Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Evans y news

Vaughan Roderick | 16:52, Dydd Mawrth, 8 Mehefin 2010

6a00d83451b31c69e20120a5f4d3ee970b-150wi.jpgDydw i ddim yn cofio pryd na lle y gwnes i gwrdd â Nigel Evans am y tro cyntaf. Yn sicr mae'n amser maith yn ôl.

Efallai mai isetholiad Pontypridd yn 1989 oedd yr achlysur. Nigel oedd ymgeisydd y Ceidwadwyr yn yr etholiad hwnnw ond fe wnaeth e fawr o farc.

Roedd yn dipyn o syndod felly pan gafodd ei ddewis i sefyll mewn isetholiad arall yn ystod yr un senedd, y tro hwn yn Ribble Valley yn Swydd Gaerhirfryn yn 1991.

Fe wnes i gyfro'r isetholiad hwnnw a dim ond tri pheth sy'n aros yn y cof yn ei gylch. Fedra i ddweud wrthych chi fod 'na siop selsig gythreulig o dda yn Clitheroe, bod yr ymgyrchu wrth-Gymreig gan rai o wrthwynebwyr Nigel yn hynod annymunol a'i fod e wedi colli'n wael mewn cadarnle Ceidwadol.

Efallai nad oedd y gwrthwynebwyr wrth-Gymreig hynny yn sylweddoli bod 'na dri chynnig i Gymro. Yn anarferol iawn ar ôl cael clatsied yn yr isetholiad cafodd Nigel ei ail-ddewis gan ennill y sedd yn etholiad cyffredinol 1992. Mae fe wedi ei dal hi byth ers hynny.

Beth bynnag yw cryfderau a gwendidau Nigel mae ganddo fe un fantais fawr fel gwleidydd. Mae hi bron yn amhosib ei ddrwg-licio. Mae'n gwmni da ac yn dod ymlaen a phawb, neu bron pawb!

Y prynhawn yma etholwyd Nigel yn un o ddirprwy lefarwyr TÅ·'r Cyffredin ac mae'n anodd credu nad ei boblogrwydd personol oedd sylfaen ei fuddugoliaeth.

Mae hynny'n dod a ni at David Davies.

Yfory fe fydd David yn cael gwybod a fydd ganddo wrthwynebydd yn yr etholiad i ddewis cadeirydd y Pwyllgor Dethol Cymreig. Mae'r swydd eisoes wedi ei chlustnodi ar gyfer y Ceidwadwyr ac ar hyn o bryd David yw'r unig geffyl yn y ras. Dyw Jonathan Evans ddim yn chwennych y swydd ac mae Glyn Davies yn gwrthsefyll pwysau i neidio i mewn gan ofni y byddai'n or-ddibynol ar aelodau Llafur am gefnogaeth.

Y prynhawn yma fe wnes i daro mewn i un o gyn-gadeiryddion y Pwyllgor. Mae'r rheiny i gyd wedi bod yn aelodau Llafur, gyda llaw. Ei farn ef oedd y byddai David yn gwneud yn iawn fel cadeirydd ond iddo gofio peidio defnyddio'r swydd fel pulpud personol. Draw ar flog David Cornock ceir dystiolaeth bod aelod Mynwy yn deall hynny gan addo peidio cymryd rhan yn yr ymgyrch refferendwm os ydy'n ennill y swydd.

Wrth gwrs mae gan David Davies fantais, un ddigon tebyg i un Nigel. Mae hyd yn oed pobol sy'n casáu ei wleidyddiaeth yn tueddu hoffi'r dyn.

Oherwydd hynny fe fentra i swllt mai David fydd cadeirydd nesaf y pwyllgor dethol er ei bod hi'n bosib bod dyddiau'r pwyllgor wedi eu rhifo. Wedi'r cyfan yn hwyr neu'n hwyrach mae'n debyg y bydd Swyddfeydd Cymru, yr Alban ac efallai Gogledd Iwerddon yn cael eu huno. Go brin y gellir cynnal pwyllgor craffu pan mae'r hyn oedd i'w graffu wedi diflannu!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 23:03 ar 9 Mehefin 2010, ysgrifennodd Siôn Aled:

    Good Evans!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.