Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Nefar in Ewrop

Vaughan Roderick | 10:09, Dydd Mawrth, 4 Mai 2010

33483.jpgMae'n ddigon posib bod 'na symudiadau tectonig yn digwydd yn ein gwleidyddiaeth yr wythnos hon. Mae angen mwy na hynny i wneud daeargrynfeydd dan gadarn goncrit y Cynulliad.

Ie, dyma fi yn y Bae eto yn gwrando ar gyfarfod o bwyllgor Ewrop. Dydw i ddim yn meddwl y bydd llawer o bobol eraill yn talu sylw ac efallai bod hynny'n dda o beth i Carwyn Jones ac i Gymru!

Trafod effaith Cronfa Gydgyfeirio'r Undeb Ewropeaidd a chynllun Amcan Un cyn hynny ar y gorllewin a'r cymoedd oedd y pwyllgor. Nid am y tro cyntaf honnodd y gwthbleidiau bod y cynlluniau wedi methu a barnu o ffigyrau GDP a GVA y rhanbarth.

Roedd amddiffyniad Carwyn yn ddiddorol ond, o bosib, yn beryglus. Nid GDP a GVA oedd y modd cywir i fesur ffyniant y rhanbarth yn ôl y Prif Weinidog. Roedd cyfraniad rhywun oedd yn byw yn y cymoedd ond yn gweithio yng Nghaerdydd, er enghraifft yn cyfrannu at GDP a GVA y ddinas yn hytrach na'i fro ei hun.

Nawr mae dadlau nad GDP yw'r ffordd gywir i fesur llwyddiant cynllun a luniwyd yn unswydd i gysoni GDP ar draws yr Undeb braidd yn rhyfedd ond enghraifft Carwyn sy'n canu clychau larwm.

Am ddegawdau doedd Cymru ddim yn derbyn y lefel uchaf o gymorth Ewropeaidd a hynny oherwydd bod y ddau ranbarth economaidd sef y De a'r Gogledd yn uwch na'r trothwy tlodi.

Syniad y diweddar Phil Williams oedd ail-lunio ffiniau'r rhanbarthau economaidd gan gynnwys yr ardaloedd mwyaf tlawd yn y Cymoedd a'r Gorllewin mewn un rhanbarth enfawr. Llywodraeth gyntaf Tony Blair wnaeth lwyddo i argyhoeddi'r Undeb Ewropeaidd i dderbyn y syniad ac mae Cymru wedi derbyn biliynau o bunnau oherwydd hynny.

Mae'n gyfrinach agored bod rhanbarth y gorllewin a'r cymoedd yn greadigaeth artiffisial braidd sydd ond yn bodoli er mwyn cydymffurfio a rheolau cyllido'r Undeb Ewropeaidd.

Fe ddylai'r Prif Weinidog feddwl dwywaith cyn cyfaddef hynny. Mae 'na beryg y gallai'r Undeb Ewropeaidd wrando.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:18 ar 4 Mai 2010, ysgrifennodd Harold Street:

    "symudiadau tectonig"? Pryd cawn ni broffwydoliaeth fanwl gyda chi te, Vaughan?

    Dyma un - ddigalon iawn - gen i: digon o fwyafrif gan y Toris i ffurfio llywodraeth heb gymorth Clegg.

    Mae mysedd i wedi'u croesi wrth gwrs, gan obeithio y bydda i'n anghywir.

    Unrhyw un arall am ddarogan?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.