Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth

Archifau Hydref 2010

Ar ôl y toriad

Vaughan Roderick | 12:32, Dydd Iau, 28 Hydref 2010

Sylwadau (4)

Fedra i ddim dweud wrthych chi pa mor braf yw bod yn ôl y Bae ar ôl wythnos yn gweithio ar dalcen caled S4C! Dyw e ddim yn hawdd gohebu ynghylch rhywbeth sy'n agos at adref! Diolch i bawb wnaeth adael sylw a maddeuwch i mi am beidio ymateb yn unigol iddyn nhw. Y cyfan ddywedaf i yw hyn. Os oedd 'na feiau ar y rhaglen rwy'n derbyn y cyfrifoldeb doedd 'na ddim pwysau oddi uchod ynghylch y cynnwys.


Reit, yn ôl a ni at wleidyddiaeth ac rwy'n meddwl bod hi'n bryd cyhoeddi ambell i ragolwg o ornestau mwyaf diddorol 2011 gan ddechrau gyda brwydr Morgan v. Morgan yng Ngogledd Caerdydd.

Roedd canlyniad yr etholaeth honno eleni llawer yn agosach nac oedd unrhyw un wedi proffwydo. Gyda Llafur bellach heb yr un cynghorydd yn yr etholaeth a chyda'i etholwyr ar gyfartaledd ymhlith y mwyaf cefnog yng Nghymru y disgwyl oedd y byddai'r Ceidwadwyr yn cipio'r sedd heb fawr o drafferth.

Roedd Gogledd Caerdydd yn rhif 22 ar restr targedau'r Ceidwadwyr ond cael a chael oedd y canlyniad. 194 oedd mwyafrif Jonathan Evans ar ddiwedd yr ail-gyfri ac roedd y gogwydd o Lafur i'r Ceidwadwyr yn 1.5% o gymharu â 5.6% trwy Gymru gyfan a 5% ar lefel Brydeinig.

Mae sawl esboniad wedi eu cynnig am ganlyniad rhyfeddol Llafur yn yr etholaeth hon. Yn eu plith mae poblogrwydd personol Julie Morgan a doniau ymgyrchu ei ŵr Rhodri wnaeth treulio rhan helaeth o'r ymgyrch yn rhoi help llaw iddi. Awgrymwyd hefyd bod Jonathan Evans yn well fel Aelod Seneddol nac oedd e fel ymgeisydd.

Efallai bod 'na beth wirionedd ym mhob un o'r ffactorau hynny ond dydyn nhw ddim yn ddigon i esbonio'r ffenomen yn fy nhyb i.

Mae'r gwir esboniad, dwi'n meddwl, i'w canfod mewn darn o waith gan Lyfrgell TÅ·'r Cyffredin. Gofynnwyd i'r ymchwilwyr amcangyfrif faint o swyddi cyhoeddus sydd ym mhob un etholaeth.

O gofio bod Gogledd Caerdydd yn cynnwys Ysbyty'r Brifysgol a swyddfeydd treth Llanisien fe fyddai dyn yn disgwyl i'r nifer o weithwyr cyhoeddus fod yn sylweddol yno - ond dim hanner cymaint ag amcangyfrif swyddogion y TÅ·.

Yn ôl hwnnw mae 22,500 o'r swyddi yng Ngogledd Caerdydd, 48.8% o'r cyfanswm, yn y sector gyhoeddus. Hwnnw yw'r canran uchaf yng Nghymru a dim ond tair ar ddeg o etholaethau eraill sy 'na ym Mhrydain lle mae'r canran yn uwch.

Dyw pob un o'r bobol sy'n llenwi'r swyddi hynny ddim yn byw yng Ngogledd Caerdydd wrth reswm. Ar y llaw arall mae 'na filoedd ar filoedd o'r etholwr, dybiwn i, sydd mewn swyddi cyhoeddus mewn etholaethau cyfagos, yn ddarlithwyr coleg, yn weithwyr cyngor ac yn weision sifil. Teg yw credu felly bod oddeutu hanner deuluoedd cefnog Gogledd Caerdydd yn derbyn eu golud o bwrs y wlad. Mewn cyfnod o doriadau, i bwy maen nhw'n debyg o bleidleisio, tybed?

Teg yw dweud dwi'n meddwl mai Jonathan Morgan yw'r ffefryn i ennill yng Ngogledd Caerdydd flwyddyn nesaf ymhlith y rhan fwyaf o sylwebyddion a gwleidyddion. Byswn i'n tybio y gallai'r canlyniad bod yn agos ond pe bawn i'n gorfod enwi ffefryn Julie ac nid Jonathan fyddai hwnnw.

Mae 'na saith etholaeth arall yng Nghymru lle mae canran y swyddi cyhoeddus yn fwy 'na 40% sef Dyffryn Clwyd (45.3%), Gorllewin Clwyd (44.6%), Arfon (43.3%), Mynwy (41.9%), Rhondda (41.8%), Ceredigion (41.4%), Gorllewin Abertawe (41.1%). Mae presenoldeb Mynwy, Gorllewin Clwyd a Cheredigion ar y rhestr yn ddiddorol a dweud y lleiaf!

Y bardd a'r brotest

Vaughan Roderick | 14:52, Dydd Llun, 25 Hydref 2010

Sylwadau (6)

Fe fu 'na beth crafu pen gan rai ynghylch cefndir y llenor 'Siencyn Sionc', bardd llys y blog hwn.

Cyn i chi ddarllen ei englyn diweddaraf, felly dyma y dywed Siencyn ei hun am ei gefndir.

"Llygoden fach ydw i - un o deulu Lily Lwyd. Os ydych wedi darllen cofiant y teulu - fi yw'r un sy'n gallu dwyn y caws cyn i'r trap fy nal. Ond fe gofiwch, efallai, un noson doeddwn i ddim cweit yn ddigon sionc!"

