Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Da yw dau

Vaughan Roderick | 09:54, Dydd Mercher, 7 Ebrill 2010

_39039913_gwyrdd203.jpg
Mae'n ddydd dau. Dydd da i chi!

Cyn cyrraedd y bregeth dyma ambell i gyhoeddiad.

Mae gwefannau etholiad Â鶹ԼÅÄ Cymru yn awr yn fyw. Mae'r un Gymraeg yn a'r un Saesneg yn . Gan fod y safleoedd yn cynnwys deunydd unigryw mae'n werth cadw llygad ar y ddau. Fe fyddwn yn ychwanegu llwyth o bethau newydd i'r safleoedd wrth i'r ymgyrch fynd yn ei flaen.

O safbwynt newyddion mae'n ffocws ni ar y Gogledd heddiw gyda ffrae ddifyr yn datblygu mewn un etholaeth allweddol. Mwy am hynny yn y man.

Yn y cyfamser mae'r Gwyrddion wedi cyhoeddi eu bod am sefyll mewn pedair ar ddeg o etholaethau Cymru y tro hwn. Dyma nhw;

Arfon, Bro Morgannwg, Brycheiniog a Maesyfed, Canol Caerdydd, Gogledd Caerdydd, De Caerdydd a Phenarth, Gorllewin Caerdydd, Gorllewin Casnewydd, Ceredigion, Mynwy, Pontypridd, Dwyrain Abertawe, Gorllewin Abertawe a Thorfaen.

Mae rhai o'r rheiny yn etholaethau ymylol lle y gallai ychydig gannoedd o bleidleisiau wneud gwahaniaeth. Rwy'n rhyw dybio mai'r Democratiaid Rhyddfrydol sy'n dioddef fwyaf o ymyrraeth y Gwyrddion er mai ar sail greddf rwy'n dweud hynny yn hytrach nac ar sail unrhyw dystiolaeth bendant.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.