Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mae pob newid yn change

Vaughan Roderick | 21:09, Dydd Sul, 6 Rhagfyr 2009

_44506676_micro2-poster.jpgUn o'r is-etholiadau lleiaf cofiadwy yn ystod fy nghyfnod i yn y jobyn 'ma oedd is-etholiad Gwyr yn 1982. Gyda Gwynoro Jones yn sefyll (dros yr SDP) a Norman Tebbit yn rhoi sioc i bawb trwy ddefnyddio ei Gymraeg ifaciwi wrth ganfasio doedd yr etholiad ddim yn ddi-liw ond doedd e ddim yn un nodedig iawn chwaith.

Serch hynny roedd na un blaid fach ddiddorol ar y papur pleidleisio sef y "Democratiaid Cyfrifiadurol". Plaid storom Awst oedd hi wnaeth ddiflannu o fewn byr o dro. Doedd hynny ddim yn syndod chwaith. Wedi'r cyfan pwy, yn 1982, oedd yn gallu llyncu proffwydoliaeth hurt y blaid y byddai gan bron bob cartref gyfrifiadur o fewn byr o dro ac y byddai'r cyfrifiaduron hynny yn cysylltu a'i gilydd trwy ryw "rwydwaith" wyrthiol? Rhaid oedd credu hynny cyn hyd yn oed ystyried syniad y blaid o ddefnyddio'r dechnoleg i greu cyfundrefn o ddemocratiaeth uniongyrchol.

Mewn gwirionedd mae'r syniad o system ddemocrataidd lle nad oes 'na gwleidyddion na phleidiau yn hen fel pechod. Does dim angen cyfrifiaduron. Trwy loteri, wedi cyfan, yr oedd Athen yn dewis ei llywodraeth. Gweriniaeth Rhufain wnaeth fagu'r syniad o ddemocratiaeth gynrychioladol ac hyd y gwn i does 'na'r un wladwriaeth o unrhyw faint wedi ceisio efelychu system Athen ers hynny.

thumbnail.jpgMae hynny'n dod a ni at "Newid!" egin blaid sy'n bwriadu sefyll yn etholiad 2011. Mae ganddi swyddfa llawn-amser a ei olwg a'i amcan yw sefydlu cyfundrefn lle fyddai gan Gymru senedd wedi ei dewis trwy loteri a fyddai'n penodi llywodraeth o arbenigwyr.

tn-DARE08en.jpgMartin Davies perchennog cwmni dillad "" yw'r dyn tu ôl i'r blaid newydd. Mae ei gwmni yn arbenigo mewn cynhyrchu crysau, hwdis a bathodynnau ac arnynt sloganau gwladgarol. Mae'n rhyfedd felly bod "Newid" wedi mabwysiadu logo sy'n atgoffa dyn o un yr ymgyrch "Na" yn 1997 neu ai yfi yw'r unig un sy'n gweld tebygrwydd?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:43 ar 7 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Idris:

    O glicio ar y ddolen 'Cymraeg' ceir ymrwymiad i gydraddoldeb rhwng y ddwy iaith a wedyn gwahoddiad i dalu am fersiwn Gymraeg o'r wefan. Does rhai pethau byth yn newid!

  • 2. Am 14:56 ar 7 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Dafydd Tomos:

    Onid yw Martin Davies yn enwog am sgamio newyddiadurwr? Er enghraifft, fe lwyddodd i gael Newsnight i ddarlledu stori ynglyn a'r 'recordiad coll' o Jimi Hendrix yn chwarae'r anthem genedlaethol.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.