Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Paentio'r byd yn goch...

Vaughan Roderick | 12:41, Dydd Gwener, 30 Ebrill 2010

cd.JPGMae Nick Bourne newydd ryddhau datganiad yn galw am adfer y slogan "Cofiwch Dryweryn" yng Ngheredigion oedd wedi cael ei difrodi'n ddiweddar.

Dyma sydd gan Nick i ddweud "Mae'r slogan o'r pwys hanesyddol mwyaf ac yn eicon nid yn unig i Geredigion ond i Gymru gyfan."

Mae 'na ryw wers fach yn fan hyn ynghylch y ffordd y mae olion brwydrau'r gorffennol yn hwyr neu'n hwyrach yn troi'n eiddo i bawb.

Ond does dim rhai i Nick boeni. Fel mae'r llun yn dangos mae'r peth eisoes wedi ei sortio!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:28 ar 30 Ebrill 2010, ysgrifennodd ail got:

    a dwi'n fodlon betio nad tori nath y paentio...

  • 2. Am 21:35 ar 30 Ebrill 2010, ysgrifennodd Ceri Wyn:

    Wi ddim yn credu bo hwnna jobyn cystlad a 'ny odi ddi?

    Ma'r llythrennau unigol yn edrych yn salw ofnadw - does wbod pwy 'font' oen nhw'n iwso.

    O ran tafod y ddraig - tafod digon llipa yw e ontefe.

    4 mas o 10 'swn i'n rhoi iddi

    Ma isha i rwyn fynd nol drosti to!

  • 3. Am 11:01 ar 1 Mai 2010, ysgrifennodd ail got:

    falle mai tori nath y paentio wedi'r cyfan te, ceri...

  • 4. Am 21:17 ar 1 Mai 2010, ysgrifennodd monwynsyn:

    Wedi bod yn chwarae gyda'r cyfrifydd seddi a chael chanlyniadau eithaf diddorol

    Er mwyn cael 165 o seddi fe fyddai yn rhai i'r Lib Dems gael 35% o'r bleidlias.

    Fe allai Llafur gael 165 o seddi gyda 21.5% o'r bleidlais.

    Tra byddai'r Toriaid yn gallu cael 291 o seddi gyda 35% o'r bleidlais.

    Sut ar y ddaear mae modd disgrifio y system yma fel mam democratiaeth ?

  • 5. Am 21:51 ar 1 Mai 2010, ysgrifennodd Josgin:

    Mynd trwy Ceredigion bore ma ar y ffordd i ffeinal cwpan Cymru- mae'r paent yn rhedeg yn barod . Angen undercoat tro nesaf !

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.