Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Caerwyn

Vaughan Roderick | 14:14, Dydd Mercher, 19 Hydref 2011

Roeddwn i'n bell o'r blog, trydar a'r we ddoe. Efallai nad ydych yn credu bod hynny'n bosib. Y cyfan ddywedaf i yw hyn. Os ydych chi'n gweld sgarmes o newyddiadurwyr - boi'r Â鶹ԼÅÄ yw'r un yn y cefn yn gwaeddu mewn i Nokia hynafol!

Ta beth, os oeddwn i wedi bod yn agos at gyfrifiadur doe byswn wedi ysgrifennu ychydig eiriau ynghylch Caerwyn Roderick fu farw rhai dyddiau yn ôl. Gwell hwyr nac hwyrach.

Digon cwta oedd gyrfa seneddol Caerwyn.

Fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol Brycheiniog a Maesyfed i olynu Tudor Watkins yn 1970. Cadwodd y sedd yn etholiadau 1974 a'i cholli yn 1979 ar ôl i'r comisiwn ffiniau gael torri Brynmawr a Chefn Coed y Cymmer allan o'r etholaeth. Roedd Ystradgynlais dai i mewn - ond doedd honno ddim yn ddigon ar ei phen ei hun i gadw'r sedd yn y golofn Lafur.

Dydw i ddim yn meddwl bod Caerwyn yn colli San Steffan llawer. Wedi'r cyfan, roedd gweithio i'r NUT yng Nghaerdydd yn caniatáu iddo wylio Morgannwg llawer yn amlach.

Fedra i ddim meddwl am unrhyw beth gwael i ddweud am Caerwyn. Roedd e'n ddyn oedd yn gadarn ei ddaliadau heb fod yn gul ei feddwl ac roedd ei gwmni bob tro yn bleser.

Pob cydymdeimlad â'i deulu.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:16 ar 19 Hydref 2011, ysgrifennodd Al:

    Dim byd i wneud a'ch erthygl chi ar Caerwyn Roderick ond...

    'Welshi Minister rules out smacking ban' - dyma oedd y teitl ar wefan newyddion Saesneg y Â鶹ԼÅÄ heddiw wrth gyfeirio at Gwenda Thomas a'r ddadl ynglyn a tharo plant.
    Ai bwriadol ddilornus oedd hyn neu gohebydd wedi rhoi'r teitl fel joc ac anghofio ei newid cyn ei roi ar y wefan?

  • 2. Am 12:38 ar 20 Hydref 2011, ysgrifennodd Tom:

    Gwr bonheddig i'r carn. Un o'r hen deip Llafur Cenedltholgar. Yn browd iawn o'r Ystrad ac yn Gristion didwyll. Colled mawr ar ei ol.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.