Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Beth pe bai...

Vaughan Roderick | 09:42, Dydd Sul, 18 Ebrill 2010

_44677238_ballotbox_bbc226.jpgNawr mae hwn yn "be bai" go fawr ond beth os oedd y cynnydd yn y gefnogaeth i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn parhau tan Mai'r 6ed? Beth fyddai effaith hynny ar y map etholiadol yng Nghymru?

Y peth cyntaf i ddweud nad yw'r cynnydd yn gwneud y seddi mae'r blaid yn eu dal eisoes (ac eithrio Canol Caerdydd) yn gwbl ddiogel. Mae o gymorth, wrth reswm, ond mae etholaethau gwledig Cymreig yn gallu bod yn eithriadau i batrwm cyffredinol. Dyna'r rheswm yr oedd y Gymru wledig yn beiriant cynnal bywyd i'r Rhyddfrydwyr am gyhyd.

Gan roi'r rheiny i'r naill ochor felly pa mor bell y gallai llanw melyn fynd? Yr ateb yw dim yn bell iawn, dybiwn i. Fe fyddai Gorllewin Abertawe a Dwyrain Casnewydd, y ddwy sedd darged, o fewn eu cyrraedd. Ar ôl hynny mae'n rhaid crafu pen ychydig.

Un posibilrwydd yw Wrecsam lle mae'r blaid yn arwain y cyngor. Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ail yno yn 2005 ond fe dderbyniodd Ian Lucas 46% o'r bleidlais y tro hwnnw. Fe fyddai angen cythraul o ogwydd o Lafur ynghyd a bron pob un bleidlais dactegol bosib i'w chipio.

Fe fu Democratiaid Rhyddfrydol Caerdydd mewn penbleth am sbel yn sgil ennill Canol Caerdydd ynghylch pa etholaeth i'w thargedi nesaf. Roedd rhai yn credu mai Gogledd Caerdydd fyddai'r fwyaf ffafriol dros gyfres o etholiadau ond yn y diwedd penderfynwyd mai De Caerdydd a Phenarth fyddai'r targed seneddol a chynulliad er bod y blaid yn dal i dargedu wardiau unigol yn yr etholaethau eraill.

Unwaith yn rhagor mae'n anodd gweld hon yn mynd. Derbyniodd Alun Michael bron i hanner y pleidleisiau tro diwethaf a'r Torïaid oedd yn ail o drwch blewyn. Mae'r bleidlais Geidwadol ym Mhenarth yn ymddangos yn un soled i mi ac mae cynlluniau ad-drefnu ysgolion y cyngor yn boenus o amhoblogaidd yn nwyrain yr etholaeth. Am unwaith, dyw'r ffrae honno yn ddim byd i wneud ac addysg Gymraeg, gyda llaw!

Y tu hwnt i'r pedair sedd bresennol a'r ddwy sedd darged mae'n anodd gweld lle y gallai'r blaid ennill felly.

Ar ôl dweud hynny mae pethau rhyfedd yn gallu digwydd yn yr hyn mae'r Americanwyr yn galw'n "wave election" sef etholiad lle mae 'na don o gefnogaeth i blaid yn nyddiau olaf yr ymgyrch.

Un sedd lle dylai Llafur wylio'i chefn yw Pontypridd. Mae'r etholaeth honno wedi gweld newid cymdeithasol sylfaenol dros y chwarter canrif ddiwethaf. Go brin y gellir ei hystyried yn un o etholaethau'r cymoedd bellach gyda rhannau helaeth ohoni yn debycach i faestrefi Caerdydd. Yn wir, yn 2005 roedd canlyniad Pontypridd yn debycach i un Gorllewin Caerdydd nac oedd e i rai etholaethau cyfagos eraill megis Cwm Cynon, Merthyr a'r Rhondda.

Problem y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mhontypridd yw bod ei ymgeisydd Mike Powell yn "marmite" o ddyn. Mae bron pawb yn ei nabod ond tra bod rhai yn dwli arno mae eraill yn ei ddrwg-licio gyda'r un arddeliad.

Dylai Llafur ennill Pontypridd yn hawdd ond, fel y dwedais i, mae angen i fy nghyfaill Owen Smith wylio ei gefn. Wedi cyfan fe fyddai colli Ponti ar ôl colli Blaenau Gwent yn gythraul o beth. Go brin y byddai 'na dri chynnig i Gymro mewn achos felly!

Mae rhestr lawn o ymgeiswyr Pontypridd ar gael yn ar wefan Â鶹ԼÅÄ Cymru yn

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:44 ar 18 Ebrill 2010, ysgrifennodd AlunCymru:

    Beth am Merthyr efallai? Onid oes gan y Libs presenoldeb ar y cyngor? Ydy nhw medru perswadio Plediwyr a'r Annibynwyr di-ri i gefnogi nhw i cael wared ar yr MP dros Helamnd?!

