach nac yn y llyfr gan ddweud y gellid cymryd diwedd y wladwriaeth Brydeinig yn ganiataol erbyn hyn. Mater o bryd a sut yw e bellach. Y cwestiwn mawr nawr, meddai, yw pa elfennau o Brydeindod y mae pobol yn dymuno eu gweld parhau o fewn y gwladwriaethau newydd sydd ar y gorwel.

Annwyl Mrs Jones

Vaughan Roderick | 14:21, Dydd Mawrth, 15 Tachwedd 2011

Sylwadau (1)

Go brin fod yna unrhyw bwnc sy'n fwy at ddant anoracs gwleidyddol na systemau pleidleisio.

Gellir synhwyro bod y mwyafrif llethol o etholwyr heb unrhyw ddiddordeb yn y pwnc. Yn wir, mae'n anodd meddwl am bwnc sydd o lai o ddiddordeb i'r "Mrs Jones, Llanrug" chwedlonol y mae cenedlaethau o newyddiadurwyr Cymraeg wedi ei hyfforddi i ddarparu newyddion ar ei chyfer.

Rwy'n cofio un ffrae fawr yn ystafell newyddion y Â鶹ԼÅÄ degawdau yn ôl wrth i ryw olygydd neu'i gilydd wrthod stori gan ohebydd ar y sail bod hi "o ddim diddordeb i 'Mrs Jones, Llanrug". "Mae Mrs Jones yn hen idiot anwybodus felly!" oedd ymateb y gohebydd. Gresyn gen i ddweud nad fi oedd y gohebydd hwnnw - ond efallai dywedaf rhywbeth tebyg yn y dyfodol.

Nid pwnc sych, academaidd yw systemau pleidleisio. Ac eithrio niferoedd y pleidleisiau, y gyfundrefn o ddosrannu seddi ar eu sail yw'r ffactor bwysicaf wrth benderfynu canlyniad etholiad.

Yn y cyd-destun hwnnw mae'n ddiddorol darllen y stori yma ynghylch yr Alban. Cewch ddarllen y cyfan os dymunwch ond yn y bôn mae'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn dadlau bod angen newid cyfundrefn bleidleisio Holyrood. Craidd y ddadl yw bod un blaid - sef yr SNP - wedi llwyddo i ennill mwyafrif mewn cyfundrefn etholiadol lle nad oedd hynny i fod yn bosib. Rhaid yw newid y drefn felly.

Nawr fe fyddai'n gamgymeriad i ddiystyru unrhyw adroddiad sy'n cyfri'r hen ben gwleidyddol yr Athro John Curtice ymhlith ei awduron. Ar y llaw arall mae'n rhaid bod John yn gwybod yn iawn nad oes 'na unrhyw bosibilrwydd o gwbl y bydd yr argymhellion y Gymdeithas yn cael eu gwireddu.

San Steffan sy'n gyfrifol am gyfundrefn bleidleisio Senedd yr Alban ac yn y cyd-destun gwleidyddol presennol fe fyddai defnyddio'i pŵer i newi y drefn yn groes i ddymuniad Llywodraeth yr Alban yn wallgofrwydd gwleidyddol. Gellir cymryd yn ganiataol hefyd na fydd Llywodraeth yr Alban yn cydsynio.

Mae hynny'n dod a ni at benderfyniad Pwyllgor Gwaith Cymreig y Blaid Lafur dros y Sul i fygwth y gallai Llafur yn y dyfodol gyflwyno cyfundrefn 'cyntaf i'r felin' ar gyfer etholiadau Cynulliad pe bai'r Llywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig yn dechrau potsio a'r gyfundrefn sy'n bodoli ar hyn o bryd.

Mae nifer sylweddol o aelodau Llafur yn anesmwyth iawn ynghylch y syniad o gael gwared a chynrychiolaeth gyfrannol yn etholiadau'r cynulliad ond yn derbyn bod y bygythiad hwnnw yn arf angenrheidiol yn y brwydrau seneddol sydd i ddod.

Yn y bôn mae Llafur yn ceisio sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn derbyn yr un parchedig ofn a Llywodraeth yr Alban. Mae'r rhesymeg wleidyddol yn amlwg. Y peryg yw bod drws wedi ei gilagor a allai fod yn hynod anodd ei gau.

