Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Meddwl pethau mas...

Vaughan Roderick | 12:06, Dydd Iau, 13 Mai 2010

jedward766.jpgMae'n ddyddiau cynnar i'r llywodraeth newydd yn San Steffan ond o leiaf mae'r dyddiau o ansicrwydd a'r bwrlwm newyddiadurol yn gostegu. Wrth i mi adael Westminster yn hwyr neithiwr roedd pentref pebyll y cyfryngau ar College Green yn cael ei ddatgymalu a mawrion newyddiaduraeth wleidyddol yn disgwyl am dacsis neu'n ymlwybro tua'r tiwb.

Serch hynny wrth i'r ddeuawd newydd ymgartrefu yn Downing Street mae 'na sawl cwestiwn ynghylch goblygiadau'r cytundeb i Gymru.

Rwyf wedi crybwyll eisoes y broblem ynghylch pennu Mai'r 7fed 2015 fel dyddiad yr etholiad cyffredinol nesaf. Nawr mae'n bosib y byddai 'na fantais i Lafur mewn cynnal etholiad cynulliad ar yr un diwrnod ac Etholiad Cyffredinol ond dydw i ddim yn gweld y peth yn digwydd. Mynegodd Carwyn Jones ei bryder ynghylch y sefyllfa yn y Cynulliad ddoe a'r consensws yn y Bae yw y bydd yn rhaid cymryd camau i newid dyddiad yr etholiad cynulliad os oes rhaid.

Mae 'na broblem amseru arall yn codi ei phen. O'r hyn glywais i yn San Steffan y bwriad yw cynnal refferendwm ar y bleidlais amgen ym mis Mai 2011 ar yr un diwrnod ac etholiad y Cynulliad. Dyw hynny ddim yn gymaint o broblem a'r un etholiadol ac fe fyddai gwneud hynny yn gadael hydref eleni yn glir ar gyfer y refferendwm ynghylch pwerau'r cynulliad.

Ar y llaw arall mae'n werth cofio stranciau'r Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol ynghylch y syniad o gynnal refferendwm y cynulliad ar ddiwrnod yr etholiad. Roedd y ddwy blaid yn teimlo mor gryf am y peth nes iddyn nhw fygwth blocio cynnal y bleidlais o gwbwl pe bai hi ar un diwrnod a'r etholiad.

Dyma ddywedodd ar y pryd;

"Credaf ei bod yn bwysig hefyd na chaiff y refferendwm ei gynnal yr un diwrnod ag etholiadau'r Cynulliad- ein hetholiad cyffredinol yng Nghymru. Mae angen cynnal dwy ymgyrch bwysig ar wahân: un ar gyfer etholiadau'r Cynulliad ac un ar gyfer y refferendwm. Credaf na fyddai drysu rhwng y ddwy ymgyrch a'u gweld yn gwrthdaro ac yn gorgyffwrdd o fudd o gwbl i'r ymgyrch 'ie' nac i ymgyrch etholiadau'r Cynulliad."

Onid yw'r un peth yn wir am refferendwm ynghylch y bleidlais amgen?

Mae bras gytundeb Llywodraeth San Steffan hefyd yn cynnwys nifer o addewidion sy'n ymwneud a meysydd datganoledig fel addysg ac Iechyd. Er nad yw'r ddogfen yn dweud hynny gellir cymryd mai polisïau "Lloegr yn unig" yw'r rheiny. Ond, cyn belled ac mae angen deddfwriaeth i gyflawni'r polisïau, o dan y setliad presennol gallai'r mesurau hynny cynnwys cymalau sy'n benodol Gymreig a/neu gymalau Cymru a Lloegr.

Gyda llywodraethau o wahanol liwiau yn San Steffan a'r Bae rydym ar dir newydd o safbwynt llunio cymalau o'r fath. Mae hynny'n ddadl arall efallai dros symud yn weddol fuan tuag at setliad datganoli fwy eglur.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.