Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Paent gwlyb

Vaughan Roderick | 10:20, Dydd Mawrth, 3 Awst 2010

1-0.jpg

Mae'r cartwn di-enw yma newydd lanio ar e-bost. Cyfeirio mae'r peth at slogan a baentiwyd ar Senedd San Steffan blynyddoedd maith yn ol.

Dydw i ddim yn cofio union eiriad y gwreiddiol. Rhywbeth fel "Gwynfor 1 Whitelaw 0" oedd hi, rwy'n meddwl. Os ydych chi'n cofio'n well mae croeso i chi adael sylw!

Mae'r cartŵn yn brawf, os oedd angen mwy o brawf o fethiant Awdurdod a Swyddogion S4C i argyhoeddi pawb i "edrych i'r dyfodol". Mae'r Awdurdod wedi cynnig esboniad o'r hyn sydd wedi digwydd i'r Adran Diwylliant yn Llundain ac mae'r adran yn fodlon a'r esboniad hwnnw.

Dyw'r gweddill ohonom ni ddim wedi derbyn esboniad wrth gwrs. Efallai mai dyna sy'n gyfrifol am y datganiad canlynol gan Gymdeithas yr Iaith.

"Mae'r datblygiadau diweddar yn S4C yn brawf pellach bod y system sy'n darparu ein cyfryngau Cymraeg wedi torri'n deilchion"

Mewn araith y bore 'ma disgwylir i Ieuan Wyn Jones ddadlau fod rhesymau economaidd, diwylliannol a democrataidd cryf dros drosglwyddo rheolaeth dros deledu a radio i Gymru yn nhyymor nesaf y Cynulliad. Fe fydd yn addo y bydd yn gosod datganoli darlledu wrth graidd maniffesto ei blaid ym mis Mai.

A bod yn sinigaidd gellid dadlau mae ceisio apelio at bleidleisiwr sy'n siomedig ynghylch record Llywodraeth y Cynulliad ym maes yr iaith y mae Ieuan yn fan hyn. Ond mae'n anodd credu nad yw'r araith hefyd yn ymateb i stormydd yr wythnos ddiwethaf. Yn wir mae fe'i hun yn dweud hynny ym mrawddeg gyntaf yr araith.

"Mae'r wythnos diwethaf wedi dangos dau beth yn glir; pa mor hanfodol yw darlledu i fywyd y genedl a pha mor ddifygiol yw'r oruwchwyliaeth ddemocrataidd drosto yng Nghymru ar hyn o bryd"

Heno mae Awdurdod S4C yn cynnal cyfarfod cyhoeddus ar y maes. Gallai hwnnw fod yn ddiddorol a dweud y lleiaf!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:10 ar 3 Awst 2010, ysgrifennodd Albert:

    Diolch byth am ychydig o synwyr cyffredin! Pwynt ymylol yn hyn i gyd ydi'r ffaith gwirion mai esbonio wrth lywodraeth llundain am be sy'n mynd ymlaen mae S4C. Ond gan fod y peth wedi codi - dewch i ni sicrhau bod o'n newid. Mae'n hen bryd i lywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am ddarlledu yng Nghymru.

    Ond yn fwy cyffrdinol, dwi'n ofni bod problemau'r sianel yn fwy elfennol o lawer na dulliau rheoli diweddar.

    Ymysg yr holl gecru am hynt a helynt S4C, dwi'n meddwl ei bod hi'n hawdd anghofio am drafodaeth arall sy'n gwbl allweddol i ddyfodol y sianel. Hynny ydi, sut mae cynllunio sianel sydd i fod i ddarparu rhywbeth i bawb - os mai dyna fydd y bwriad yn y dyfodol!

    Mae hwn yn her nad oes angen i ryw lawer o sianeli ei hwynebu bellach - gan eu bod nhw fel arfer yn arbenigo ac yn targedi'n ofalus at fathau penodol iawn o bobol. Ond mae rhai'n llwyddo i raddau.

    Hyd y gwela i, dyma fydd angen i'r prif weithredwr newydd afael ynddo fo yn syth - a bydd, mi fydd angen cefnogaeth eang arno neu arni i lwyddo. Felly (i gyfeirio at flog cynharach gynoch chi) falle bod cychwyn ffrae efo Alun Davies yn ffordd dda iawn o ddechrau sicrhau'r fath gefnogaeth yn gynnar!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.