Dewis Geiriau

Vaughan Roderick | 10:04, Dydd Iau, 10 Tachwedd 2011

Sylwadau (2)

Rhywbeth cymharol newydd yw colofn "clarifications and corrections" y Daily Mail. Yn wir fe fyddai sinig yn amau bod y peth ond yn bodoli o gwbwl oherwydd bod golygydd y papur, Paul Dacre, yn dymuno cael rhywbeth i gyhoeddi yn ystod ei ymddangosiad gerbron ymchwiliad Leveson fis yn ôl.

Ta beth yn y golofn yr wythnos hon cafwyd "cywiriad" bach byr. Dyma fe.

"We stated in an article on 26 September that Christmas has been renamed in various places Winterval. Winterval was the collective name for a season of public events, both religious and secular, which took place in Birmingham in 1997 and 1998. We are happy to make clear that Winterval did not rename or replace Christmas."

Mae eraill wedi cyfri faint o weithiau y mae'r Mail wedi cynnwys straeon ynghylch 'Winterval' ar hyd y blynyddoedd. 44 yw'r ffigwr yn ôl y wnaeth hefyd gyfri 40 o straeon yn y Times, 31 yn y Sun, 26 yn yr Express 22 a yn y Telegraph.

Google oedd eich ffrind os oeddech yn dymuno gwybod y gwir am 'Winterval'. Doedd hi ddim yn anodd canfod gwraidd y stori os oeddech yn dymuno gwneud hynny. Wrth gwrs pa angen y gwir os ydy'r stori yn siwtio'ch agenda?

Mae'n ymddangos bod Archesgob Cymru yn un o'r bobol sy'n dewis credu popeth sy'n ymddangos yn y papurau. Yn ei yn 2007 fe ymosododd yr Archesgob ar yr hyn alwodd yn "ffwndamentaliaeth anffyddiol" oedd meddai "yn achosi, er enghraifft, i awdurdodau lleol alw'r Nadolig yn 'Ŵyl y Gaeaf', ysgolion yn gwrthod llwyfannu dramâu Nadolig a chroesau yn cael eu symud o gapeli".

Nawr mae gen i'r parch mwyaf tuag at Barry Morgan ond nid hwn yw'r unig dro iddo ddefnyddio geiriau y byddai rhai yn gweld fel gormodiaith. Efallai eich bod yn cofio'r ffwdan ynghylch ei ynglŷn â rhoi organau ym mis Medi - sylwadau wnaeth bery pryder i nifer o arweinwyr ffydd.

Rhydd i bawb ei farn ac os ydy'r Archesgob yn dymuno tynnu blew o drwyn mae perffaith hawl ganddo fe wneud hynny. Ar y llaw arall mae'n werth cofio nad Eglwys sefydledig yw'r Eglwys yng Nghymru. Mater o arfer a thraddodiad yw bod pobol yn tueddu troi at yr Archesgob pan mae angen sylw ar ran y cymunedau ffydd. Os ydy'r Archesgob yn defnyddio gormodiaith neu'n dweud pethau sy'n ffeithiol anghywir fe allai fe beryglu'r statws hwnnw.


Drwgdeimlad

Vaughan Roderick | 14:28, Dydd Mawrth, 8 Tachwedd 2011

Sylwadau (0)














Anaml iawn y mae sesiynau cwestiynau'r Prif Weinidog yn y Bae yn cynnig yr un fath o theatr wleidyddol a fersiwn San Steffan. Roedd y rhai yn yr wythnosau cyn tranc Llywodraeth Alun Michael yn rhai difyr - i ni oedd yn gwylio o leiaf. Prin yw'r sesiynnau cofiadwy ers hynny.

Wythnos yn ôl cafwyd arwydd bod pethau'n dechrau newid ychydig. Mewn cyfres o gwestiynau bachog fe ymosododd Ieuan Wyn Jones ar y Llywodraeth am beidio â chyhoeddi yr un cynllun cyfalaf newydd ers etholiad mis Mai. Roedd hi'n amlwg nad oedd Carwyn Jones wedi rhagweld yr ymosodiad na pharatoi ar ei gyfer. Am unwaith roedd ei atebion yn ymddangos braidd yn ansicr.

