Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gwas bach y peiriant pres

Vaughan Roderick | 16:56, Dydd Gwener, 2 Hydref 2009

_40607983_5c203.jpgMae pethau fan hyn wedi bod yn gythreulig o brysur! Roeddwn wedi bwriadau blogio am y stori yma ddoe ond aeth pethau'n drech na mi!

Mae gen i ambell i ôl nodyn bach i ychwanegu yn sgil yr helynt ynghylch cyfieithu yn y Cynullaid.

Fe wnes i honni ar sail fy "syms cefn amlen" fy hun, a symiau tebyg gan aelodau cynulliad y byddai'r drefn newydd yn fwy costus na'r un oedd yn bodoli o'r blaen.

Mae'r Comisiwn yn gwadu hynny. £250,000 oedd cost cyfieithu'r Cofnod dros nos. Fe fydd cyfieithu o fewn 3-5 diwrnod yn costio £170,000 yn ôl y Comisiwn. Rwyf yn ddigon parod i dderbyn hynny er ei bod yn braidd yn rhyfedd mai £170,000 oedd amcangyfrif y Comisiwn ar gyfer cyfieithu o fewn 10 diwrnod hefyd. Yn ychwanegol at hynny mae'r comisiwn yn honnu mai £60,000 fydd cost cyfieithu'r pwyllgorau. Mae hynny'n golygu arbediad o £20,000 felly.

Yn y cyfamser dyw'r Bwrdd iaith ddim wedi cytuno i'r newidiadau eto. Mae trafodaethau'n parhau.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 07:49 ar 3 Hydref 2009, ysgrifennodd Peter Black:

    The actual costings are here Vaughan:

    Mae’n costio tua £250,000 y flwyddyn i gyfieithu cyfraniadau Saesneg yn y Cyfarfod Llawn i’r Gymraeg cyn pen 24 awr, a dyma’r arbediad a gynigiwyd yn wreiddiol gan y comisiwn i’r gyllideb hon. Bydd cynhyrchu Cofnod cyfatebol o fewn tri i 10 niwrnod, fel y bwriadwn ei wneud yn awr, yn costio £170,000, sy’n golygu arbediad o tua £80,000. Y flwyddyn nesaf, bydd ein cyllideb yn cynnwys darpariaeth o £200,000 er mwyn sicrhau cyfieithiad llawn o’r Cofnod o drafodion y Cyfarfod Llawn a gwelliant i’r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu, sef trawsgrifiadau wedi’u cyfieithu’n llawn o drafodion pwyllgorau sy’n ymwneud â Mesurau, nad ydynt wedi cael eu darparu yn y gorffennol.

  • 2. Am 19:49 ar 8 Hydref 2009, ysgrifennodd Dan Din:

    Felly, arbed tua £80 mil...

    Cyflog GP dyddiau hyn? Dwi'n adnabod un enillodd bron i £400,000 llynedd...

    Peter Bach - mae son am y fath arbedion bychan ar draul egwyddor enfawr yn drist.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.