Pwy yw fi i amau bod 'na ambell i lygoden coronog o gwmpas y lle!? Dyma gynnig diweddaraf Siencyn.

S4C

Tawed holl gathod tewion - y Sianel
â'u swnian a'u cwynion:
hwy eu hunain yn union
rôdd y taw i'r freuddwyd hon!

Dyna farn Siencyn.

Efallai bod rhai yn cytuno a fe ond mae'n ymddangos bod gwylwyr S4C yn paratoi i frwydro dros ei sianel. Bues i yn draw ym mhencadlys y sianel y prynhawn yma i holi John Walter ar gyfer rhaglen "Week In Week Out" sydd i'w darlledu nos yfory.

Cefais i gyfle i weld amryw o'r cannoedd ar gannoedd o e-byst swydd wedi eu derbyn ar gyfer rhaglen wylwyr S4C heno. Mae'r mwyafrif llethol yn canmol y sianel ac yn addo ei chefnogi.

Mae hynny yn fendith i S4C wrth gwrs ond hefyd yn broblem. Fe fyddai peidio cynnwys deunydd beirniadol ar y rhaglen yn gwneud iddi ymddangos fel propaganda. Mae croeso iddyn nhw ddarllen englyn Siencyn er mwyn rhoi ychydig o ddrwg yn y caws!

Llithro ar y dec

Vaughan Roderick | 09:40, Dydd Gwener, 22 Hydref 2010

Sylwadau (3)

Rwy'n ymwybodol nad wyf wedi blogio rhyw lawer yr wythnos hon. Prysurdeb yw'r rheswm pennaf ond mae 'na elfen o 'beidio tyfu tato yn eich baw eich hun' pan ddaw hi at S4C!


Mae gen i ambell i beth i ychwanegu at y drafodaeth honno ond rwy'n gwneud fy ngorau glas i 'sgwennu'r sylw yma mewn ffordd gwbwl ffeithiol a niwtral.

Yn gyntaf mae pobol yn llygaid ei lle wrth amau mai penderfyniad munud olaf oedd hwn. Rwyf yn gwybod hyd sicrwydd mai'r bwriad wythnos ddiwethaf oedd cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r Sianel. Mae gan yr Ysgrifennydd Treftadaeth yr hawl i orchymyn ymchwiliad o'r fath. Yn wir cafwyd ymchwiliad tebyg yn y nawdegau, un yr oedd S4C ar y pryd yn ystyried yn hynod o ddefnyddiol. Y bwriad oedd na fyddai 'na unrhyw newid yn strwythur y sianel cyn i'r ymchwiliad cael ei gwblhau ac y byddai S4C yn derbyn sicrwydd o'i chyllid am y pedair blynedd nesaf - er y byddai'r cyllid hwnnw rhyw 20-25% yn llai nac mae'n derbyn eleni.

Roedd y del yma'n ganlyniad i lobio cryf gan rai o Aelodau Seneddol Ceidwadol Cymru ac yn llawer gwell na rhai o'r opsiynau eraill oedd dan ystyriaeth. Roedd cael gwared â'r sianel yn gyfan gwbl yn un o'r posibiliadau hynny.

Fe newidiodd pethau dechrau'r wythnos hon. Ni fedraf fod yn gwbl sicr o hyn ond mae sawl ffynhonnell wedi awgrymu mae'r penderfyniad i ddelio a lefel y drwydded deledu eleni yn hytrach nac aros am flwyddyn arall ynghyd a rhwystredigaeth ynghylch agwedd Awdurdod S4C oedd yn gyfrifol am y newid. Mae'r rwystredigaeth honno yn amlwg yn y gwahaniaeth yn nhôn a manylder y llythyrau a ddanfonwyd i'r Â鶹ԼÅÄ ac S4C.

Yr ail beth sy'n amlwg yw mai o'r DCMS ac nid y Â鶹ԼÅÄ y daeth yr awgrym y gallai'r Gorfforaeth ysgwyddo'r baich o ariannu'r Sianel. Mae'n ddigon teg i ddweud, dwi'n meddwl, bod S4C a'r Â鶹ԼÅÄ wedi chwarae ambell i em wleidyddol ar hyd y blynyddoedd. Dyw hi ddim yn ymddangos i mi bod hynny'n wir yn yr achos yma

Mae rhywun yn brysur

Vaughan Roderick | 11:10, Dydd Iau, 21 Hydref 2010

Sylwadau (10)

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cynhyrchu fideo i hysbysebu ei rali ynghylch S4C. Angharad Mair yw'r cyflwynydd. Dyma hi.

Fe fydd Angharad hefyd yn cadeirio trafodaeth ynghylch dyfodol S4C gyda Chadeirydd S4C a Phrif Weithredwr S4C ar S4C nos Lun.

Rwy'n sicr y bydd cwestiynau Angharad am S4C yn heriol ac y bydd y rhaglen yn werth ei gwylio!

Gallwch ddarllen llythyr Jeremy Hunt i John Walter Jones yn .

Mae manylion y drefn newydd yn .

Cornel y Beirdd

Vaughan Roderick | 11:43, Dydd Mercher, 20 Hydref 2010

Sylwadau (1)

Rwy'n teithio lan i San Steffan heddiw i gyflwyno rhifyn arbennig o CF99 ynghylch y toriadau.


Yn y cyfamser dyma englyn bach gan Siencyn Sionc i'ch difyrru! Mae'n amlwg nad yw'r bardd wedi ei siomi gan y newyddion ynghylch Sain Tathan

Er Cof

Siom i'r Brifysgol Fomio - a rhyfyg
Athrofa'r Arteithio
fo'n ŵyl i'r rhai fu'n wylo
drwy frad ar Fethesda'r Fro.

Dacw Nghariad i...