  • 2. Am 15:54 ar 18 Ebrill 2010, ysgrifennodd Bryn_Teilo:

    Dim ond lles a ddaw, yn enwedig i ni yng Nghymru, os bydd cynnydd sylweddol yn nifer AS y Democratiaid Rhyddfrydol, ac os torrir felly rym y ddwy blaid a fu'n llywodraethu Prydain am bron i gan mlynedd. Os digwyddir hynny, mae'n debyg gwelwn newidiadau cyfansoddiadol o bwys.

    Gobeithiaf, wrth gwrs, fel cenedlaetholwr, y bydd Plaid Cymru'n ennill nifer o seddau ychwanedig yn yr etholiad.

    Trist oedd gweld y ddwy blaid genedlaethol, yr SNP a Phlaid Cymru, yn cael eu rhwystro o gymryd rhan yn narllediadau dadl yr arweinyddion. Gwelsom y cynnydd mawr ym mhoblogrwydd Nick Clegg a ddilynodd. Mae hynny'n dangos yn glir pwysicrwydd amlygiad yn y cyfryngau, ac yn enewedig ar y teledu.

    Roedd y penderfyniad i anwybyddu y ddwy blaid yn hollol wrth-ddemocrataidd yn fy marn i. Mae datganoli wedi newid y tirwedd wleidyddol yn yr ynysoedd hyn, ond nid yw'r gyfundren ddarlledu wedi deffro i'r ffaith.

    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn euog o blygu i ddymuniadau y Blaid Lafur a'r Toriaid. Mae'r SNP wedi dioddef mwy o anghyfiawnder trwy'r penderfyniad, pan rydym yn ystyried mai dim ond un AS sydd gan y Toriaid yn yr Alban, ac eto mae'r tair ddadl yn cael eu darlledu yn y wlad honno fel petase'r SNP ddim yn bodoli.

    Os llwyddir yr SNP yn sylweddol yn yr etholiad er gwaethaf y penderfyniad, mae'n debyg y peth cyntaf i newid fydd y gyfundrefn ddarlledu. Ni synnwn weld darlledu yn cael eu ddatganoli i gorff yn yr Alban, and ni fydd y Â鶹ԼÅÄ yn bodoli mwyach. Nid peth drwg fydd hyn i Gymru chwaith.

  • 3. Am 16:17 ar 18 Ebrill 2010, ysgrifennodd dewi ogwen:

    Dwi di gyrru trw'r Rhondda Fach pnawn ma ac ma na rhywbeth od yn digwydd yn y Rhondda. Mae nifer o bosteri Ymgeisydd Annibynol wedi ymddangos. Gyda ymgeisydd Llafur eithaf amhoblogaidd bellach all ei fwyafrif fod yn un fach.

  • 4. Am 21:13 ar 18 Ebrill 2010, ysgrifennodd monwynsyn:

    O ran llefydd allai fod o fewn cyrraedd i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Rhaid cofio fod Roger Roberts wedi dod yn agos yn y gorffennol yn Aberconwy. Er nad yw lefel y gefnogaeth wedi parhau wedyn mae yn sedd sydd a hanes pleidleisio iddynt ac fe all fod yn sedd 4 plaid.

    Yr hyn sydd yn ddiddorol yw fe allai ymchwydd i'r Democratiad fod yn newydd drwg i'r Blaid yn Ceredigion ond yn newydd da i'r Blaid ym Mon os y gallent ddal ei gafael ar y bleidlais gynhenid.

    Dwi yn meddwl fod sylwadau Bryn_Teilo yn ddiddorol. Mae ychydig o fomentwm yn adeiladu rwan cymaint yw'r sylw sy'n parhau. Os rhywbeth mae'r opsesiwn gyda'r polau piniwn ar ol y ddadl deledu yn cadw Democratiaid yn llygaid y cyhoedd ac mae hwn yn gyhoeddusrwydd rhad na fyddent byth wedi gallu fforddio ei brynnu. Mae hefyd yn gwasgu allan y sylw i'r pleidiau eraill gan gynnwys UKIP a'r Gwyrddion. Hyd yn oed petai Nick Clegg yn cael dwy ddadl sal a dychwelyd i fyd bocsio mae pobl yn dal i gofio fod Henry Cooper wedi rhoi Ali ar y canfas yn y rownd gyntaf er mai colli wnaeth yn eithaf clir.

    Yr hyn dwi yn bryderus yn ei gylch yw fod y dadleuon yn dwyn sylw oddi ar ymgychoedd lleol ac ymgeisyddion lleol. Mae nifer o ymgeiswyr sydd a bod yn boleit yn ymgeiswyr mewn enw yn unig. Dwi yn amau fod ambell un yn poeni y gallent gael ei hethol. !!!!!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.