O fewn munudau i ddiwedd y sesiwn roedd sbin ddoctoriaid y Llywodraeth wrthi'n brysur yn mynnu bod rhaff o gynlluniau wedi eu cyhoeddi a bod cyhuddiadau arweinydd Plaid Cymru yn gamarweiniol neu hyd yn oed yn gelwyddog. Fel prawf o hynny ddoe cyhoeddodd y Llywodraeth yn brolio ynghylch gwariant cyfalaf eleni.

Ymlaen a ni at rownd 2 felly. Cyn i Ieuan gael ei gyfle yn y sesiwn gwestiynau heddiw cafwyd gornest fach stormus rhwng y Prif Weinidog ac Andrew RT Davies. Mae'r rhain yn mynd yn dipyn o ddefod gydag arweinydd yr wrthblaid yn holi am ryw agwedd neu'i gilydd o waith Llywodraeth Cymru a Carwyn yn ymateb trwy ymosod ar record Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Y Gwasanaeth Iechyd oedd dan sylw heddiw ac fe gynhaliwyd y ddefod wythnosol gyda rhwystredigaeth Andrew yn amlwg wrth iddo ddod yn agos iawn at golli ei dymer a mynnu gofyn un cwestiwn mwy na'i haeddiant. Efallai ei fod yn ymwybodol y byddai'r Llywydd yn gyndyn iawn i rwystro Ceidwadwr rhag siarad ar ôl embaras ei meic agored wythnos ddiwethaf!

Gwres nid goleuni y cafwyd o'r ffrwgwd bach yna. Cwestiynau Ieuan oedd yn bwysig yw wythnos hon am resymau y dof atynt yn y man.

Fe ddechreuodd arweinydd Plaid Cymru trwy drafod datganiad newyddion ddoe. Doedd dim byd newydd yn y peth meddai - yr un oedd y cynnwys i bob pwrpas a a rhyddhawyd gan Lywodraeth Cymru'n Un cyn yr etholiad. Ieuan ddylai wybod - mae'n cael ei ddyfynnu yn y datganiad gwreiddiol. Doedd na ddim prosiectau newydd meddai nac un rhaw yn torri daear Cymru o ganlyniad i benderfyniadau'r Llywodraeth.

Gwadodd Carwyn yr honiad ond roedd Ieuan yn ei hwyliau erbyn hyn ac yn adeiladu tuag at wneud cyhuddiad y mae Plaid Cymru wedi bod yn braenaru'r tir ar ei gyfer ers rhai wythnosau.

Yn y bon y cyhuddiad yw bod Llywodraeth Cymru yn eistedd ar ei dwylo gan feddwl bod 'na fantais wleidyddol i Lafur mewn caniatau i economi Cymru ddirywio a beio Llywodraeth y Deyrnas Unedig am y dirywiad hwnnw.

Mae'r cyhuddiad yn un difrifol. Yn reddfol rwy'n berson sy'n credu yn rasel Hanlon - "never attribute to malice that which is adequately explained by stupidity" ond does dim dwywaith bod y naratif gwleidyddol y mae Plaid Cymru yn ceisio ei greu un a allasai brofi'n effeithiol.

Y broblem i Lafur - ac efallai i Blaid Cymru yw hon. Ar ôl gwneud cyhuddiad o'r fath fe fydd hi'n anodd iawn i Blaid Cymru gefnogi cyllideb y Llywodraeth heb newidiadau sylfaenol i'w chynnwys - yn fwyaf arbennig cyflymu prosiectau cyfalaf a chynyddu'r gwariant ar ddatblygu economaidd.

Beth fydd y Llywodraeth yn gwneud felly - ildio i Blaid Cymru neu droi at y 'Condemiaid' diawchedig yna? Dyw hi ddim yn ddewis dymunol i Lafur ond dyna'r dewis syn ei wynebu. Fe fydd yr wythnosau nesaf yn rhai diddorol.

Arian yn y banc

Vaughan Roderick | 11:08, Dydd Gwener, 4 Tachwedd 2011

Sylwadau (0)

Go brin fod yr enw Sir Julian Hodge yn golygu rhyw lawer i unrhyw un o dan hanner cant heddiw. Efallai bod ganddo'ch gof iddo ariannu'r ymgyrch 'na' yn refferendwm 1997 neu eich bod wedi sylwi ar ei enw ar bencadlys banc bychan yng nghanol Caerdydd ac ambell i ddarlithfa.