Vaughan Roderick | 15:50, Dydd Mawrth, 19 Hydref 2010

Sylwadau (0)

Mae'n ddigon priodol efallai bod y cymhorthdal i ffreutur y Cynulliad wedi dod i ben yn y cyfnod caled hwn. Gyda llwyth o lefydd eraill i fwyta o fewn tafliad carreg i'r Senedd mae'r hen le'n gorfod gweithio'n galed i ddenu cwsmeriaid.


Ffordd o wneud hynny mae'n debyg oedd y poster yn hysbysebu "Crymbl Afal gydag afalau o berllan John Griffiths". Perllan John Griffiths? Ydy'r Cwnsler Cyffredinol yn dipyn o ffarmwr yn ei amser sbâr gan dreulio'i oriau hamdden yn troi melin seidr a gofalu am ei goed?

Fe wnes i daro mewn i John y prynhawn yma ac fe gadarnhaodd mai ei afalau fe oedd yn y pwdin. Beth am y berllan felly? Fain o beth yw honno? Un goeden, mae'n debyg!

Adrodd Stori

Vaughan Roderick | 12:27, Dydd Mawrth, 19 Hydref 2010

Sylwadau (2)

Mae 'na fran i bob deryn du ac am wn i, fe fydd y newyddion diweddaraf ynghylch Saint Tathan yn dod a gwen i ambell i wyneb.


Fe fydd y rheiny sy'n heddychwyr o'u hanian yn falch efallai bod 'na obaith na fydd Bethesda'r Fro, capel awdur " Dwy aden colomen pe cawn" yn cael ei draflyncu gan academi filwrol. Fe fydd 'na ambell i flimp yn y lluoedd arfog oedd yn crynu mewn nerfusrwydd ynghylch gorfod symud i le mor anwaraidd â Bro Morgannwg yn mwynhau teimlad o ryddhad.

Dim ond sinig llwyr fyddai'n amau bod Jane Hutt a David Melding herfyd yn dawel wenu gan wybod bod eu cyfleoedd o ennill ym Mro Morgannwg yn achos y Gweinidog a rhestr Canol De Cymru yn achos y Ceidwadwr wedi eu gwella o beth wmbreth gan y cyhoeddiad.

Peidied neb a meddwl na fydd cyhoeddiadau Llywodraeth y DU yr hydref hwn yn dylanwadu ar ganlyniadau etholiad flwyddyn nesaf. Ar y tir hwn y bydd y frwydr flwyddyn nesaf ac ar hyn o bryd mae maes y gad yn ymddangos yn hynod ffafriol i Lafur ac i raddau llai, Plaid Cymru.

Mae 'na ddau naratif y mae pleidiau llywodraethol y Bae yn ceisio eu cyflwyno i'r etholwyr ar hyn o bryd. Mae'r cyntaf yn un y bu Ieuan Wyn Jones yn son amdano'r bore 'ma sef bod clymblaid San Steffan yn torri'n rhy gyflym a thrwy hynny yn peryglu'r adfywiad economaidd yng Nghymru.

Dyw'r naratif hwnnw ddim yn rhy anodd i'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol ddadlau yn ei erbyn. Wedi'r cyfan, mae arolygon barn yn awgrymu bod cyfran sylweddol o'r etholwyr yn derbyn bod angen toriadau dyfnion. Ail naratif Llafur a Phlaid Cymru yw'r un allai fod yn wenwyn etholiadol i'r ddwy blaid arall sef bod Cymru yn cael ei thrin yn annheg - bod "San Steffan yn pigo ar Gymru".

Mae cyhoeddiadau fel y rhai ynghylch Sain Tathan, swyddfa basports Casnewydd a bared Mor Hafren yn bwydo i mewn i'r naratif hwnnw a gallai pethau fynd yn waeth i Nick Bourne a Kirsty Williams pan ddaw cyhoeddiadau ynghylch S4C a thrydaneiddio prif lein rheiffordd y de.

Os oes digon o amser gyda chi mae'n werth gwylio sesiwn cwestiynau'r Prif Weinidog i weld cymaint y mae Llafur yn gwthio ac yn godro'r naratif hwn. Dyna oedd testun bron pob cwestiwn gan aelod Llafur ac roedd wedi ei gynnwys yn y rhan fwyaf o atebion Carwyn Jones.

Mae gwrthbleidiau'r Bae yn deall y peryg yn iawn. Ymdrech i wrthsefyll y naratif yw "Bourne Doctrine" y Ceidwadwyr ac addewid Kirsty Williams y bydd hi'n "sefyll lan dros Gymru" os ydy hi'n anghytuno a phenderfyniad yn San Steffan.

Y broblem gyda'r tactegau hynny yw y bydd y ddau arweinydd yn edrych yn wan ac yn ddi-ddylanwad os ydy llywodraeth y DU yn anwybyddu eu protestiadau. Mae'r ddau eisoes wedi colbio penderfyniad y swyddfa basports, er enghraifft. Os ydy'r lle yn cau felly pa gasgliad y bydd yr etholwyr yn cyrraedd ynghylch athrawiaeth Bourne neu safiad Kirsty Williams?

Rwyf wedi ysgrifennu'n aml ynghylch pa mor anodd y hi Lafur ennill mwyafrif flwyddyn nesaf ond mae na un amgylchiad lle y gallai hynny'n brofi'n hawdd i Lafur. Yr hyn mae'r Saeson yn galw'n "lanslide" ac mae'r Americanwyr yn galw'n "wave election" yw'r amgylchiad hwnnw. Dyw'r peth ddim yn debygol ond dwi'n dechrau meddwl nad yw e'n gwbl amhosib chwaith.

Codi Llais

Vaughan Roderick | 10:34, Dydd Sadwrn, 16 Hydref 2010

Sylwadau (11)

Mae un gwleidydd sy'n allweddol yn y trafodaethau ynghylch dyfodol S4C yn dweud wrthai nad yw wedi derbyn yr un neges gan wylwyr cyffredin y sianel yn ei chylch. Efallai bod a wnelo dryswch yr haf rywbeth a hynny.

