Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cwis Haf (3)

Vaughan Roderick | 14:20, Dydd Gwener, 30 Gorffennaf 2010

arholiadau.jpg

Mae gan ddarllenwyr "aeddfed" fantais y tro hwn. Mae'r cwis yn ymwneud â gwelidyddiaeth Cymru yn y cyfnod cyn datganoli.

1. Dim ond pedair menyw oedd wedi cynrychioli Cymru yn NhÅ·'r Cyffredin cyn 1997. Enwch nhw.

2. Beth neu bwy sy'n cysylltu Ynys Môn, Cwm Cynon a Gorllewin Casnewydd â hen etholaeth Dinbych?

3. Cyn 1918 pa chwe bwrdeistref oedd yn etholaeth Lloyd George?

4. Pa ffigwr amlwg o fyd chwareon wnaeth sefyll yn erbyn Jim Callaghan yn Ne Ddwyrain Caerdydd yn 1950au?

5. Pwy oedd y Comiwnydd cyntaf i gael ei ddyrchafu'n faer yng Nghymru?

6. Pa un o'r 22 o gynghorau lleol yng Nghymru a ddaeth i fodolaeth yn y nawdegau sy ddim yn cynnwys etholaeth seneddol gyfan?

7. Pa sir yng Nghymru oedd â'r bleidlais "na" fwyaf (fel canran) yng Nghymru a Lloegr yn refferendwm Ewrop yn 1975?

8. Ynghylch beth y gwnaeth pobol Cymru (neu rhai ohonyn nhw) bleidleisio yn 1961,1968. 1975, 1982 a 1989?

9. Pwy oedd awdur y gwaith dychanol "They Went to Llandrindod" a phwy oedd testun ei ddychan?

10. Ym mha tair etholaeth y safodd Rod Richards fel ymgeisydd Ceidwadwol?

Atebion trwy'r blwch sylwadau neu drwy e-bost i Vaughan.Roderick@bbc.co.uk

Yn sgil y cyfeiriad at Ramsay MacDonald yn y cwis diwethaf cefais nodyn difyr gan Gareth yn dweud hyn;

"Mae cwestiwn 6 yn fy atgoffa o'm plentyndod yn y 50au cynnar pan fyddai plant High Street yn canu pennill ar don Gwyr Harlech.

There was a man who came from Scotland
Shooting peas up a nanny-goat's bottom
There was a maaan who came from Scotlaaaaand
Ramsey was his name.

Can yn dyddio o etholiad Aberavon yn 1922, mae'n debyg, pan etholwyd Ramsey Macdonald yn aelod seneddol. Shwd ddaeth y gan o'r de i strydoedd Aberystwyth 30 mlynedd yn ddiweddarach, wn i ddim. Oes rhywun yn gwybod mwy?"

Fel mae'n digwydd rwy'n cofio canu honna yng Nghaerdydd hefyd! Mae'n amlwg bod Ramsay Mac. wedi gadael ei farc ar Gymru - er nid y marc mwyaf dymunol efallai!


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:07 ar 30 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Alwyn ap huw:

    1Megan Lloyd George, Dot Rees, Eirene White, Ann Clwyd,
    2) Ann Clwyd
    3) Nefyn, Cricieth, Caernarfon, Conwy, Bangor , Pwllheli.
    4) Syr Harri Llywelyn
    5) Annie Powell
    6) Sir Benfro
    7) Canol Morganwg
    8) Yfed ar y Saboth
    9) Huw T Edwards – Ymgyrch Senedd i Gymru
    10) Caerfyrddin, Y Fro a De Clwyd

  • 2. Am 18:27 ar 30 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Tomos Dafydd:

    1. Dim ond pedair menyw oedd wedi cynrychioli Cymru yn NhÅ·'r Cyffredin cyn 1997. Enwch nhw.

    Dorothy Rees 1950-1951 - Etholaeth y Barri
    Eirene White 1950-1970 - Dwyrain Fflint (cyn ei dyrchafu i Dy’r Arlgwyddi)
    Megan Lloyd George – Ynys Mon 1929-1959 a Caerfyrddin 1957-66
    Ann Clwyd - Is-etholiad Cwm Cynon 1984

    2. Beth neu bwy sy'n cysylltu Ynys Môn, Cwm Cynon a Gorllewin Casnewydd â hen etholaeth Dinbych?

    Ai newid ffiniau etholaethau yw'r cysylltiad?

    Daeth Gorllewin Casnewydd a Cwm Cynon i fodolaeth yn 1983, tra diddymwyd hen etholaeth Dinbych yr un flwyddyn. Newidwyd enw etholaeth 'Anglesey' i Ynys Mon yn 1983 hefyd.

    Yn ogystal a hynny, fe safodd Ann Clwyd (AS Cwm Cynon) a Paul Flynn (AS Gorllewin Casnewydd) yn erbyn Geraint Morgan yn etholaeth Dinbych yn etholiad 1970 ac etholiad mis Hydref 1974.

    3. Cyn 1918 pa chwe bwrdeistref oedd yn etholaeth Lloyd George?

    Caernarfon, Bangor, Conwy, Criccieth, Nefyn, a Pwllheli

    4. Pa ffigwr amlwg o fyd chwareon wnaeth sefyll yn erbyn Jim Callaghan yn Ne Ddwyrain Caerdydd yn 1950au?

    Y Cricedwr Ted Dexter

    5. Pwy oedd y Comiwnydd cyntaf i gael ei ddyrchafu'n faer yng Nghymru?
    Annie Powell yn y Rhondda ym 1979

    6. Pa un o'r 22 o gynghorau lleol yng Nghymru a ddaeth i fodolaeth yn y nawdegau sy ddim yn cynnwys etholaeth seneddol gyfan?