I'r rheiny ohonom cafodd ein magu yn y pumdegau neu'r chwedegau ar y llaw arall mae enw Sir Julian yn gyfarwydd iawn. O'i swyddfa ar ben adeilad uchaf Cymru (Gwesty Holland House erbyn hyn) roedd Sir Julian yn gallu syllu allan ar deyrnas o fusnesau amrywiol na welwyd ei thebyg yng Nghymru ers hynny. Ymhlith y gwahanol fusnesau yr oedd Sir Julian wedi eu casglu ar hyd y blynyddoedd roedd siop James Howells, casgliad o fodurdai, cwmni cacennau Avana, dwsin o sinemâu a'r "Hodge Card" - y cerdyn credid cyntaf ym Mhrydain.

Yn wir benthyg arian oedd sylfaen y cyfan. Nid fan hyn yw'r lle i ail-adrodd yr holl gyhuddiadau ynghylch y graddfeydd llog yr oedd cwmnïau Hodge yn eu codi ond teg yw dweud efallai nad oedd yn dangos yr un fath o haelioni i'w gwsmeriaid ac yr oedd yn dangos tuag at elusennau ac achosion da.

Fel sawl Ozymandias arall roedd Syr Julian yn dymuno gadael marc ar ei ôl a'r ddwy gofeb fawr yr oedd yn deisyfu eu gweld oedd Cadeirlan newydd i Gatholigion Caerdydd a banc i hybu busnesau Cymreig.

Daeth fawr ddim o'r cynllun am Gadeirlan. Dadorchuddiwyd carreg sylfaen yn ôl yn yr wythdegau. Duw - neu'r Archesgob a wyr lle mae hi nawr. Doedd Archesgobaeth Caerdydd ddim yn orawyddus i fwrw ymlaen a'r cynllun. Fe fyddai'r adeilad llawer yn rhy fawr i anghenion yr Eglwys ac wrth gwrs roedd 'na gwestiynau anodd ynghylch tarddiad yr arian oedd yn cael ei gynnig.

Cafodd Syr Julian fwy o lwyddiant gyda'r banc. Fe'i sefydlwyd yn 1971 er yn ôl pob son roedd yn rhaid iddo odro pob owns o'i gyfeillgarwch a Jim Callaghan er mwyn cael gwneud.

"Banc Masnachol Cymru" oedd enw'r peth i ddechrau ar roedd ganddo bencadlys ysblennydd cyferbyn a Chastell Caerdydd. "Plas Glyndŵr" yw enw'r adeilad erbyn hyn ac yn eironig ddigon mae gartref i weision sifil yr adran datblygu economaidd.

Byr oedd oes y Banc. Methodd datblygu'r rhwydwaith o ganghennau yr oedd Sir Julian wedi ei rhagweld er iddo lwyddo i gael gwared a'r 'masnachol' yna o'r enw. Fe'i prynwyd yn y diwedd gan y "Bank of Scotland" a rhoddodd hwnnw'r gorau i ddefnyddio'r enw yn gynnar yn ganrif hon.

Ym mol HBOS y mae Banc Cymru heddiw felly ac ym mol banc Lloyds y mae hwnnw. I bob pwrpas eiddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw'r cyfan.

Yn 2009 ysgrifennodd Geraint Talfan Davies yn galw am drosglwyddo perchnogaeth 'Banc Cymru' i Lywodraeth Cymru. Does dim eiddo gan y banc erbyn hyn ond dadl Geraint oedd bod 'na werth i'r enw ac awgrymodd sawl ffordd y gellid ei ddefnyddio.

Efallai bod a wnelo'r ffaith bod ei ewythr Alun Talfan Davies yn Gadeirydd ar y banc rywbeth a brwdfrydedd Geraint ond mae'n anodd iawn anghytuno a'i sylwadau. Mae popeth sydd wedi digwydd ers 2009 - yn enwedig methiant y banciau i fenthyg i fusnesau bychan wedi cryfhau ei ddadleuon.