Serch hynny mae'n syndod efallai nad yw caredigion y sianel wedi cynhyrchu rhywbeth fel hyn.

Nid y Â鶹ԼÅÄ sy'n gyfrifol am y fideo, gyda llaw. Richard Wyn Jones yw'r gwestai ar y podlediad yr wythnos hon. Gwasgwch y botwm ar y dde.

Diweddariad Mae Dan Rhys wedi cami lan i'r plat.

Ar y goelcerth

Vaughan Roderick | 11:17, Dydd Iau, 14 Hydref 2010

Sylwadau (0)

Mae'r rhai o'r golygfeydd gorau ym Mae Caerdydd i'w gweld o DÅ· Hywel. Hwn wedi'r cyfan yw un o'r ychydig lefydd lle nad yw TÅ· Hywel yn sbwylio'r olygfa!

Fe godwyd y ploryn pensaernïol hwn fel cartref i Awdurdod Gwasanaethau Cyffredin Gwasanaeth Iechyd Cymru - llond ceg o gwango y gwnaeth John Redwood ei ddiddymu.

Dydw i ddim yn cofio mewn gwirionedd ond rwy'n fodlon mentro bod Ysgrifennydd Cymru wedi derbyn ambell i bennawd ffafriol am daflu'r cwango arbennig hwnnw ar y goelcerth. Y gwir amdani wrth gwrs oedd bod y corff yn gwneud yr union beth y mae gweinidogion yn rhygnu ymlaen ei gylch byth a hefyd sef dod a thipyn o drefn i bwrcasu a chomisiynu yn y sector gyhoeddus.

Mae'r pendil arbennig yma'n symud yn ôl ac ymlaen yn gyson yn y sector gyhoeddus. Fe fydd un gweinidog yn canoli trefniadaeth gan addo arbedion ariannol trwy "ddifetha seilos ac ymerodraethau biwrocrataidd lleol". Fe fydd y nesaf yn brolio ei fod wedi chwalu cwango a dychwelyd cyfrifoldebau yn "agosach at y defnyddiwr" er mwyn sicrhau "atebolrwydd".

Y bore 'ma cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei chynlluniau i ad-drefnu cwangos Lloegr. Mae'n ddiddorol nad yw'r Llywodraeth honno wedi rhoi unrhyw awgrym ynghylch y nifer o swyddi fydd yn cael eu colli na faint o arian fydd yn cael ei arbed - os oes 'na arbediad o gwbl. Mae hynny i'w ganmol - ffrwyth dychymyg fyddai unrhyw ffigyrau ar hyn o bryd. Polisi wedi ei gyrru gan ideoleg yw hwn - a does dim byd yn bod ar hynny - nid ymdrech i arbed arian.

Mae safio pres ar y llaw arall yn ganolog i'r adolygiadau mae Llywodraeth y Cynulliad yn cynnal ar hyn o bryd ym meysydd megis addysg a llywodraeth leol. Mae dod o hyd i'r drefn rataf o redeg gwasanaethau er mwyn diogelu'r gwasanaethau ei hun yn beth gwbwl synhwyrol wrth gwrs ond os oedd na system berffaith neu ateb hawdd fe rhyw un wedi dod o hyd i'r greal sanctaidd hwnnw erbyn hyn.

Mae 'na un ffordd sicr o wastraffu arian sef ei daflu at ymgynghorwyr allanol o leiaf dyw Carl Sargeant a Leighton Andrews ddim am ddilyn y trywydd hurt hwnnw!


Y Morlocks, yr Eloi a Chymru'n Ddwy

Vaughan Roderick | 11:15, Dydd Mercher, 13 Hydref 2010

Sylwadau (1)

Rydym wedi dechrau dod i arfer a chlymbleidiau yn y deyrnas hon erbyn hyn. Yn ogystal â chlymbleidiau gorfodol Gogledd Iwerddon cafwyd dwy lywodraeth glymblaid yn yr Alban a dwy yng Nghymru ers sefydlu'r llywodraethau datganoledig. Erbyn hyn wrth gwrs clymblaid sy'n llywodraethu yn San Steffan hefyd.


Ble bynnag mae clymbleidiau'n bodoli mae'n ymddangos i mi fod 'na un rheol euraidd sef mai'r blaid leiaf sydd a'r mwyaf i ennill a'r mwyaf i golli wrth gyrraedd cytundeb. Ar y gorau mae'n briodas hapus gyda'r partner llai yn cyflawni rhai o'i hamcanion pwysicaf. Mae'r ddwy glymblaid rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr Alban yn enghreifftiau perffaith o hynny gyda'r blaid felen yn gallu hawlio'r clod am sawl polisi megis cynrychiolaeth gyfrannol mewn etholiadau lleol.

Ar ei gwaethaf mae clymblaid yn gallu bod yn debycach i'r Morlociaid a'r Eloi y gwnaeth teithiwr amser H. G. Wells eu canfod yn y dyfodol pell. Mae'r blaid leiaf yn byw bywyd bras a chyffyrddus heb wybod y bydd eu partneriaid yn hwyr neu'n hwyrach yn eu traflyncu neu eu sathru. Mae ffawd y PD's yn Iwerddon yn rhybudd i unrhyw blaid fach sy'n ystyried ffurfio clymblaid.

Mae'n rhy gynnar i wybod ymhle ar y sbectrwm y mae clymblaid San Steffan er bod yn rhaid i mi ddweud bod 'na rywbeth o'r Eloi ynghylch Danny Alexander ac ambell i ffigwr Forlocaidd ar y meinciau Ceidwadol!

