Βι¶ΉΤΌΕΔ

Help / Cymorth
Β« Blaenorol | Hafan | Nesaf Β»

Hwn a'r llall

Vaughan Roderick | 16:01, Dydd Mercher, 21 Ebrill 2010

transmitter_bbc226.jpgRhoddwyd llawer o sylw i ffigyrau gwylio sylweddol y ddadl deledu gyntaf rhwng Gordon Brown, David Cameron a Nick Clegg. Chwi gofiwch, mae'n siΕµr, bod 9.4 miliwn wedi gwylio'r rhaglen ar gyfartaledd a bod 450,000 o'r rheiny yng Nghymru.

Beth am y dadleuon Cymreig? Gan mai dim ond ar "Sky News" y darlledwyd y gyntaf digon bychan oedd y gynulleidfa mae'n debyg. Ond beth am y ddadl ar ITV neithiwr- y ddadl sy'n cyfateb yn uniongyrchol i'r ddadl Brydeinig gyntaf.

Fe wyliodd 87,000 o bobol y ddadl neu chwech y cant o'r rheiny oedd yn gwylio teledu ar y pryd. Roedd 358,000 yn gwylio "Traffic Cops" ar Βι¶ΉΤΌΕΔ 1, 112,000 yn gwylio "Great Ormond Street" ar Βι¶ΉΤΌΕΔ2 a 24,000 yn gwylio "Llwch Folcanig- yr argyfwng" ar S4C.

Mae ambell i daflen etholiad wedi fy nghyrraedd. Da o beth yw gweld bod ymgyrch Elin Jones yn mynd mor dda yng Ngheredigion. Mae'n rhaid mai hi yw ymgeisydd Plaid Cymru. Wedi'r cyfan mae hanner dwsin o luniau ohoni ar daflen ddiweddaraf y blaid a dim un o Penri James. "Last minute subsitution" mae'r rhaid!

Yn y cyfamser mae'n ymddangos bod etholaeth Aberconwy wedi tyfu'n rhyfeddol. Yn Γ΄l taflen Geidwadol mae'n cynnwys "Dyffryn Clwyd i gyd ynghyd a'r arfordir mwy poblog o Fae Penrhyn i Lanfairfechan". Rwy'n cymryd mai Dyffryn Conwy oedd y daflen i fod i ddweud. Beth yw ambell i afon rhwng ffrindiau?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:47 ar 21 Ebrill 2010, ysgrifennodd monwynsyn:

    Er mwyn cydbwysedd felly fe fyddai angen 5 rhaglen arall i gyrraedd yr un cynulleidfa. Na er cymaint fy niddordeb mewn gwleidyddiaeth dwi ddim am awgrymu hynny. Ond ar y sail yma fe allai Plaid Cymru ddadlau fod y pleidiau eraill wedi cael 80% yn fwy o sylw.

  • 2. Am 11:22 ar 22 Ebrill 2010, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Dydi o ddim y tu hwnt i ddychymyg fod y math o bobl fyddai'n dueddol o wylio dadl Gymreig yn tueddu'n fwy at Blaid Cymru beth bynnag, felly gellir dychmygu na lwyddodd Plaid Cymru gyrraedd cynulleidfa newydd beth bynnag.

    Ond mae 87,000 yn gynulleidfa bathetig i fod yn onast.

  • 3. Am 13:17 ar 22 Ebrill 2010, ysgrifennodd garmonceiro:

    ond doedd e byth yn mynd i fod yn fwy - sdim llawer yn mynd i wylio dwy ddadl mewn ychydig ddyddiau... un ateb yn y dyfodol, falle, fydde cynnal y dadleuon cymreig gynta ermwyn manteisio ar y diddordeb. Ma RAID i'r Βι¶ΉΤΌΕΔ ffindo ffor o gael mwy o gytbwysedd sbosib.

    dwi styc dramor - pwy oedd yn cynrychioli'r pleidiau?

  • 4. Am 15:43 ar 22 Ebrill 2010, ysgrifennodd Mabon:

    (Dyma'r neges eto, rhag ofn na lwythodd y tro diwethaf).

    Mae 80% yn ffugwr llawer rhy isel.

    Yr unig papurau newyddion a roddodd adroddiad am Ddadleuon Arweinwyr Cymru oedd y Western Mail ac i ryw raddau y Daily Post - ill dau a chylchrediad o llai na 80,000 rhyngddyn nhw.

    Yn ogystal a hynny, o'r tair blog gwleidyddol Gymreig ar wefan y Βι¶ΉΤΌΕΔ (Vaughan, Betsan Powys, a David Cornock), doedd yr un ohonyn nhw wedi blogio am ddadl Gymreig Sky News - fe flogiodd Vaughan am y pol piniwn Cymreig a ddaeth yn sgil dadl Llundain, ond ar ddydd Llun drannoeth dadl Sky, ni chafwyd yr un sylw am ddadl arweinwyr Cymru; fe'i hanwybyddwyd yn llwyr!

