Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cwis Haf (5)

Vaughan Roderick | 11:25, Dydd Sul, 15 Awst 2010

question_mark_203x152.jpgMae cydbwysedd yn bwysig i'r Â鶹ԼÅÄ. Yn sgil y Cwis Llafur wythnos ddiwethaf mae cwestiynau'r wythnos hon yn ymwneud ac ochor arall y sbectrwm. Mae 'na naw cwestiwn ynghylch y Ceidwadwyr ac un ynghylch y Rhyddfrydwyr. Mae hynny'n teimlo'n gymwys, rhywsut!

1. Roedd y Barwn Strange o Knockin yn llefarydd ar Gymru yn Llywodraeth John Major. Fe hefyd oedd yr unig Geidwadwr amlwg i gefnogi'r ymgyrch "Ie" yn refferendwm 1997. Beth oedd ei enw go-iawn a'i deitl mwy arferol?

2. Pwy oedd Dai Bananas?

3. Yn 1959 fe wnaeth un Ceidwadwr o Gymru fygwth rhoi diwedd ar yrfa wleidyddol Harold Wilson. Fe lwyddodd un arall i roi stop ar uchelgais gwleidyddol y darlledwr Robin Day. Enwch yr un wnaeth lwyddo a'r un wnaeth fethu.

4. Yr hen asyn a fu farw wrth gario glo i'r Fflint - ond pa asyn arall o Glwyd oedd yn poeni Margaret Thatcher?

5.Cyn mentro i fyd gwleidyddiaeth pwy wnaeth wahardd merched rhag darllen newyddion ar y teledu oherwydd eu "diffyg awdurdod"?

6. Fe fethodd dau Aelod Seneddol Ceidwadol Cymreig gael eu hail-fabwysiadu gan y blaid yn 1990. Yr ateb i gwestiwn 4 oedd un ond pwy oedd y llall?

7. Pwy oedd y "Mistar Toad" wnaeth fudo o Fôn i Fynwy?

8. Pam y byddai Siôn Corn yn teimlo'n gartrefol wrth ymweld â dau gyn aelod seneddol Ceidwadol o Sir Benfro ac aelod cynulliad presennol Mynwy?

9. Yn 1868 fe wariodd y Ceidwadwyr £10,000 (£500,000 yn arian heddiw) ar geisio ennill etholaeth Caerdydd... a methu! Yn sgil y methiant hwnnw lansiwyd papur newydd i ddadlau achos Torïaid Caerdydd. Beth oedd (neu yw) enw'r papur hwnnw?

10. Beth oedd enw papur cyffelyb y Rhyddfrydwyr?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 02:13 ar 16 Awst 2010, ysgrifennodd TomosDafydd:

    1. Roedd y Barwn Strange o Knockin yn llefarydd ar Gymru yn Llywodraeth John Major. Fe hefyd oedd yr unig Geidwadwr amlwg i gefnogi'r ymgyrch "Ie" yn refferendwm 1997. Beth oedd ei enw go-iawn a'i deitl mwy arferol?

    Colwyn Jestyn John Philipps, 3ydd Is-Iarll Ty-Ddewi

    2. Pwy oedd Dai Bananas?

    Syr David Maxwell-Fyfe, Ysgrifennydd Cartref a Gweinidog dros Faterion Cymreig, 1951-1954

    3. Yn 1959 fe wnaeth un Ceidwadwr o Gymru fygwth rhoi diwedd ar yrfa wleidyddol Harold Wilson. Fe lwyddodd un arall i roi stop ar uchelgais gwleidyddol y darlledwr Robin Day. Enwch yr un wnaeth lwyddo a'r un wnaeth fethu.

    Curodd David Gibson-Wat y darlledwr Robin Day, tra collodd Geraint Morgan yn erbyn Harold Wilson

    4. Yr hen asyn a fu farw wrth gario glo i'r Fflint - ond pa asyn arall o Glwyd oedd yn poeni Margaret Thatcher?

    Syr Anthony Meyer

    5.Cyn mentro i fyd gwleidyddiaeth pwy wnaeth wahardd merched rhag darllen newyddion ar y teledu oherwydd eu "diffyg awdurdod"?

    Wyn Roberts

    6. Fe fethodd dau Aelod Seneddol Ceidwadol Cymreig gael eu hail-fabwysiadu gan y blaid yn 1990. Yr ateb i gwestiwn 4 oedd un ond pwy oedd y llall?

    Syr Anthony Meyer a Keith Raffan

    7. Pwy oedd y "Mistar Toad" wnaeth fudo o Fôn i Fynwy?

    Roger Evans

    8. Pam y byddai Siôn Corn yn teimlo'n gartrefol wrth ymweld â dau gyn aelod seneddol Ceidwadol o Sir Benfro ac aelod cynulliad presennol Mynwy?

    Mae nhw'n rhannu’r un enw - Sant 'Nick', Nick Edwards, Nick Bennett a Nick Ramsay
    Neu a wyt ti'n awgrymu mae 'Tori' yw Siôn Corn?

    9. Yn 1868 fe wariodd y Ceidwadwyr £10,000 (£500,000 yn arian heddiw) ar geisio ennill etholaeth Caerdydd... a methu! Yn sgil y methiant hwnnw lansiwyd papur newydd i ddadlau achos Torïaid Caerdydd. Beth oedd (neu yw) enw'r papur hwnnw?

    Western Mail

    10. Beth oedd enw papur cyffelyb y Rhyddfrydwyr?

    Y Faner

  • 2. Am 13:14 ar 16 Awst 2010, ysgrifennodd Dewi:

    1. Colwyn Jestyn John Philipps, 3ydd "Viscount" Tyddewi
    2. David Maxwell Fyfe
    3. Geraint Morgan & David Gibson-Watt
    4. Anthony Meyer
    5. Arglwydd Harlech?
    6. Keith Best
    7. Roger Evans
    8. Niclasai??
    9. Western Mail
    10. South Wales Daily Post.

  • 3. Am 10:25 ar 17 Awst 2010, ysgrifennodd Rhys:

    Mae'ch cwisiau yn addictive Vaughan!

    1. Rhodri Phillips, 4ydd Viscount Ty Ddewi.
    2. David Maxwell Fyfe, Ysgrifennydd Cartref ac yn gyfrifol am faterion Cymreig.
    3. G B Woolfenden a safodd yn erbyn Harol Wilson yn Huyton yn 1959. A David Gibson-Watt a gurodd Robin Day yn Henffordd yn yr un flwyddyn.
    4.Syr Anthony Meyer
    5.Syr Wyn Roberts
    6.Keith Raffan
    7. Roger Evans
    8. Rhannu'r un enw! St Nick - Nick Ramsay, Nicholas Edwards, Nicholas Bennett.
    9. Western Mail
    10. South Wales Daily News

  • 4. Am 17:28 ar 17 Awst 2010, ysgrifennodd Rhys:

    Camgymeriad yn fy ateb i gwestiwn 1. Y tad nid y mab. Y diweddar Colwyn Jestyn John Philipps, 3ydd Viscount Ty Ddewi

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.