Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Un o ni...

Vaughan Roderick | 14:12, Dydd Iau, 10 Mehefin 2010


Fe fyddai dyn yn credu ar ôl profiadau Tamsin Dunwoody yn is-etholiad Crewe a Nantwich y byddai Llafur yn garcus wrth chwarae'r cerdyn dosbarth mewn etholiadau.

Chwi gofiwch efallai bod ymdrech Tamsin i bortreadu ei hun fel "just a single unemployed mother of five fighting hard for a job" wedi profi'n fethiant trychinebus.

Mae'n debyg bod etholwyr Crewe yn ymwybodol o'r ffaith bod Tamsin yn ferch i Gwyneth Dunwoody, eu cyn aelod seneddol, bod ei thad-cu yn arglwydd a bod hi ei hun ond yn ddi-waith ar ôl colli ei sedd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru!

Serch hynny mae'n ymddangos bod gwleidyddion Llafur yn ei chael hi'n anodd peidio pwysleisio eu cefndiroedd cyffredin a cheisio profi eu bod yn rhan o'r werin datws.

Dyna i chi Carwyn Jones mewn cyfweliad a'rheddiw. Mae'n dweud hyn;

"I'm the only Welsh party leader, and the only Prime or First Minister who's gone to a comprehensive school. My view is I'm somebody new, I'm from a different background, I'm a comprehensive boy and that's something I'm keen to pitch on."

Dewch ymlaen! Fel bargyfreithiwr o deulu o athrawon go brin y byddai unrhyw un yn amau mai aelod o'r dosbarth canol yw Carwyn.

Mae'n wir ei fod wedi cael ei addysg mewn ysgol gyfun, sef Brynteg ym Mhen-y-bont. Ond pa mor unigryw yw hynny?

Wedi'r cyfan cyn dyddiau Carwyn Ysgol Ramadeg y Bechgyn oedd Brynteg, ysgol digon tebyg i Ysgol Ramadeg Pontardawe, yr un lle'r oedd Ieuan Wyn Jones yn ddisgybl cyn symud ymlaen i Ysgol (gyfun) y Berwyn.

Mae'n wir bod y "" lle gafodd Nick Bourne ei addysg yn swnio'n gythreulig o grand ond beth yw hyn ar dudalen cartref gwefan yr ysgol?

"KEGS is one of England's leading state schools with a proud history dating back to its foundation in 1551"

O diar! Mae'n ymddangos bod Nick wedi derbyn ei addysg mewn ysgol wladwriaethol hefyd!

Yn wir o'r pedwar arweinydd plaid yn y cynulliad yr unig un wnaeth dderbyn addysg breifat yw Kirsty Williams. Fe aeth hi i Ysgol St. Michael's yn Llanelli. Mae'n ysgol dda ond dim cweit yn cymharu â Rodean ac Eton!

Ond beth sydd a wnelo cefndir addysgiadol a gwleidyddiaeth, ta beth?

Ydy Carwyn yn meddwl llai o Jane Davidson oherwydd ei bod wedi mynychu Ysgol Merched Malvern? Go brin. Ydy e'n teimlo cysylltiad gwleidyddol agos ac aelod seneddol ceidwadol Basingstoke, Maria Miller?

Wedi'r cyfan fe gafodd hi ei haddysg mewn ysgol gyfun hefyd. Ysgol Gyfun Brynteg fel mae'n digwydd.


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:40 ar 10 Mehefin 2010, ysgrifennodd D. Enw:

    Jingoistiaeth dosbarth eto gan Lafur.

    Diflas.

  • 2. Am 14:21 ar 11 Mehefin 2010, ysgrifennodd Daniel:

    Yn hytrach na chwarae gemau plentynaidd fel hyn braf byddai gweld gwleidydd o unrhyw blaid yn dadlau bod talu am addysg gwell i'ch plant yn hybu anghyfartaledd ac yn awgrymu cynllun a fyddai, dros gyfnod o flynyddoedd, yn arwain at ddileu ysgolion preifat yn llwyr.

    Does neb wrth reswm yn awgrymu hynny yn y Guardian heddi lle mae John Harris yn gofyn i aelodau o'r mudiad Llafur am eu awgrymiadau polisi. Mae Neal Lawson, Compass, yn awgrymu dulliau o reoli'r economi ryngwladol. Gyrru'n rhy gyflym yw'r prif broblem sy'n ein wynebu ni yn ol Carwyn Jones.

    Max Boyce y byd gwleidyddol oedd Rhodri Morgan, ond mae Rhodri'n Frantz Fanon o feddyliwr gwleidyddol o'i gymharu a Carwyn!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.