    Mae'r dadleuon rhwng y 3 Plaid Llundeinig yn gosod yr agenda. Yn arwain lan at y dadleuon roedd holl bapurau Llundain (sydd a chylchrediad dipyn yn fwy yng Nghymru na'r papurau Cymreig!) yn ceisio rhagweld y ddadl - yn hyrwyddo'r ddadl, yn rhan o'r 'hysteria' a 'hype' (ffaith a arweiniodd at y nifer sylweddol a edrychodd ar y ddadl); ac yn dilyn y rhaglen roedd yr holl bapurau, eu blogiau, papurau Cymru, blogiau Cymru, trydar Cymru, yr holl ddisgwrs wleidyddol Gymreig yn siarad am ddadl rhwng 3 arweinydd pleidiau Llundain - arweinwyr na gyfeiriodd unwaith, ddim un waith, at Gymru.

    Yn fwy na hynny roedd hanner - neu yn wir rhagor na hanner - o'r sgwrs/dadl yn ymwneud a pholisiau oedd yn ymwneud a Lloegr yn unig. Er hynny, mae etholwyr Cymru yn mynd i wneud eu meddyliau i fyny ar pa blaid i’w gefnogi ar sail gwrando ar bleidiau Llundeinig yn hyrwyddo polisiau yn ymwneud a Lloegr yn unig.

    peidied neb a dweud fod yr hyn rwy'n ddweud uchod yn trin etholwyr Cymru yn ddilornus. Ddim o gwbl.
    Os mae'r dewis a roddir gerbron rhywun yw rhwng tri math gwahanol o gachu yna cachu mae'n nhw am ei ddewis. Mae'n rhaid i bleidiau fel Plaid Cymru a’r SNP weithio gan mil gwaith yn fwy caled i gyrraedd yr etholwyr yma ar lefel mor gyson a rheolaidd a'r pleidiau Llundeinig.

    Pan fo Cymraes yn dihino yn ei chartref - efallai yn Aberdar, neu Aberaeron - ac yn rhoi y radio ymlaen...radio Cymru dyweder, i glywed newyddion y bore, ac yn clywed llais melfedaidd Gary Owen yn trin a thrafod (ac yn ei dro felly yn hyrwyddo) dadl 'yr arweinwyr (Llundeinig), ac yn clywed am Nick Clegg bron a bod bob bore yn dilyn hynny; yna yn troi at y papurau newyddion i weld dalen flaen y Western Mail a'r Times yn blastar o Nick Clegg a dadl yr arweinwyr (Llundeinig); yna'n mynd i'r gwaith ac ambell i berson yn dechrau sgwrsio am y drafodaeth, neu eraill yn dweud nad oedden nhw wedi ei weld, ond roedd lot o son ar y radio/yn y papur; yna amser cinio, dros frechdan mae hi'n edrych ar y we - edrych ar ei Facebook, cael cip olwg sydyn ar newyddion y Βι¶ΉΤΌΕΔ neu ambell i flog, a beth sydd yno eto? Nick Clegg/Dadl Arweinwyr (Llundain); ac yna wrth ymlacio gyda'r nos ac edrych ar y teldeu mae'r newyddion yn son amdano, mae ambell i raglen fagasin ysgafn yn cyfeirio ato...a hyn diwrnod, ar ol diwrnod, ar ol diwrnod...beth mae'r etholwraig yna o Gymru i fod i feddwl?

    Mae'r dadleuon yma yn wrth-ddemocrataidd - yn bodoli i hyrwyddo consensws canolig Llundain yn unig. Does dim iws i Cameron ddadlau ei fod am ddatganoli grym o Lundain a'i roi i'r bobl ar yr un llaw, tra ar y llaw arall yn gwneud popeth o fewn ei allu i ganoli grym a sylw ar Lundain. Mae honni ein bod ni'n byw o dan drefn democratiaeth gynrychioladol yn chwerthinllyd. Democratiaeth yw Grym i'r Bobl, ond pan fo'r bobl yn cael eu hyrddio, a'u gwthio, a'u gorfodi i ddewis rhwng tair plaid yn unig - tair plaid sydd mor debyg i'w gilydd o ran eu gwneuthuriad, eu polisiau, a'u cynrychiolwyr etholedig fel ei fod bron yn amhosib gwahaniaethu rhyngddyn nhw - yna dyw e ddim yn lot o rym, yn nagyw! Dyma enghraifft berffaith o gymdeithas 1984 Orwell ar waith, ac ry'n ni'n ddigon dwl a dall i adael iddo ddigwydd, heb na her na chwestiwn.

    Y trueni mawr yw fod y cyfryngau a newyddiadurwyr Cymru mor slafaidd.