Mae hynny'n dod a ni at Lywodraeth "Cymru'n Un". Dyw honno ddim wedi bod yn fel i gyd. Yn fwriadol ai peidio mae Llafur wedi cythrutho'r cenedlaetholwyr ar adegau ac ar un achlysur fe ddaeth y glymblaid yn agosach na mae pobol yn meddwl at chwalu. Paratoadau neu ddiffyg paratoadau ar gyfer y refferendwm oedd asgwrn y gynnen yn yr achos hwnnw. Mae ambell i benderfyniad arall yn enwedig ym maes addysg Gymraeg hefyd wedi achosi tensiynau.

Os oes 'na amheuon ar ochor Plaid Cymru o'r bwrdd mae agwedd aelodau Llafur y Cabinet yn fwy cadarnhaol. Mae mwy nac un wedi dweud wrtha'i mai Plaid Cymru nid y Democratiaid Rhyddfrydol yw eu dewis cyntaf fel cynghreiriaid ar ôl yr etholiad nesaf os nad yw Llafur yn ennill mwyafrif gweithredol yn etholiad flwyddyn nesaf.

Mae'r defnydd o'r gair "gweithredol" yn ddiddorol. Yr awgrym yw y byddai Llafur o hyd yn dymuno ffurfio clymblaid hyd yn oed pe bai ganddi 30 neu 31 o aelodau yn y Cynulliad. Dyw'r blaid ddim am fod mewn peryg o golli ei mwyafrif hanner ffordd trwy'r tymor fel digwyddodd yn yr ail gynulliad.

Afrad yw dweud ei bod hin annhebyg iawn y bydd Llafur yn ennill yr hyn mae'r blaid yn ystyried yn fwyafrif gweithredol ond gall y blaid fod yn weddol o hyderus y bydd ganddi ddigon o aelodau i rwystro cyfuniad enfys rhag gwneud hynny.

Ar ôl smonach 2007 a'r holl droeon trwstan wnaeth arwain at greu'r glymblaid bresennol peth peryg yw proffwydo beth sy'n debyg o ddigwydd y tro nesaf. Ar ôl dweud hynny ar hyn o bryd ar Gymru'n ddwy neu'n ddau y byddwn i yn mentro swllt.

Yr Efengyl yn ôl Nick

Vaughan Roderick | 12:54, Dydd Mawrth, 12 Hydref 2010

Sylwadau (0)

Fe wnes i sgwennu post y dydd o'r blaen ynghylch y ffordd y mae Ceidwadwyr y Cynulliad wedi bod yn llawer fwy parod na'r Democratiaid Rhyddfrydol i roi ychydig o bellter gwleidyddol rhyngddyn nhw a'r glymblaid yn San Steffan.


Rhoddodd Nick Bourne ychydig o strwythur i'r strategaeth honno heddiwe trwy gyhoeddi'r hyn y gwnaeth ef ei hun alw'n "the Bourne doctrine".

Hanfod athrawiaeth yr Athro Bourne yw y bydd Ceidwadwyr y Bae yn cefnogi toriadau sy'n cael effaith gytbwys ar draws y Deyrnas Unedig tra'n gwrthwynebu'r rheiny sy'n cael effaith anghyfartal ar Gymru. Roedd toriadau posib i S4C a chau swyddfa basborts Casnewydd yn enghreiffiau o'r fath o dorriadau y byddai Ceidwadwyr Cymru yn eu gwrthwynebu meddai.

Munudau'n ddiweddarach mynnodd Kirsty Williams bod ei phlaid hi wedi mabwysiadu'r un egwyddor yn barod ond roedd hi'n amlwg nad oedd hi'n gyfan gwbwl hapus bod Nick Bourne wedi achub y blaen arni nac ychwaith honiad arweinydd y Ceidwadwyr bod arweinwyr y ddwy wrthblaid yn gwneud eu gorau i godi calonnau ei gilydd.

Ta beth am hynny, mae'r dacteg yn un gymharol glyfar ond mae iddi ei chyfyngiadau. Gan fod Cymru yn dibynnu'n fwy ar y sector gyhoeddus na'r rhan fwyaf o weddill Prydain mae modd dadlau bod unrhyw doriad bron yn anghytbwys ac yn annheg i Gymru.

Yn sicr gellid dadlau hynny ynglŷn â'r syniad o osod meini prawf mwy llym i'r rheiny sy'n hawlio budd-daliadau analluogrwydd. Dydw i ddim wedi clywed siw na miw ynghylch rheiny gan y naill blaid na'r llall.

Y gwir amdani, rwy'n amau, yw y bydd y ddwy blaid yn datgan eu gwrthwynebiad i doriadau fyddai'n wenwyn gwleidyddol yn y frwydr genedlaethol neu mewn brwydr leol yn 2011. Yn hynny o beth dyw e'n ddim gwahanol i'r aelodau seneddol hynny sy'n cefnogi ail-strwythuro'r swyddfa bost ond yn gwrthwynebu cau llythyrdai lleol neu'r cynghorwyr hynny sy'n 'cefnogi' addysg Gymraeg ond yn ceisio rhwystro pob cynllun i'w darparu.

O bryd i gilydd mae egwyddor yn bwysig ond mae diogelu sedd yn bwysicach. Cewch chi gyfeirio at y datganiad hwnnw fel "the Vaughan doctrine"!

O.N. Yn ei sesiwn gwestiynau'r prynhawn yma fe ddywedodd Carwyn Jones hyn; "Until last week we hadn't heard a thing that was different from the Welsh Liberal Democrats from the Coalition in Westminster." Ydy e'n darllen y blog yma, dywedwch?

Wrth basio

Vaughan Roderick | 09:17, Dydd Sadwrn, 9 Hydref 2010

Sylwadau (1)

Rwy'n becso braidd wrth ysgrifennu'r post yma. Eisiau trafod effeithiau gwleidyddol y bygythiad i Swyddfa Basports Casnewydd ydw i ond fe allai hynny ymddangos yn galon-galed iawn i'r rheiny sy'n mewn peryg o golli gwaith.


