Βι¶ΉΤΌΕΔ

Help / Cymorth
Β« Blaenorol | Hafan | Nesaf Β»

Yr Ateb?

Vaughan Roderick | 21:23, Dydd Gwener, 17 Rhagfyr 2010

Rwy'n dyrchafu sylw i bost blaenarol yn bost yn ei rinwedd ei hun gan fy mod yn credu ei fod yn haeddu hynny.

Huw Jones oedd awdur y sylw. Efallai ei fod yn cynnig ffordd allan o'r picl.

"Mae sylw Emyr Lewis yn mynd at wreiddyn y mater (fel arfer!). Oes yna ffordd o ganiatau i'r Βι¶ΉΤΌΕΔ ddweud nad ydyn nhw'n cael eu "top-sleisio", tra'n sicrhau annibyniaeth ymarferol S4C? Fy awgrym i ydi fod "public service remits" S4C yn parhau i gael eu diffinio mewn statud, sy'n golygu bod yr Awdurdod yn atebol i'r Senedd am eu cyflawni nhw, tra bod yr un geiriad yn union yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio pwrpas y gwasanaeth ym mha ddogfen bynnag sy'n diffinio perthynas S4C gydag Ymddiriedolaeth y Βι¶ΉΤΌΕΔ. Byddai disgwyl i'r geiriad yma fod yr un mor eang a'r "remit" presennol, gan roi rhyddid felly i Awdurdod S4C ei ddehongli o flwyddyn i flwyddyn yn ol ei ganfyddiad ei hun o flaenoriaethau ac o ddymuniadau'r gynulleidfa. Byddai Ymddiriedolaeth y Βι¶ΉΤΌΕΔ, mewn sefyllfa felly, a'r hawl i wneud sylwadau am y gwasanaeth, ond nid y nhw fyddai a'r gair olaf yn hynny o beth. Yn ymarferol,does yna run peirianwaith gan y DCMS i orfodi S4C i newid ei benderfyniadau; yn hytrach mae'r oruchwyliaeth yn deillio o allu'r Ysgrifennydd Gwladol i geryddu'n gyhoeddus, i drefnu adolygiad, ac i ddeddfu o'r newydd os yw'n dymuno. Dwi'n tybio, yn yr un modd, mai grym moesol a deallusol fyddai i unrhyw sylwadau adolygiadol fyddai Ymddiriedolaeth y Βι¶ΉΤΌΕΔ'n eu cynnig ar berfformiad S4C, yn hytrach na grym rheoleiddio - ond mae'n bwysig bod hynny'n cael ei gadarnhau yn y cytundeb rhwng S4C, yr Ymddiriedolaeth a'r DCMS."

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 06:47 ar 24 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd tim williams:

    Mae Emyr Lewis yn gywir.Dydy e ddim yn bossible o gwbl i barhau gyda annibynniaeth S4C - yn seiliedig mewn fframwaith statudol - ac eto i S4C ddod o dan dylanwad y Βι¶ΉΤΌΕΔ Trust. Fyddai hwn fel fod yn was i ddau feistr.

    Yn y pendraw nid mater ariannol ydy hwn neu hyd on oed problem cyllid Prydain fyr-oes.Mater cyfansoddiadol yc yn wir wleidyddol ydy e y dylai cael ei settlo yn wleidyddol. Beth yw barn Senedd Cymru are y cwestiwn? Er nad ydy'r Bae yn gyfrifol am S4C -hyd yn hyn-mae hwn yn fater o bwysigrwydd cenedlathol ,onid e? Pe bai gwleiddyion Cymru yn y Bae ac yn Sain Steffan is siarad yn un are y pwnc mae'n anodd gweld sut y byddai Mike Lyons a'r criw yn y Βι¶ΉΤΌΕΔ Trust gallu fixo'r mater gyda y DCMS uwch pennau pobl Cymru. Or am I missing something?

    Tim -yes that tim -Williams

  • 2. Am 15:38 ar 4 Ionawr 2011, ysgrifennodd alun o Gasnewydd:

    Ble wyt ti gyfaill???

Mwy o’r blog hwn…

°δ²Ή³Ω±π²µ΄Η°ωΓ―²Ή³ά

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Βι¶ΉΤΌΕΔ iD

Llywio drwy’r Βι¶ΉΤΌΕΔ

Βι¶ΉΤΌΕΔ Β© 2014 Nid yw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.