Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

G'day

Vaughan Roderick | 15:15, Dydd Gwener, 11 Rhagfyr 2009

Fe adawodd Vaughan gyda sach o Victoria Bitter dan ei gesail am dywydd cynhesach ac os ydi'r cyfeiriad at Eldorado ar ei gyfraniad diwethaf yn adlewyrchu ei hoffter o operau sebon yna fe fydd o'n mwynhau y rhifyn cyfredol o Neighbours a Â鶹ԼÅÄ and Away.

Gan mod i'n etifeddu dyletswyddau anghyfarwydd dwi'n gofyn am help yn fy mhost cyntaf. A rhaglen 'Post Cyntaf' ar Radio Cymru fydd yn elwa. Dyma'r adeg o'r flwyddyn pan mae cynhyrchwyr rhaglenni yn tyrchu ym mhobman am stori i gynnal y gwasanaeth dros gyfnod yr wyl.

Mae adolygiad o'r flwyddyn a fu ym Mae Caerdydd yn becyn ffyddlon ar y silff nadolig ond all unrhywun gofio unrhywbeth o bwys a ddigwyddodd cyn etholiadau Ewrop? Ers hynny fe gyheoddwyd adroddiad y confensiwn, ymddeoliad Rhodri Morgan, penodiad Carwyn Jones ac mae Cabinet newydd yn ei le. Heb anghofio wrth gwrs yr achlysur hanesyddol hwnnw pan adawodd un aelod cynulliad ei blaid am un arall. Ond cyn hynny? Plis, plis....

I glywed mwy o ddadansoddi am yr wythnos a fu yna mae'r rhifyn diweddaraf o 'Dau o'r Bae' ar y podlediad

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:28 ar 14 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Mabon:

    Rwy'n siwr fod archifau blogiau Vaughan a Betsan yn ffynhonellau da o wybodaeth.
    O'm rhan i y pethau amlwg yw:
    - treiliau Aelodau Seneddol
    - Delilah (Aneurin Glyndwr)
    - LCOs - LCO tai a taith yr LCO iaith
    - datganiadau ymddeoliadau lu, un enwedig o dy Llafur (Betty Willaims etc)
    - Ynys Mon

    gobeithio fod hwn yn help.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.