Dyw pobol ddim yn cyfansoddi caneuon na cherddi i goffau cau swyddfa. Dim ond chwareli a phyllau glo sy'n cynnu'r awen. Serch hynny mae'r boen yr un mor real i dri chant o deuluoedd Casnewydd heddiw ac oedd hi i eraill wrth i Lanwern grebachu neu Dde Celynnen gau.

Ar ôl dweud hynny mae 'na bwynt gwleidyddol pwysig yn fan hyn. Y cyhoeddiad hwn yw un o'r enghreifftiau cyntaf o realiti toriadau gwariant Llywodraeth y DU. Am y tro cyntaf bron gallwn weld yr effeithiau personol ar unigolion. Nid hwn fydd y tro olaf, chwaith.

Nawr, mae 'na bobol sy'n wirioneddol credu bod gweithwyr y sector gyhoeddus yn eistedd ar eu tinau am ddeugain mlynedd cyn ymddeol ar bensiynau gwerth mwy na gwobr loteri. Lleiafrif sy'n credu hynny, dwi'n meddwl. Beth bynnag yw'r farn gyhoeddus ynghylch cyflogau rhai o banjyndryms y sector gyhoeddus nid pobol felly yw gweision sifil glannau Wysg.

Mae'r cyhoeddiad hwn yn fy marn i yn dipyn o faen prawf neu garreg filltir i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru. Mae'n rhywbeth caregog, ta beth - a hynny am ddau reswm.

Yn gyntaf mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn blaid sydd o'i hanian yn credu mewn gwasanaeth cyhoeddus. Yn wir, byswn i'n tybio mai yn y sector gyhoeddus y mae rhan helaeth o'i haelodau yn gweithio. Darllenwyr y Guardian a'r Independent yw selogion y blaid ar y cyfan. Prin yw'r rhai syn pori tudalennau'r Daily Mail neu'r Sun. Yn reddfol felly fe fyddai dyn yn disgwyl i'r blaid ochri a'r undebau yn yr achos hwn.

Mae 'na reswm arall dros wneud hynny - un llawer mwy sinigaidd. Yn etholaeth Gorllewin Casnewydd mae'r ganolfan ond mae hi o fewn tafliad carreg i Ddwyrain Casnewydd etholaeth hynod o bwysig i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Dydw i ddim yn credu bod gan y blaid gobaith mul o ennill y sedd flwyddyn nesaf ond heb dalp o bleidleisiau yno mae 'na wir beryg o golli ei sedd restr yn rhanbarth Dwyrain De Cymru.

Rwyf wedi bod yn crafu fy mhen ers misoedd ynghylch y ffaith nad yw Democratiaid Rhyddfrydol y Cynulliad wedi ceisio rhoi tipyn o bellter gwleidyddol rhyngddyn nhw a Chlymblaid San Steffan. Mae'r Torïaid wedi gwneud hynny ynghylch S4C ac ambell i bwnc arall ond hyd y gwelaf i mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi martsio'n ufudd i ddrwm San Steffan.

'Os nid nawr - pryd?' yw'r cwestiwn. Wrth i mi ddweud hynny, gweler! Dyma ddatganiad newyddion yn fy nghyrraedd gan Kirsty Williams yn dweud hyn.

"To suggest that every passport office should remain open except for the only one serving South Wales and South West England is at best high handed and will leave millions of people with an inferior service to the rest of the UK, as well as threatening hundreds of jobs. My understanding is that, at this stage, this is a proposal for consultation and I shall be responding to express my concerns as I am sure many others will."

Mae'n ymddangos bod rhyw un wedi dechrau meddwl yn strategol yn 'Freedom Central'! Hen bryd hefyd!

Hyn a'r llall...

Vaughan Roderick | 16:22, Dydd Iau, 7 Hydref 2010

Sylwadau (1)

Derbyniais un o'r e-byst firaol yna'r dydd o'r blaen yn awgrymu sloganau i'r pleidiau ar gyfer etholiad cynulliad 2011. Dydyn nhw ddim yn gweithio cystal yn Gymraeg ond dyma nhw. "Amddiffyn Cymru" oedd yr awgrym i Lafur a "Gobaith i Gymru" oedd un Plaid Cymru. Awgrymwyd "Penderfyniadau Dewr dros Gymru" ar gyfer y Ceidwadwyr. A'r Democratiaid Rhyddfrydol? Wel y slogan oesol, wrth gwrs "Dim ond y Democratiaid Rhyddfrydol all guro X yn fan hyn"!

Trwy ryfedd wyrth fe gyrhaeddodd yr e-bost munudau'n ddiweddarach munudau i un gan y blaid felen yn cychwyn fel hyn;

Aberconwy Lib Dems, having polled more votes than Plaid Cymru in the recent General Election, are targetting the Plaid held Aberconwy seat for the Welsh Assembly.

Fedra i weld y "bar-chart" yn barod!

Mae 'na bleidlais arall i ddod cyn etholiad y Cynulliad wrth gwrs sef y refferendwm. Disgwylir i'r ymgyrch "ie" gael i lansio'n gymharol fuan yn sgil cyfarfod yr wythnos hon rhwng pwyllgor llywio'r ymgyrch ac arweinwyr y pedair plaid yn y Cynulliad hwnnw. Un penderfyniad i leihau'r baich ar ysgwyddau Rhodri Morgan - un o brif asedau'r ymgyrch, yw'r penderfyniad y dylai rhyw un arall gadeirio cyfarfodydd y pwyllgor llywio o hyn ymlaen. Sgwn i a fydd aelodau'r pwyllgor yn colli clywed hanesion a straeon difyr Rhodri yn eu cyfarfodydd?