Fe fyddai Banc Cymru wedi dathlu ei ben-blwydd yn ddeugain eleni. Onid yw hi'n bryd edrych eto i lenwi'r twll yn yr economi Gymreig?

Ac Ambell Sbrigyn...

Vaughan Roderick | 10:52, Dydd Iau, 3 Tachwedd 2011

Sylwadau (1)

Gyda'r Euro yn y fantol a'r economi byd-eang yn gwegian maddeuwch i mi am fentro blogbost bach ynghylch pwnc sy'n ymylol i fywydau pob dydd pobol Cymru - a dweud y lleiaf. Wedi'r cyfan chwi gewch y newyddion ar y dudalen newyddion - does dim byd yn bod ar ledaenu ychydig o glecs ar y dudalen hon.

Mae'n debyg eich bod wedi clywed am helynt Rosemary Butler ddoe wrth i feicroffon agored ei dal yn sibrwd "Oh here we go now" wrth i Mark Isherwood ddechrau ar araith yn ymosod ar record economaidd y Llywodraeth Lafur diwethaf yn San Steffan.

Mae'n anodd credu nad mynegi rhwystredigaeth a'r Aelod oedd y Llywydd - nid o reidrwydd am resymau pleidiol. Mae sawl gwleidydd a newyddiadurwr (gan gynnwys fi) yn dechrau diflasu wrth i slapstic y ddadl wleidyddol Brydeinig gael ei llusgo'n fwyfwy aml i mewn i sesiynau'r Cynulliad. Mae'n debyg y byddai 'na gydymdeimlad â Rosemary Butler pe bai wedi esbonio mai dyna oedd yn gyfrifol am ei geiriau anffodus.

Yn lle hynny cafwyd datganiad oedd yn atgoffa dyn o'r olygfa yn Casablanca lle mae Cyrnol Renault yn esgus cael ei synnu o ddarganfod bod hapchwarae'n digwydd yng nghaffi Rick. Chi'n cofio.

"I'm shocked, shocked to discover that Gamblings been taking place"

"Your winnings, sir"

Yn yr un modd roedd y Llywydd wedi "arswydo gan yr awgrym bod ei geiriau'n cyfeirio at Aelod Cynulliad". At beth oedden nhw'n cyfeirio felly? Ni chafwyd esboniad.

Nawr mae 'na bobol sy'n wfftio hyn i gyd. Wedi'r cyfan, maen nhw'n dadlau, mae Llefarydd TÅ·'r Cyffredin yn dweud pethau llawer mwy haerllug wrth aelodau'r Siambr honno. Gyda phob dyledus barch iddyn nhw mae'r bobol hynny yn colli'r pwynt yn gyfan gwbwl.

Pe bai Rosemary Butler wedi dweud yr union eiriau ar goedd yn hytrach na dan ei gwynt ac wedi esbonio eu hystyr - fyddai na ddim problem. Fyddai 'na ddim problem chwaith pe bai Mrs Butler yn boblogaidd ac yn uchel ei pharch ymhlith trwch aelodau'r Cynulliad. Yn anffodus nid fel 'na mae pethau.

Efallai bod Mrs Butler yn dioddef oherwydd cymariaethau rhyngddi hi a'i rhagflaenydd, Dafydd Elis Thomas neu rhyngddi hi a'i dirprwy, David Melding ond y gwir amdani yw bod nifer o aelodau ar draws y Siambr wedi ei siomi gan ei pherfformiad. Mae rhai o'r cwynion yn blentynnaidd braidd, rhai yn ddi-sail efallai, ond mae mwy nag un aelod o'r farn y gallai na fod newid yn y Llywyddiaeth ymhell cyn diwedd oes y pedwerydd cynulliad. Fe gawn weld.

Yn y cyfamser rwy'n difaru am y tro cyntaf nad yw'r blog yma yn Saesneg. Byswn wedi dwli gallu ysgrifennu'r pennawd "Is time running out for Rosemary?"!

Croesi Popeth

Vaughan Roderick | 14:48, Dydd Mawrth, 1 Tachwedd 2011

Sylwadau (2)

Fe ddioddefodd y Blaid Lafur sawl 'annus horribilis' yn y blynyddoedd cyn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf. Un o'r gwaethaf oedd 2008 - blwyddyn yr etholiadau cyngor diwethaf. Mae'n werth cofio maint y gyflafan - un a ddisgrifiwyd ar y pryd fel 'trobwynt hanesyddol' gan ambell i sylwebydd ac academydd.

