Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Na chartref chwaith fynd iddo

Vaughan Roderick | 13:51, Dydd Mercher, 18 Mai 2011

Nawr pe bai ni'n byw yn y Dwyrain Canol yn y pumdegau neu Ddwyrain Ewrop yn y pedwardegau fe fyddai Llafur yn defnyddio ei mwyafrif dros dro yn y Cynulliad i gyhoeddi stad o argyfwng a allai bara am ddegawdau!

Nid lle fel 'na yw'r Bae - diolch byth. Eto i gyd dyw Llafur ddim yn orawyddus i ddatrys problemau "technegol" Aled Roberts a John Dixon a'u caniatáu i eistedd yn y siambr.

Am gyfnod byr felly fe fydd gan Lafur fwyafrif gweithredol yn y siambr - mwyafrif a allai fod yn ddefnyddiol wrth wneud ambell i benodiad. Mae rhai yn credu mai dyna yw cymhelliad y grŵp Llafur am wrthod cefnogi cynnig gan y Democratiaid Rhyddfrydol i faddau camweddau Aled a John. I eraill mae'n brawf bod malais llwythol Llafur Cymru yn codi ei ben eto dyddiau'n unig ar ôl i Carwyn Jones gyhoeddi ei dranc.

Efallai bod 'na elfen o wirionedd yn y ddau gyhuddiad, efallai ddim. Ond gallwn fod yn gwbwl sicr o un peth - sef hyn. Mae'r hyn wnaeth Aled a John - neu yn hytrach yr hyn na wnaethon nhw - yn erbyn y gyfraith. Efallai bod hi'n fater o esgeulustod ar ran eu plaid ond dyw anwybodaeth o'r gyfraith ddim yn amddiffyniad mewn llys barn ac oni ddylai corff sydd newydd dderbyn pwerau i lunio cyfreithiau barchu cyfreithiau sy'n bodoli eisoes? Pa neges fyddai'n cael ei danfon i'r etholwyr pe bai tor-cyfraith yn rhywbeth "technegol" i'w wyrdroi ar fympwy trwy bleidlais fwyafrifol?

Beth sy'n debyg o ddigwydd felly? Wel ar ôl cyfnod o sach liain a lludw mae'n debyg y bydd Aled a John yn cael eu cardiau adnabod - a'u swyddfeydd yn ôl. Dyw hi ddim yn debyg y bydd y naill na'r llall yn cael ei ddiarddel gan greu agoriad i ymgeiswyr eraill ar eu rhestri. Am y tro felly ni fydd Eleanor Burnham yn dychwelyd i'r cynulliad - er cymaint y golled ar ei hol!

Ond hyd yn oed os ydy'r Cynulliad yn pleidleisio i ganiatáu i Aled a John gymryd ei seddi fe fyddai eu hethol o hyd yn agored i her yn y llysoedd. Mae'n ymddangos bod 'na siawns go dda y byddai her o'r fath yn llwyddo ond mae'n anodd pwy yn union fyddai'n elwa trwy ddod ac achos o'r fath.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:53 ar 19 Mai 2011, ysgrifennodd Harold Street:

    Vaughan,

    'Diarddel' yw gair un stori o leiaf ar y wefan newyddion am John Dixon ac Aled Roberts, ond 'anghymhwyso' yw'r gair cywir yn ôl deddf gwlad.

    Dwi ddim yn gefnogwr o fath yn y byd i'r Rhyddfrydwyr, ond mae defnyddio'r gair 'diarddel' yn gwneud ichi feddwl bod yna ddrygioni o ryw fath wedi'i wneud.

    Gyda llaw, mae gwallau fel hyn yn dangos nad yw staff y Â鶹ԼÅÄ yn gyfarwydd â'r dogfennau Cymraeg na'r termau Cymraeg cywir, yn anffodus. Dwi ddim yn meddwl y byddai staff Saesneg eu hiaith wedi cael dweud 'banned' yn lle 'disqualified'.


Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.