Barn Cyfreithiol

Vaughan Roderick | 15:47, Dydd Mercher, 6 Hydref 2010

Sylwadau (2)

Rwyn ymddiheuro am fethu blogio neithiwr ynghylch y gwellianau i'r mesur iaith. Fe'i cyhoeddwyd ar ôl chwech o'r gloch neithiwr a phe bawn i'n sinig byddwn i'n amau bod yr amseriad hwnnw wedi ei anelu at sicrhau mai "sbin" y Llywodraeth fyddai'n ymddangos ar fwletinau'r nos ac ym mhapurau'r bore.

Wrth gwrs ni fyddai ein llywodraeth fach gartrefol yn ymddwyn yn y fath fodd! Nawr dywed Alun Ffred Jones ei fod yn "cael yr argraff tasa moses wedi cael statws i'r iaith ar fynydd seinai sa fo ddim yn ddigon i rai pobl".

Efallai bod 'na wirionedd yn hynny ond pan mae cyfaill bore oes sydd ymhlith y bobol fwyaf addfwyn yn y byd yma yn eich ffonio ac yna'n e-bostio i racsio honiadau'r llywodraeth rwyn tueddu gwrando. Mae hyny'n arbennig o wir pan fod hwnnw'n digwydd bod yn gyfreithiwr uchel ei barch. Cyn i chi ofyn Emyr Lewis ( Tomos Emyr i blant Bryntaf) sy'n mentro'i farn.

Dyma pam na allaf dderbyn honiadau'r Llywodraeth fod diwygiadau'r Llywodraeth i'r Mesur Iaith yn cryfhau statws swyddogol yr iaith Gymraeg ac yn ei gwneud yn gyfartal a'r Saesneg:

Mae'r Cymal 1(1) newydd yn datgan fod yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru.

OND, mae cymal 1(2) yn tanseilio hynny. Mae'r hwnnw'n cyfyngu effaith gyfreithiol statws swyddogol y Gymraeg i ddeddfau ac is-ddeddfau sy'n ymwneud a'r materion a grybwyllir yn y cymal hwnnw. Hynny yw, nid oes grym cyfreithiol annibynnol o gwbl gan y datganiad yng nghymal 1(1) fod yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru.

Deallaf fod y Llywodraeth yn dadlau fod y cyfeiriad yng Nghymal 1(2)(b) at "beidio a thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg" yn golygu fod statws y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Nid yw hynny'n dal dwr o gwbl. Mae is-gymal 1(2)(b) yn cyfeirio at un o'r meysydd hynny lle y gall y Gymraeg fod a statws swyddogol os oes deddf yn ymwneud a hynny. Pe bai yno ddeddf sy'n datgan yn blwmp ac yn blaen (fel y dylai'r Mesur hwn ei wneud) fod statws y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal, neu na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, yna byddai'r Llywodraeth yn iawn. Ond nid oes y fath ddeddf yn bodoli.

Diweddariad; Mae'n ymddangos nad yw'r Lewisiaid cyfreithiol yn gwbl gytun. Mae Gwion Lewis yn ymddnagos yn gymharol blest a'r fersiwn newydd o'r mesur. Gellir ei glywed yn trafod y pwnc ar Post Cyntaf ddydd Gwener ar iPlayer.

Yn y gornel las

Vaughan Roderick | 13:37, Dydd Mercher, 6 Hydref 2010

Sylwadau (1)

Os ydych chi'n rhywun sy'n crwydro ffyrdd a chaeau'r we wleidyddol Gymreig efallai eich bod wedi sylwir ar ba mor hollbresennol y mae Jonathan Morgan y dyddiau hyn. Mae'n canu fel cana'r aderyn ar Twitter. Mae ganddo'i ei hun ac mae'n cyfrannu i flogiau eraill megis ac

Pam mae Jonathan mor weithgar, tybed? Mae'n rhaid i fi dderbyn peth o'r bai neu'r clod - os oes clod neu fai i fod!

Fe wnes i dynnu sylw Jonathan at gyhoeddiad diweddar gan y grŵp asgell chwith 'Progress' o'r enw "" sy'n croniclo ymgyrchoedd lleol Llafur wnaeth lwyddo i ddal y don Geidwadol yn ôl yn yr Etholiad Cyffredinol. Un o'r enghreifftiau sy'n cael ei thrafod yw'r ymgyrch ym Mlaenau Gwent. Nes i mi ddarllen y bennod honno doeddwn i ddim wedi sylweddoli cymaint o ran oedd gan y rhyngrwyd yn yr hyn ddigwyddodd yn yr etholaeth honno.

Mae llawer o drafod wedi bod ynghylch pryd a lle y byddai e-ymgyrchu yn dechrau effeithio ar ganlyniadau ar lawr gwlad yng Nghymru. Yr ateb i'r cwestiynau hynny yw 2010 a Blaenau Gwent a dwi'n awgrymu y dylai cydlynwyr ymgyrchu pob un o'r pleidiau heglu draw i wefan 'Progress' ar fyrder! Rwy'n amau bod Jonathan eisoes wedi gwneud!

Yn sicr mae'r misoedd nesaf yn rhai tyngedfennol i aelod Gogledd Caerdydd. Mae penderfyniad Julie Morgan i geisio am yr enwebiad Llafur yn golygu ei fod yn wynebu brwydr go-iawn i gadw ei sedd. Yn wahanol i Jonathan Evans yn y ras seneddol mae gan Jonathan M gefnogaeth bersonol yn yr etholaeth. Ef, dybiwn i, yw'r ffefryn ar hyn o bryd ond dyn a ŵyr beth fydd yr hinsawdd wleidyddol erbyn Mai 2011. Heb os gallai pob pleidlais gyfri.

