Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Colli Awdurdod 2

Vaughan Roderick | 17:48, Dydd Mercher, 24 Tachwedd 2010

Darllenwch y post diwethaf cyn hwn!

Mae Awdurdod S4C wedi bod yn cwrdd eto'r prynhawn yma.

Doedd John Walter Jones ddim yn bresennol a phenodwyd Rheon Tomos yn is-gadeirydd dros dro.

Yn ol S4C dyw John Walter Jones ddim wedi gadael i'r Awdurdod wybod ei fod wedi penderfynu aros ymlaen fel Cadeirydd - ond mae'r gadeiryddiaeth yn fater rhyngddo fe a'r DCMS.

Mae pethau'n mynd o ddrwg i waeth.

Rwyf newydd fod yn siarad ag Alun Ffred Jones. Mae'r Gweinidog o'r farn bod hi'n anodd iawn i unrhyw benderfyniadau gael eu cymryd ynghylch S4C gyda'r awdurdod wedi ei wanhau yn y fath fodd.

Mae S4C yn addo cyhoeddi datganiad heno ac fe fydd Rheon Tomos yn ymddanmgos ar Newyddion am 7.30.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:47 ar 24 Tachwedd 2010, ysgrifennodd dewi:

    ti'n gwbod be- sna'm byd i alw hyn ond 'pathetic'.
    yn ganol yr amser anodd yma, dyla pawb yn S4C weithio hefoi gilydd- or awdurdod i'r cwmniau teledu. ond na dim hyn sydd yn digwydd.
    trist ydio gweld, bod y sianel wedi cael ei chwalu o dan enw 'big wigs' yr awdurdod, ac efallai nhw a wnaiff ei lladd.

    Dwi'm yn gwbod be sydd mynd ymlaen yna Vaughan- ydy JWJ yn ddyn poblogaidd? ydy on cael ei fwlio gaen aelodau 'incompetent' arall yr awdurdod? ta ydy nhw i gyd mor ddrwg ai gilydd?

    Yn anffodus... dwin siwr da chin gwbod ond methu dweud!
    O ran be dwi di glywed dwi di clywed dim ond pethau drwg am JWJ, yr awdurdod ar cyn ch.exec. Pathetic, dwin gwbod!

  • 2. Am 20:23 ar 24 Tachwedd 2010, ysgrifennodd D. Nod:

    Felly mae'r Aelodau Seneddol Ceidwadol Cymreig wedi penderfynu mai John Walter ydi'r ateb wedi'r cyfan...
    A wnaiff rhywun fy atgoffa beth ydi'r cwestiwn?

  • 3. Am 21:01 ar 24 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Al:

    Am sefyllfa drist a thrychinebus. Mae Awdurdod S4C yn prysur droi yn ffars - ffars sydd bellach yn cael sylw cyfryngau Prydain. Gallwn ond dychmygu papurau Llundain yn gloddesta ar y cecru mewnol o fewn yr awdurdod ac yn rhoi mwy o resymau i'r clymblaid dagu cyllid i'r sianel. Unig opsiwn John Walter Jones bellach yw ymddiswyddo gan roi ychydig o hunanbarch ac hygrededd iddo yntau ac i'r sianel. Gyda'r cecru mewnol ni ellir chwaith gwneud y penderfyniadu hanfodol e.e. dewis Prif Weithredwr a phenderfynu sut i ymateb i Lywodraeth San Steffan. Mae'r awdurdod wedi gwneud i'w hunain edrych yn ddi-glem ac amaturaidd ac wedi rhoi digon o raff i'r gwleidyddion grogi'r sianel. Mae heddiw wedi bod yn ddatblygiad trist iawn yn sefyllfa'r sianel.

  • 4. Am 19:57 ar 25 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Simon Brooks:

    Cytuno fod y sefyllfa bresennol yn Awdurdod S4C yn shambyls. Ond nid yw galwad Alun Cairns am i'r Awdurdod yn ei gyfanrwydd ymddiswyddo ond am John Walter Jones yn gwneud synnwyr. Ar ba sail y gellid dweud fod John Walter yn haeddu llai o'r bai am ddiffygion yr Awdurdod na'r aelodau eraill? John Walter oedd y Cadeirydd, wedi'r cwbl. Dwi'n synhwyro rhyw ddrwg yn y caws yma.

    O ran galwadau ar bob aelod o'r Awdurdod i fynd gan gynnwys John Walter ei hun, o leiaf fod rhyw fath o gysondeb deallusol yma. Ond cofied pawb mai Jeremy Hunt fydd yn penodi aelodau newydd unrhyw Awdurdod newydd ar S4C. A yw'n debyg o benodi aelodau a fydd yn gadarn yn eu hymdrechion i sicrhau rhyddid oddi wrth y Â鶹ԼÅÄ? Yn gadarn wrth ymladd am gyllideb deg i'r sianel?

    Fe fyddwn yn cynghori pobl sydd wedi cael llond bol ar aelodau Awdurdod S4C i feddwl yn strategol yn hytrach nag emosiynol ar hyn o bryd.

  • 5. Am 08:27 ar 26 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Dan Din:

    Ty'd 'laen Vaughan! Beth sy'n digwydd?? Ydi JWJ wedi ymddiswyddo ai peidio??

  • 6. Am 08:59 ar 26 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Bratiaith:

    Mae cyfryngis wedi eu holltti mewn i garfannau sy'n lladd ar ei gilydd? Sgersli bilif!

  • 7. Am 15:11 ar 26 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Bachano'rWaun:

    A ydy JWJ yn tori? Yn sicr y mae wedi cael sawl penodiad o dan llywydraethau Tori blaenorol?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.