Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Brecwast Llawn

Vaughan Roderick | 12:40, Dydd Llun, 12 Ebrill 2010

tedheath.jpgMae taflen ddiweddaraf Llafur Cymru newydd gyrraedd fy nesg. Arni mae llun o fowlen o "corn flakes" a'r neges (uniaith Saesneg) yma;

"When the Tories were in government they stole your milk... don't risk your children's breakfast"

Nawr, mae 'na sawl problem gyda'r neges yma. Yn gyntaf, wrth gwrs, un o gynlluniau Llywodraeth y Cynulliad yw'r brecwastau am ddim yn ein hysgolion cynradd. Does a wnelo llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim byd a'r peth.

Dadl Llafur Cymru yw y gallai toriadau yng nghyllid y Cynulliad arwain at ddileu'r cynllun. Efallai bod honno'n ddadl ddilys ond os felly, Llywodraeth y Cynulliad fyddai wedi penderfynu aberthu'r brecwastau er mwyn amddiffyn cynlluniau eraill. Ydyn ni i gymryd felly nad yw Llafur bellach yn credu bod brecwastau yn flaenoriaeth sy'n rhaid eu hamddiffyn ar bob cyfri? Nid dyna oedd y blaid yn dweud yn etholiad y cynulliad!

Y broblem arall yw bod y ffrwgwd ynghylch "dwyn llaeth y plant" yn hen fel pechod. Nid codi bwci-bo llywodraeth Thatcher (ac mae hwnnw'n ddigon hen erbyn hyn) y mae Llafur yn fan hyn ond llywodraeth Ted Heath! Ar gychwyn y llywodraeth honno yn hydref 1970 y cyhoeddodd yr ysgrifennydd addysg, Margaret Thatcher, bod dyddiau "llaeth amser chwarae" yn dirwyn i ben.

O gofio hynny, dyw hi ddim yn debygol iawn bod yr etholwyr wnaeth golli eu llaeth yn 1970 â phlant sy'n derbyn brecwastau'r dyddiau hyn. Eu hwyrion ac wyresau efallai- ond eu plant? Go brin!

Ond os ydy Llafur am ail-frwydro'r rhyfeloedd llaeth hwyrach y dylai Plaid Cymru achub ei chân etholiad o isetholiad Merthyr o gefn rhyw gwpwrdd yn Nhŷ Gwynfor. Yn cael ei chanu i don yn "Eton Boating Song" dyma hi;

"They both tried to diddle the workers,
They both pinched the milk from the schools...
... But we're beating them hell for leather
and chucking them over the side
so it's up we go together
to make a fresh start with the Plaid"

Mae cofio honna'n gwneud i mi deimlo'n hen! Rwy'n ddigon hen i gofio'r poteli bach o laeth ysgol hefyd a, iesgob, roedd y stwff yn afiach, bron cynddrwg a'r bresych!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:34 ar 12 Ebrill 2010, ysgrifennodd Rhys Llwyd:

    Wn i ddim faint o elwa wnaiff y Blaid Lafur o godi bwgan Thatcher bellach. Dwi'n bedwar ar hugain mlwydd oed a diddordeb byw mewn gwleidyddiaeth ers yn ifanc a prin ydw i'n cofio Major, dwi ddim cofio dim o Thatcher.

    Plentyn Blair ydw i, ac oherwydd hynny y bwgan i mi ydy Llafur Newydd. Nhw sydd wedi llusgo traeth gyda'r Gymraeg a datganoli i'm cof personnol i.

    Ond fydda i byth yn pleidleisio dros unrhyw blaid Brydeinig.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.