Cyn yr etholiad roedd gan Lafur fwyafrif ar wyth o gynghorau - nifer oedd eisoes yn isel o gofio cryfder traddodiadol y blaid yn siambrau cyngor Cymru. Ar ôl colli 124 o seddau ar y noson dim ond dau gyngor - Rhondda Cynon Taf a Chastell Nedd Port Talbot oedd ar ôl.

Dim ond 342 o gynghorwyr Llafur gafodd eu hethol. Doedd hynny ddim cymaint â hynny'n fwy na Phlaid Cymru (205) y Ceidwadwyr (174) neu hyd yn oed y Democratiaid Rhyddfrydol (162). Yn wir roedd y 342 yna yn y golofn Llafur yn llai na'r 381 yng ngholofn y cynghorwyr annibynnol a'r pleidiau llai.

Dyw e ddim yn syndod bod Llafur yn edrych ymlaen a chryn hyder at etholiad lleol 2012 felly. Os nad oes 'na ryw newid anhygoel yn yr hinsawdd wleidyddol fe ddylai 'na fod llanw cryf o blaid Llafur fis Mai nesaf. Rhaid aros a disgwyl i weld maint y llanw hwnnw. Fe fydd Llafur yn gobeithio y bydd e'n ddigon i adennill rheolaeth mewn cyfres o gynghorau ac i dynnu blew o drwyn y rhai oedd yn taranu ynghylch 'trobwyntiau' a 'nosweithiau hanesyddol' yn 2008.

Heb amheuaeth fe fyddai pob un o'r pleidiau eraill yn dioddef o dan y fath amgylchiadau ond mae un blaid y gallai llanw Llafur droi'n swnami iddi. Y Democratiaid Rhyddfrydol yw'r blaid honno.

Mae hanes y Democratiaid Rhyddfrydol a'u rhagflaenwyr ers ei isafbwynt yng nghanol y ganrif ddiwethaf yn un hynod ddiddorol. Erbyn diwedd y chwedegau prin ei bod hi'n bodoli yng Nghymru y tu hwnt i Faldwyn a Cheredigion.

Mae'r hynny o gryfder sydd ganddi heddiw yn ffrwyth degawdau o ymdrech a gwaith caled wrth i selogion y blaid ymroi i adeiladu sylfaen gadarn iddi ward wrth ward - gan ganolbwyntio ar etholiadau lleol yn hytrach na rhai seneddol.

Mae'n gas gan y pleidiau eraill dactegau lleol y Democratiaid Rhyddfrydol gyda'u siartiau bar a'u 'rasys dau geffyl' ond does dim dwywaith eu bod nhw'n effeithiol. Nid geiriau gwag yw mantra'r blaid "where we work we win".

Yn 2012 fe fydd y blaid yn gobeithio y bydd gwaith caled eu cynghorwyr yn fodd i inswleiddio eu cefnogaeth o amhoblogrwydd y blaid ar lefel Brydeinig a Chymreig. Gallai hynny ddigwydd mewn wardiau a gipiwyd oddi ar y Ceidwadwyr ar hyd y blynyddoedd ond mewn wardiau oedd yn draddodiadol Llafur fe fydd yn rhaid croesi bysedd a chroesi coesau!

Yn wahanol i Lafur yn 2008 fe fyddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ei chael hi'n anodd i oroesi cyflafan etholiadol. I raddau llawer yn fwy na'r pleidiau eraill - y cynghorwyr yw asgwrn cefn y blaid. Nhw, eu teuluoedd a'u cyfeillion sy'n ariannu'r blaid i raddau helaeth a nhw sy'n rhannu'r holl daflenni yna yn y cadarnleoedd.

Y ddau gwestiwn ddylai fod yn poeni'r blaid yw'r rhain - sut mae amddiffyn y nifer fwyaf posib o seddi a sut mae darbwyllo y cymaint o'r rheiny sy'n colli a phosib i gadw eu trwynau at y maen am bedair blynedd arall.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.