    Conwy?

    7. Pa sir yng Nghymru oedd â'r bleidlais "na" fwyaf (fel canran) yng Nghymru a Lloegr yn refferendwm Ewrop yn 1975?

    Morgannwg Ganol

    8. Ynghylch beth y gwnaeth pobol Cymru (neu rhai ohonyn nhw) bleidleisio yn 1961,1968. 1975, 1982 a 1989?

    Agor Tafarndai ar y Sul

    9. Pwy oedd awdur y gwaith dychanol "They Went to Llandrindod" a phwy oedd testun ei ddychan?

    Huw T. Edwards - Ymgyrch Senedd I Gymru

    10. Ym mha tair etholaeth y safodd Rod Richards fel ymgeisydd Ceidwadwol?

    Caerfyrddin, Bro Morgannwg, a Gogledd Orllewin Clwyd

  • 3. Am 20:44 ar 30 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Idris:


    1. Megan Lloyd George, Ann Clwyd, Eirene White a Dorothy Rees
    2. Dim clem
    3. Cernarfon, Bangor, Criccieth, Pwllheli, Nefyn a Chonwy
    4. Dim clem
    5. Annie Powell
    6. Merthyr
    7. Morgannwg Ganol
    8. Agor tafarndai ar y Sul.
    9. Huw T Edwards. Cymru Fydd. Dylai fod 'sequel' am y Dem Rhydd Cymreig yn 2007!
    10. Gogledd Orllewin Clwyd, Llanelli a Dwyrain Caerfyrddin?

  • 4. Am 23:02 ar 30 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Dai:

    1 Dorothy Rees
    Megan Lloyd George
    Eirene White
    Ann Clwyd

    2. Ieuan Wyn Jones
    Ann Clwyd
    Paul Flynn
    (Ymgeiswyr oll yn Ninbych)

    3. Bangor, Caernarfon, Conwy, Cricieth, Nefyn, Pwllheli

    4. Ted Dexter

    5. (er gwaetha’r treiglad), Annie Powell, Y Rhondda???

    6. Merthyr Tudful

    7. Morgannwg Ganol

    8. Diota ar y Sul

    9. Huw T Edwards

    10. Caerfyrddin, Bro Morgannwg, Gogledd Orllewin Clwyd

  • 5. Am 10:04 ar 31 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Dewi:

    1. Dim ond pedair menyw oedd wedi cynrychioli Cymru yn NhÅ·'r Cyffredin cyn 1997. Enwch nhw. Megan Lloyd George, Ann Clwyd, Eirene White, Dorothy Rees
    2. Beth neu bwy sy'n cysylltu Ynys Môn, Cwm Cynon a Gorllewin Casnewydd â hen etholaeth Dinbych? o’r diwedd wedi cael e - Ann Clwyd, Paul Flynn a Ieuan Wyn Jones wedi sefyll yn Ninbych cyn ennill - ti’n greulon Vaughan….
    3. Cyn 1918 pa chwe bwrdeistref oedd yn etholaeth Lloyd George? Caernarfon, Cricieth, Nefyn, Pwllheli, Conwy, Bangor.
    4. Pa ffigwr amlwg o fyd chwareon wnaeth sefyll yn erbyn Jim Callaghan yn Ne Ddwyrain Caerdydd yn 1950au? Ted Dexter
    5. Pwy oedd y Comiwnydd cyntaf i gael ei ddyrchafu'n faer yng Nghymru? Annie Powell
    6. Pa un o'r 22 o gynghorau lleol yng Nghymru a ddaeth i fodolaeth yn y nawdegau sy ddim yn cynnwys etholaeth seneddol gyfan? Merthyr
    7. Pa sir yng Nghymru oedd â'r bleidlais "na" fwyaf (fel canran) yng Nghymru a Lloegr yn refferendwm Ewrop yn 1975? Morgannwg Ganol
    8. Ynghylch beth y gwnaeth pobol Cymru (neu rhai ohonyn nhw) bleidleisio yn 1961,1968. 1975, 1982 a 1989? Yfed ar y Sul
    9. Pwy oedd awdur y gwaith dychanol "They Went to Llandrindod" a phwy oedd testun ei ddychan? Huw T Edwards - Ymgyrch Senedd I Gymru.
    10. Ym mha tair etholaeth y safodd Rod Richards fel ymgeisydd Ceidwadwol Caerfyrddin, Bro Morgannwg, Gogledd Orllewin Clwyd.

  • 6. Am 03:26 ar 1 Awst 2010, ysgrifennodd Alwyn ap Huw:

    Os ydy fy ateb i gwestiwn 4 yn gywir, teg yw nodi bod brawd Harri, David, wedi llwyddo i ennill sedd Gogledd Caerdydd yn yr un etholiad!

    Mae pawb yn gwybod bod pob AS Cymreig, namyn un, wedi pleidleisio yn erbyn boddi Tryweryn.

    David Llywellyn oedd yr un!

    Roedd o'n frwd o blaid cynllun boddi'r cwm - ond ar ddydd y bleidlais roedd o’n "sâl" - yn fwriadol sâl er mwyn osgoi cael ei ddilorni fel yr unig AS Cymreig i fwrw pleidlais o balid boddi Capel Celyn!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.