Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Traed Moch

Vaughan Roderick | 16:13, Dydd Mawrth, 21 Mehefin 2011

.


Poster moch daear

Mae gen i deimladau cryfion ynghylch ambell i beth mae'r Cynulliad yn trafod. Rhaid bod yn garcus wrth ohebu ynghylch y rheiny a dewis geiriau'n ofalus. Yn ffodus dyw'r cynllun difa moch daear ddim yn un o'r rheiny.

Rwyf wedi darllen y ffeithiau moel am y niwed y mae'r diciâu yn achosi i amaeth yng Nghymru ond heb rannu poen ffarmwr wrth golli gyr. Ar y llaw arall dydw i ddim yn un sy'n rhamantu ynghylch moch daear ychwaith. Yn wir, fe dybiwn i, nad yw'r rheiny sydd wedi sefyll ar steps y senedd mewn gwisgoedd moch daear gyda'u posteri anthropomorffig wedi gwneud llawer o les i'w hachos.

Un o'r problemau ynghylch y ddadl hon yw bod y ddwy ochor yn hawlio bod "y wyddoniaeth" yn gefnogol i'w safbwyntiau nhw. Y gwir amdani wrth gwrs yw nad yw'r fath beth ac "y wyddoniaeth" yn bodoli. Mae 'na ystod o astudiaethau a theorïau a dyw pigo'r rheiny syn ffafriol i'ch achos ac wedyn mynnu mai'r rheiny, a'r rheiny'n unig, sy'n cyfri, o fawr o gymorth i neb.

Yn wahanol i fyd gwyddoniaeth mae gan y byd gwleidyddol reolau pendant - gwirioneddau sy'n bosib eu profi y tu hwnt i bob amheuaeth. Un o'r rheiny yw hon.

"Elections have consequences and I won."

Mae'n rhai i mi gyfaddef fy mod yn credu bod hwn yn hen, hen ddywediad. O chwilio ar y we rwy'n canfod ei fod yn un diweddar iawn. Barak Obama a'i dywedodd yn 2008.

Un peth sy'n sicr - ni fyddai John Griffiths wedi gwneud y cyhoeddiad y gwnaeth e heddiw pe bai Llafur heb sicrhau digon o seddi yn y Cynulliad i osgoi gorfod ffurfio clymblaid. Yn wir pe bai 'na glymblaid mae'n debyg mae aelod o Blaid Cymru neu Ddemocrat Rhyddfrydol fyddai'n gyfrifol am y maes hwn.

Ar y llaw arall dyw'r datganiad ddim yn ymddangos fel cic i'r ystlys i mi. Mae amseru'r datganiad ac amserlen yr adolygiad yn awgrymu y bydd 'na benderfyniad y naill ffordd neu'r llall yn weddol fuan. Yn wir yn ôl y Gweinidog fe ddylai'r penderfyniad hwnnw ddod yn yr Hydref.

Beth fydd y penderfyniad? Mae'n bosib wrth gwrs bod y Gweinidog yn braenaru'r tir ar gyfer rhoi'r gorau i'r cynllun. Mae'r un mor bosib mai darbwyllo'r grŵp Llafur i gefnogi difa yw'r bwriad. Mae hi hyd yn oed yn bosib bod y Gweinidog yn bwriadu dilyn y cyngor gwyddonol!

A beth fydd y cyngor hwnnw? Dyma i chi ddyfyniad arall gan Mark Twain y tro hwn.

"There is something fascinating about science. One gets such wholesale returns of conjecture out of such a trifling investment of fact."

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:26 ar 21 Mehefin 2011, ysgrifennodd Robert:

    Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru dros y cynllun difa. Beth yw pwrpas y swyddfa yma os nad y gwleidyddion yn gwrando arno. A beth sydd wedi newid o ran tystiolaeth ers i'r Cynulliad bleidleision dros y cynllun rhai misoedd yn ol? Dim.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.