Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Canu fel cana'r aderyn....

Vaughan Roderick | 23:48, Dydd Mercher, 24 Chwefror 2010

tn-DARE05.jpgDydw i ddim yn ddyn mawr am drydar neu "tweetio". Rwy'n defnyddio'r peth i dorri ambell i stori ond dyna i gyd. Mae Adam Price yn fy meio, er enghraifft, am y ffaith mae fe oedd y gwleidydd cyntaf yn y byd i ymddeol trwy "Twitter" ond ar y cyfan rwy'n cadw draw o'r safle. Does gen i ddim cymaint a hynny o ddiddordeb ym mywydau beunyddiol y defnyddwyr!

Ar y llaw arall mae'n well i mi gynnig esboniad ynghylch y "tweet" yma o eiddo Daran Hill.

"Vaughan Roderick and Toby Mason now reciting love poetry to one another"

I'r rheiny sydd ddim yn nabod Toby fe yw cydlynydd newyddion uned wleidyddol Â鶹ԼÅÄ Cymru. Mewn bywyd blaenorol roedd yn gyfrifol am golofn "Westgate" yn y Western Mail. Neithiwr roedd y ddau ohonom yn gwis-feistri mewn cwis tafarn gwleidyddol yn y bae ac fel rhan o'r cwis roedd y ddau ohonom yn darllen darn o farddoniaeth serch o eiddo Peter Black. Dyma flas ohoni;

"My tongue is weighed down,
my limbs can not move,
My mind in inflamed with anticipation.
I am your slave."

Doedd e ddim yn brofiad pleserus!

Dyna'r esboniad am bost Daran. Does dim angen i fy mhartner amau fy ffyddlondeb nac i neb amau rhywioldeb Toby!

I dalu'r pwyth yn ôl. Dyma "tweet" arall gan Daran;

"That was quite possibly the most humiliating moment of my life"

Beth oedd wedi digwydd? Roedd tîm Daran wedi cwpla'r noson yn gydradd gyntaf a thîm Dafydd Trystan o Blaid Cymru. Er mwyn setlo'r peth gofynnwyd i'r ddau enwi union nifer y pleidleisiau "Ie" yn refferendwm 1997. Roedd Dafydd o fewn chwech pleidlais a Daran rai miloedd allan.

Daran, wrth gwrs, oedd trefnydd proffesiynol yr ymgyrch Ie yn '97. Cofiwch os mai cael hwnna'n anghywir oedd embaras mwyaf ei fywyd mae wedi cadw ei hun yn hynod o bur!

Dyma engharifft o'r cwestiynau;

Enwch chwech Ysgrifennydd Cartref ers y rhyfel oedd naill ai'n cynrychioli etholaeth Gymreig new wedi eu geni yng Nghymru?

Fe fydd yr ateb a'ch atebion chi yn cael eu cyhoeddi yfory.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:04 ar 25 Chwefror 2010, ysgrifennodd Dewi:

    G Lloyd George
    R Jenkins
    J Callaghan
    M Rees
    M Howard
    D MAxwell Fyfe (Ddim yn sicr...)

  • 2. Am 11:13 ar 25 Chwefror 2010, ysgrifennodd Tomos:

    Gwilym Lloyd George 1954-57
    Roy Jenkins 1965-67 a 74-76
    Jim Callaghan 1967-70
    Merlyn Rees 1976-79
    Kenneth Baker 1990-92
    Michael Howard 1993-97

  • 3. Am 13:42 ar 25 Chwefror 2010, ysgrifennodd DORIS:

    Gwilym Lloyd George
    Sir Frank Soskice
    Roy Jenkins
    James Callaghan
    Merlyn Rees
    Michael Howard

  • 4. Am 17:09 ar 25 Chwefror 2010, ysgrifennodd alwynaphuw@btinternet.com:

    Gwilym Lloyd George, Roy Jenkins, Jim Callaghan, Merlyn Rees, Michael Howard

  • 5. Am 10:53 ar 26 Chwefror 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Chwech oedd cwestiwn yn gofyn amdanyn nhw...ond roedd 'na saith sef Gwilym Lloyd George, Frank Soskice, Jim Callaghan, Roy Jenkins, Merlin Rees, Ken Baker a Michael Howard.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.