    Ac mae'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn waeth na neb yn hyn. Mae'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn cael ei harianu gan y pwrs cyhoeddus. Dylai fod dim rhaid i'r Βι¶ΉΤΌΕΔ orfod mynd ar ol rwtsh 'ratings'. Dylai'r Βι¶ΉΤΌΕΔ ddim fod yn rhan o unrhyw 'ratings war' - y rheswm y mae'n rhaid i SKY a ITV wneud yw am eu bod nhw'n gorfod cynhyrchu eu harian eu hunain trwy hysbysebion a/neu tanysgrifiadau. Ond ddim y Βι¶ΉΤΌΕΔ.

    Ond dyna ni, mae'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn rhan o'r drefn.

    Os ydyw yn golygu fod yn rhaid i Blaid Cymru - y blaid yr wyf i'n aelod ohoni yn union er mwyn newid y drefn llwgr yma - os ydyw'n golygu fod yn rhaid i ni weithio gymaint a hynny'n galetach, yna dyna wnawn ni, oherwydd ein bod ni'n credu fod hawl gan bobl Cymru i gael gwell, i gael dewis go iawn, i gael gwneud ein penderfyniadau ein hunain heb gael ein bwydo rhyw stwnsh yn llawn cynhwysion ac 'additives' seimllyd y drefn Lundeinig. Mae'r cynhwysion i ddatrys problemau Cymru i'w darganfod yma yng Nghymru.

  • 5. Am 16:31 ar 22 Ebrill 2010, ysgrifennodd garmon:

    clywch clywch, mabon

  • 6. Am 16:56 ar 22 Ebrill 2010, ysgrifennodd FiDafydd:

    Y cyfan alla i ddweud, Mabon, ydi Clywch! Clywch!

    Vaughan, ydi hyn yn golygu nad ydyn nhw hyd yn oed yn fodlon cyfarfod ΓΆ chynrychiolwyr y ddwy blaid wyneb yn wyneb? Alla i ddeall eu bod nhw'n awyddus i gynnal 'y Drefn', alla i ddim credu nad ydyn nhw'n fodlon cynnal cyfarfod.

  • 7. Am 17:45 ar 22 Ebrill 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Ydy, dywedodd yr ymddiriedolaeth eu bod yn gallu deall teimladau cryfion y ddwy blaid heb gyfarfod wyneb yn wyneb.

  • 8. Am 23:09 ar 22 Ebrill 2010, ysgrifennodd Geraint:

    Yn falch o weld mai nid fi yn unig sydd wedi sylwi ar ymgyrch Elin Jones/Penri yng Ngheredigion. Y sΓ΄n sydd yma yng Ngheredigion yw fod Plaid Cymru wedi gwneud anferth o gamgymeriad yn ethol Penri fel ymgeisydd ar gyfer etholiadau San Steffan, yn enwedig gan fod Penri wedi colli yn ei etholaeth ei hun yn etholiadau llywodraeth leol yn 2008!

  • 9. Am 07:26 ar 23 Ebrill 2010, ysgrifennodd Adferwr:

    Sylw diddorol Geraint- ac yn sylw go gryf, bythefnos cyn yr etholiad.
    Heb ofyn i ti fynd i fanylion, beth yw dy dystiolaeth ?
    Mae'n anodd gennyf gredu y buasai gan Plaid Cymru ymgeisydd mwy addas na
    Penri James . A yw'n fater o bolisiau neu personoliaeth ?

  • 10. Am 21:46 ar 23 Ebrill 2010, ysgrifennodd FiDafydd:

    Wn i ddim pwy ydi 'Geraint', ond dwi'n gwybod mai nonsens yw ei sylw. Dwi wedi bod yn gwneud fy rhan gyda'r ymgyrch, a thydw i ddim wedi clywed y sylw yna unwaith. Yn wir, mae'r ymgyrch o be' dwi'n ei glywed yn mynd yn arbennig o dda.

    A beth sydd o'i le ar fanteisio ar enw da Elin Jones?

  • 11. Am 10:30 ar 26 Ebrill 2010, ysgrifennodd FiDafydd:

    Ble aeth 'Geraint'?!

  • 12. Am 01:04 ar 7 Mai 2010, ysgrifennodd Geraint:

    Geraint yn ol, Geraint yn dweud y gwir felly. Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill yng Ngheredigion. Camgymeriad yn dewis Penri? Mabon ap Gwynfor yn fwy addas efallai? Diolch a phob lwc

Mwy o’r blog hwn…

°δ²Ή³Ω±π²µ΄Η°ωΓ―²Ή³ά

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Βι¶ΉΤΌΕΔ iD

Llywio drwy’r Βι¶ΉΤΌΕΔ

Βι¶ΉΤΌΕΔ Β© 2014 Nid yw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.