Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Na Dros Gymru

Vaughan Roderick | 10:57, Dydd Gwener, 11 Chwefror 2011

Rwyf wedi bod o dan y doctor yn ystod y dyddiau diwethaf gan boeni mwy am fy mhỳls fy hun na phỳls y genedl!

Dyma fi yn ôl yn y gwaith ar gyfer dau o'r bae a beth sy fy nisgwyl? Gwahoddiad bach i barti "Diolch am ddweud Ie" ym Medwas. Mae'n addo bod yn noson dda hefyd gyda ymddangosiad olaf Meic Stevens a'r band. Fel ffan o Meic byswn yn cael fy nhemptio - onibai fy mod yn gweithio ar raglen ganlyniadau S4C ar y pryd.

O leiaf mae ymgyrchwyr 'Ie' Caerffili'n teimlo'n hyderus. Nid felly ym mhob man. Rwyf wedi clywed gan sawl gwleidydd rwy'n parchu eu bod yn canfod talcen caled wrth ymgyrchu. Clywaf son am "genedlaetholwyr pybyr sy'n llugoer", "ffermwyr sy'n grac am Glastir" a bod "pobol y Gogledd yn colli amynedd".

Nawr rwyf wedi clywed pethau fel hyn o'r blaen. Y tro diwethaf oedd yn ystod y ras i ddewis arweinydd newydd Llafur Cymru. I mi roedd hi'n amlwg o'r cychwyn y byddai Carwyn Jones yn ei cherdded hi a nad oedd gobaith caneri gan Edwina Hart neu Huw Lewis.

Dyna oedd y dystiolaeth i gyd yn ei dweud ond ar sawl achlusur clywais gan wleidyddion a chyd-newyddiadurwyr eu bod nhw'n amau y bydd ai "pethau'n agos" neu eu bod nhw'n "teimlo yn eu dŵr" bod cyfle gan un o'r ymgeiswyr eraill i gipio coron Carwyn.

Nid dyna ddigwyddodd wrth gwrs ac mae'n brawf nad yw bod yn geffyl blaen yn safle cysurus.

Oes lle i'r ochor 'Ie' boeni felly?

Wel, mae'n wir i ddweud nad yw pethau wedi mynd arbennig o dda i'r ymgyrch yn y dyddiau cynnar. Fe achosodd Peter Hain embaras gyda'i sylwadau mewn cyfweliad a Â鶹ԼÅÄ Cymru ac mae 'na amheuon cynyddol am allu Roger Lewis fel prif ladmerydd yr ymgyrch - yn enwedig wrth fynd benben a seren ymgyrch ceiniog a dime Gwir Gymru, Rachel Banner.

Pethau bach yw'r rheiny mewn gwirionedd ac mae'r llugoerni y mae ymgyrchwyr yn canfod yn debycach o arwain at bleidlais isel nac at bleidlais 'na'.

Nes i'r arolygon barn awgrymu'n wahanol does 'na ddim rheswm i'r ochor 'Ie' fynd i banig.

Efallai.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:12 ar 11 Chwefror 2011, ysgrifennodd ³§¾±Ã´²Ô:

    Vaughan

    Dim i wneud 'da politics - rhywbeth pwysicach!

    Yn y Llyfrgell Genedlaethol bydd gig olaf Meic Stevens cyn iddo fynd am Ganada! Cynhelir y gig yma ar nos Wener 25 Chwefror ac mae tocynnau'n gwerthu'n dda!

    ... sawl gig olaf mae Meic wedi ei gael bellach!?

  • 2. Am 12:44 ar 11 Chwefror 2011, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dim cymaint a Hogiau'r Wyddfa mae'n debyg

  • 3. Am 17:36 ar 11 Chwefror 2011, ysgrifennodd Monwynsyn:

    A llawer llai na Dafydd Iwan !!!

  • 4. Am 14:27 ar 12 Chwefror 2011, ysgrifennodd Carwyn:

    Os fydd y tim rygbi Cymru colli pob gem tymor yma a fydda pleidlais IA yn disgyn hyd yn oed yn fwy!!! Papur Academaidd (O fath) yn yr cwestiwyn yma rhywle dwi siwr!!!!

  • 5. Am 22:52 ar 12 Chwefror 2011, ysgrifennodd FoDafydd:

    Does dim rhaid i ni boeni am hynny bellach - gobeithio y gwellan nhw eto, ac y bydd hynny'n help i'r ymgyrch Ie! Wrth gwrs mae yna gem bel-droed fach yn erbyn Lloegr cyn bo hir: gwir gem genedlaethol Cymru!!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.