Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Drychwch ar hyn

Vaughan Roderick | 19:14, Dydd Llun, 19 Ebrill 2010

Mae'n debyg eich bod wedi gweld canlyniadau arolwg YouGov/ITV Wales erbyn hyn. Jyst rhag ofn dyma nhw eto o gymharu â'r arolwg Cymreig diwethaf mis yn ôl.

Llafur 33 (- 4)
Ceidwadwyr 23 (- 6)
Plaid Cymru 9 (- 5)
Dem. Rhyddfrydol 29 (+ 17)

Mae'n fwy diddorol efallai i gymharu nhw a chanrannau'r bleidlais yn etholiad 2005.

Llafur 33 (-9.7)
Ceidwadwyr 23 (+1.6)
Plaid Cymru 9 (-3.6%)
Dem. Rhyddfrydol 29 (+ 10.6)

Ar lefel Brydeinig mae Llafur yn credu bod y cynnydd yng nghefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol o gymorth iddyn nhw. Efallai bod hynny'n wir. Yng Nghymru mae pethau'n fwy amwys gyda gogwydd o Lafur i'r Ceidwadwyr o dros bump y cant.

O safbwynt Plaid Cymru mae 'na wobr gysur yn yr arolwg yma. O safbwynt sawl pleidiwr fe fydd hwn yn cael ei weld fel "slam-dunk" o brawf o ba mor annheg y mae'r dadleuon teledu. Fe fydd yn ddiddorol gweld sut mae ymddiriedolwyr y Â鶹ԼÅÄ yn ymateb.

Diweddariad; Yn sgil cyhoeddi'r arolwg mae Plaid Cymru wedi gwneud cwyn ffurfiol ynghylch dadl ITV i OFCOM. Mae'r corff hwnnw ond yn gallu dyfarnu ynghylch rhaglen ar ôl iddi gael ei darlledu. Dim ond dadl ITV y gellir cwyno amdani hyd yma felly.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:00 ar 20 Ebrill 2010, ysgrifennodd Richard:

    Canlyniadau rhyfeddol a rhyfeddol o ddiddorol. Rhaid cyfaddef, fodd bynnag, fy mod bellach wedi fy nrysu'n llwyr gan agwedd y Â鶹ԼÅÄ tuag at bolau piniwn. Yn ol a ddeallaf, mae'r Gorfforaeth yn gwrthod comisynu polau sy'n holi barn am fwriadau pleidleisio am nad ydynt yn ddibynadwy - a hynny hyd yn oed yng Nghymru lle mae'r angen yn amlwg. Eto'i gyd, ers sawl diwrnod bellach mae pob un o fwletinau newyddion y Â鶹ԼÅÄ yn cael ei dominyddu gan yr hyn mae polau piniwn yn ei awgrymu ynglyn a bwriadau pleidleisio.

    Oes modd cysoni hyn, tybed?

  • 2. Am 11:51 ar 20 Ebrill 2010, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Yn anffodus, byswn i'n awgrymu bod Plaid Cymru yn poeni am fwy na dim ond y pôl wrth gyflwyno eu cwyn. Rydan ni'n gwybod pa mor annibynadwy ydi polau Cymreig: ond swni'n awgrymu mai'r hyn y mae wedi'i wneud ydi cadarnhau beth y mae Plaid Cymru yn ei glywed ar lawr gwlad a'u bod wedi teimlo ymchwydd yng nghefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol a gostyngiad cyfatebol yn ei phleidlais hi - dyma ydi'r prif ysgogiad.

    Dydw i ddim yn gwybod pa mor union ddibynadwy ydi'r arolwg barn ond petai Plaid Cymru yn cael 9% o'r bleidlais doed Mai 6ed byddai'n drychinebus go iawn - yn syml, byddai'n achos o wynebu'r etholiad gorau yn ei hanes i'r un waethaf mewn cof. Ar y llaw arall mae'n amlwg bod y Dems Rhydd ar eu fyny yng Nghymru.

  • 3. Am 20:56 ar 20 Ebrill 2010, ysgrifennodd monwynsyn:

    Dwi yn pryderu fod y cyfryngau yn anghofio weithiau mai ethol aelodau seneddol unigol fyddwn ar Fai y 6ed pobl i'n cynrychioli yn lleol ac nid Arlywydd. Gyda chymaint o bwylsais ar yr aweinwyr cenedlaethol mae llai o sylw a scriwti lleol o ymgeiswyr unigol. Nawr dwi ddim yn amau nad oes gan bob plaid ymgeiswyr da ond dwi yn ofni nad oes digon o groesholi ymgeiswyr unigol ac mai prin yw cyswllt rhai ymgeiswyr a'i hetholwyr. Dwi yn cael yr argraff fod pethau yn eithaf marwaidd o ran ymgyrchu lleol mewn ardaloedd lle oedd ymgyrchu yn flaenorol gan fod y sylw ar gwlt yr arweinydd.

    Tybed a ddylai Blaid Cymru comisiynu You Gov i gwblhau arolwg annibynnol i holi oedd y ddadl deledu wedi dylanwadu ar duedd pleidleisio pobl byddai honno yn arf ychwanegol cyn cyflwyno ei hapel.

    Mater arall ddylsent gwyno yn ei gylch yw'r sylw mai'r Â鶹ԼÅÄ wedi ei roi i arolygon ers y ddadl. Maent yn rhoi sylw nosweithiol i arolygon sydd wedi eu cynnal gan bob Tom Dic a Harri. Mae hyn wedi bwydo'r ymchwydd diweddar.

    Oes rhywun yn gwybod sut y penderfynwyd ar drefn pynciau y dadleuon. Dwi ar ddeall mai drwy dynnu tocyn y penderfynwyd ar pwy oedd yn derbyn pa noson ond beth am y pynciau. Gan edrych yn ol oni ddylsai'r drefn wedi bod yn wahanol. Roedd cyfran sylweddol o bynciau ITV yn faterion oedd wedi ei datganoli ac fe ellid holi os y dylsent fod wedi caniatau'r fath gwestiynnau i'w darlledu yn genedlaethol. Gwn fod rhwy gyfeiriad at faterion datganoledig ond oni ddylsai rhai fod wedi ei cyfyngu i wasanaethau lleol yn Lloegr ?

    Dim ond gofyn. Dwi ar gefn fy ngheffyl heno

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.