Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Byd Bach

Vaughan Roderick | 15:39, Dydd Iau, 5 Awst 2010

Does 'na ddim sut beth a thocyn tymor i Bebyll y Cymdeithasau. Efallai y dylai 'na fod o ystyried arlwy amrywiol y ddwy babell eleni a'r cynulleidfaoedd niferus sydd wedi bod yn mynychu'r cyfarfodydd.Treuliais y prynhawn ym mhabell 2 gan wrando ar gyfres o drafodaethau diddorol.

Cyfaill bore oes i mi - y cyfreithiwr a'r Prifardd Emyr Lewis oedd yn siarad yng nghyfarfod Cymdeithas y Cynllunwyr Iaith. Mae Emyr yn un o'r bois peniog yna sy'n rhoi pen tost i ddyn wrth geisio cadw lan a'u dadleuon. Y Mesur Iaith oedd dan sylw ganddo heddiw - mesur oedd, meddai yn 'syrthio rhwng dau Ffred'! Alun Ffred a Ffred Ffrancis yw'r ddau mae'n debyg ond prif bwynt Emyr oedd y dylai gwleidyddion gofio mae gweision nid meistri yw eu cyfreithwyr. Awgrymodd fod gormod o'r Mesur presennol yn ffrwyth pryderon cyfreithwyr y Llywodraeth yn hytrach na'n ymgais i gyflawni bwriadau'r gwleidyddion. Mae hynny'n ddweud mawr gan gyfreithiwr!

Mae'n bosib mai rhoi cic fach i Huw Onllwyn Jones, y gwas sifil sy'n llys dad i'r mesur ac oedd yn eistedd yn y gynulleidfa oedd bwriad Emyr. Os felly rwy'n sicr bod 'na ddim byd personol yn hynny. Wedi'r cyfan os cofiaf yn iawn roedd y ddau'n dod ymlaen yn iawn da'i gilydd yn ein dyddiau ysgol!

Ffrind coleg i mi, y Gweinidog Addysg Leighton Andrews oedd y siaradwr yng nghyfarfod Cymdeithas yr Iaith. Fe wnaeth Leighton son am y cysylltiad hwnnw wrth y gynulleidfa gan hel atgofion am ein rhan mewn ymgyrchoedd dros y Gymraeg yn y Coleg. Roedd hynny'n ffordd fach glyfar o danlinellu nad rhywbeth newydd yw ei gefnogaeth i'r iaith er mai dim ond yn weddol ddiweddar y mae wedi llwyddo i'w dysgu. Roedd y ffaith ei fod yn ddysgwyr hefyd yn gweithio o'i blaid wrth gwrs. Serch hynny roedd 'na hen ddigion o gwestiynu caled!

Fy nghyfaill noson etholiad Richard Wyn Jones oedd trydydd siaradwr y prynhawn. Fel arfer roedd Richard yn ffraeth ac yn dreiddgar ond fe wnes i lynu at draddodiad trwy anghytuno a hanner y pethau oedd ganddo i ddweud. Dim ond jocian, Dicw!

Os ydych chi ar y Maes yfory ac yn ffansio tipyn o drafod gwleidyddol fe fydd Arwyn Jones Daran Hill a minnau yn cynnal cyfarfod panel ar stondin Prifysgol Aberystwyth am 11.00. Cewch wybod bryd hynny pam yn union y mae Richard yn anghywir!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:18 ar 5 Awst 2010, ysgrifennodd D. Enw:

    Swnio'n grêt. Ydw i'n ormod o ompimits i ofyn os yw Pabell y Cymdeithasau wedi recordio'r cyflwyniadau yma a'u rhoi ar YouTube? Byddai'n wethfawr i'r rheni nad oedd yn gallu mynychu'r Maes neu, fel fi, oedd ar y maes ond methu mynychu'r trafodaethau.

  • 2. Am 22:13 ar 5 Awst 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dyw hynny ddim wedi digwydd eleni ond mae'n syniad wych. Fe wna i beth fedra i!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.