Os ydy Jonathan yn dychwelyd i'r bae gallai fe wynebu gornest arall o fewn byr o dro. Mae'n ddigon posib y gallai Nick Bourne golli ei sedd yn rwlét etholiadol y Canolbarth a'r Gorllewin. Hyd yn oed pe na bai hynny'n digwydd mae'n ddigon posib y bydd Ceidwadwyr y Cynulliad yn chwilio am arweinydd newydd yn sgil yr etholiad.

Mae'n hawdd anghofio mai Jonathan oedd mab darogan y Ceidwadwyr yn y Cynulliad tan iddo bwdu ynghylch colli'r portffolio iechyd. Ers hynny mae ambell i seren arall wedi ymddangos ar y ffurfafen - pobol fel Darren Millar ac Andrew R. T. Davies. Mae'n ddealladwy efallai bod Jonathan am atgoffa'r Ceidwadwyr o'i fodolaeth. Nid brwydr bersonol yn unig yw hon - mae iddi elfen wleidyddol.

Mae nifer o hen stejars y Torïaid yn y Bae yn ofni y gallai'r fath o Geidwadaeth Ryddfrydol Gymreig sydd wedi nodweddu'r grŵp yn y cynulliad gael ei herio mewn etholiad i ddewis arweinydd newydd. Nid ar chwarae bach felly y mae Jonathan yn dweud hyn mewn un post diweddar;

"After spending nearly 12 years working to rebuild the Welsh Conservative Party as a credible force in Welsh politics, I have no ambition to see it flounder."

Mae'n debyg y gellid defnyddio'r un geiriau i ddisgrifio ei deimladau am ei yrfa ei hun!

Jac yr Undeb

Vaughan Roderick | 12:52, Dydd Mawrth, 5 Hydref 2010

Sylwadau (4)

Nid dilyn cyngor y Tebot Piws oeddwn i wrth benderfynu peidio mynd i Firmingham! Roedd pethau'n ddigon prysur yn fan hyn. Ta beth mae Betsan gymaint gwell na fi wrth shmwsio! Cofiwch oes oeddwn i'n mynd byswn i wedi sicrhau nad oeddwn wedi camddarllen yr amser ar y tocyn trên!

Gwna i ddim ychwanegu halen at friw Alum Ffred Jones yn fan hyn. Mae gen i ambell i bwlpit arall lle gallaf wneud hynny! Rhywbeth arall sydd wedi denu fy sylw sef araith gan Gweinidog Addysg y Deyrnas Unedig, Michael Gove, yn cyhoeddi newidiadau i'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn Lloegr. Wrth gyfeirio at y ffordd mae hanes yn cael ei dysgu dywedodd hyn:

Children are growing up ignorant of one of the most inspiring stories I know - the history of our United Kingdom. Our history has moments of pride, and shame, but unless we fully understand the struggles of the past we will not properly value the liberties of the present... Well, this trashing of our past has to stop. I am delighted to announce today that Professor Simon Schama has agreed to advise us on how we can put British history at the heart of a revived national curriculum.

Fe fydd darllenwyr treiddgar a chraff y blog hwn yn sylwi ar y broblem yn syth. Dyw pwerau Michael Gove ddim yn ymestyn llawer y tu hwn i Glawdd Offa na Mur Hadrian. Dim ond rhai o blant yr ynysoedd hyn fydd yn cael dysgu "our island story" felly. Fe fydd plantos Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, heb son am rhai'r Weriniaeth, yn dysgu fersiynau gwahanol o'r hanes hwnnw.

Nawr, mae Michael Gove yn gwybod hynny'n iawn. Dewisodd beidio dynnu sylw at y ffaith yn ei araith gan synhwyro efallai nad oedd union natur y setliad cyfansoddiadol y berthnasol wrth iddo daflu darn o gig amrwd gwleidyddol i gyfeiriad y selogion.

Mae rôl Simon Schama yn y broses, yn lle David Starkey, dyweder, yn sicrhau na fydd y gwledydd Celtaidd y cael eu diystyru fel "feeble little countries" yn y Cwricwlwm Seisnig ac y bydd yr hanes sy'n cael ei ddysgu yn ysgolion Lloegr yn feddylgar a chytbwys.

Serch hynny mae'n anodd osgoi'r teimlad bod Michael Gove yn ceisio cau drws y stabl ar ôl i'r ceffylau Celtaidd adael trwy ail-ddyrchafu Prydeindod wrth galon Cwricwlwm Lloegr.

Rwyf am fentro yn ôl i'r llyfrau hanes fy hun yn fan hyn trwy deithio yn ôl i'r 1970au a dadleuon Neil Kinnock yn y refferendwm datganoli cyntaf. Dadl fawr Neil oedd y byddai sefydlu Cynulliad i Gymru yn creu "llwybr llithrig i annibyniaeth". Mae'n swnio hyd yn oed yn well yn Saesneg. Mae "the slippery slope to separation" yn agos iawn at fod yn rhyw fath o gynghanedd!

Doedd y ddadl ddim yn gwbwl disylwedd. Mewn gwirionedd y cyfan oedd Neil yn gwneud oedd adleisio hen bregeth Gwynfor Evans y byddai datganoli'n arwain at gynnydd mewn "Cymreictod" ar draul "Prydeindod". Y gwahaniaeth oedd bod hynny'n beth drwg ym marn aelod Bedwellte.

Nid fy mod yn credu bod yna unrhyw fath o gynllwyn ar waith ond y ffaith syml yw bod Ysgolion Cymrum, boed yn gyfrwng Cymraeg neu gyfrwng Saesneg bellach yn dyrchafu a dathlu Cymreictod yn eu gwersi a'u digwyddiadau. Dydw i ddim yn cofio y tro diwethaf i mi weld jac yr undeb neu lun o ryw frenin neu frenhines ar wal ysgol yng Nghymru. Mae'r dreigiau cochion ar y llaw arall ym mhobman a doe na fawr ddim y gall Michael Gove wneud ynghylch hynny.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.