Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Chwifiwn ein baneri...

Vaughan Roderick | 16:50, Dydd Llun, 5 Hydref 2009

draiggoch203.jpgDydw i ddim yn sicr pwy ddywedodd fod "y Cymry yn genedl oherwydd eu bod yn dewis bod yn genedl". Mae'n swnio fel Gwynfor Evans ond mae'n ddigon posib mai rhyw un arall wnaeth.

Yn sicr mae 'na wirionedd yn yr honiad. I ryw raddau ffrwyth dymuniad a dychymyg yw pob cenedl. Ydy Texas yn genedl? Nac ydy, er bod rhai yn . Ydy Prydain yn genedl? Fe gewch chi ateb y cwestiwn yna!

Cernyw.jpgCymerwch esiampl sy'n agos iawn at adref. Ers o leiaf canrif mae 'na bobol yng Nghernyw sydd wedi bod yn ymdrechu'n galed i amddiffyn/adfer/creu cenedl Gernywaidd yn seiliedig ar draddodiadau ac iaith Celtaidd y wlad/sir.

Symbol o'r cenedligrwydd hwnnw yw baner du a gwyn sy'n dyddio yn ôl i o leiaf 1838 ac, o bosib, i'r canrifoedd cyn hynny. Mae hi i'w gweld ym mhobman yng Nghernyw.

estren3.gif Nawr cymerwch gipolwg ar y faner ar y chwith, yr un sy'n edrych fel draig goch mewn cwstard. Beth ar y ddaear yw honna?

Ymdrech aflwyddiannus mewn cystadleuaeth i ddewis yw'r ateb.


estren2.gif Y faner ar y dde, "Croes Pedrog" oedd yn fuddugol. Brawd Gwynllyw oedd Pedrog, gyda llaw, yr un ac un y ddwy Lanbedrog a'r Ferwig.

Jyst i gymhlethu pethau mae Pedrog a Piran ill dau yn nawddseintiau Cernyw!

Beth sy'n mynd ymlaen yn fan hyn? Ydy rhywrai yn Nyfnaint yn ceisio creu rhyw fath o egin genedl? Efallai. Roedd y gwr gafodd y syniad o faner i Ddyfnaint, Bob Burns, yn ddigon agored ynghylch y cymhelliad; "Devonians are only too aware of the ubiquitous Cornish Flag, which can often be seen in the form of car bumper stickers, on vehicles entering Devon from Cornwall". Ychwanegodd hanesydd lleol "people are quite aware in Devon that the Cornish make political capital by claiming to be different".

Am wn i, mae'r cyfan yn codi rhyw gwestiwn "wy a iâr" ynghylch p'un sy'n dod gyntaf, y faner neu'r genedl? Cyn i chi ateb hwnna cofiwch mai dim ond yn 1959 y mabwysiadwyd y "Ddraig Goch", ar ei ffurf bresennol, fel baner Cymru.

flaggdyf.jpgMae 'na ôl-nodyn hyfryd i hanes baner Dyfnaint.

Fedrwch chi ddyfalu beth yw'r faner ar y dde? yw hon! Cafodd ei chynllunio am y rheswm yma; "North Devon is not the same as South Devon: they're as different as chalk and cheese. So North Devon should have its own flag."

Blydi Hel! Mae'r Gogs a'r Hwntws wrth yddfau ei gilydd yn barod! Mae'n rhaid eu bod nhw'n Geltiaid wedi'r cyfan!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:27 ar 5 Hydref 2009, ysgrifennodd Meurig:

    Gwyn Alf Williams sydd biau'r dyfyniad tybed?

  • 2. Am 21:12 ar 5 Hydref 2009, ysgrifennodd emyr:

    Ta pwy ddywedodd hynny, mae'n dipyn nes ati nag Emrys ap Iwan: "cofiwch eich bod yn genedl drwy ordeiniad Duw".

  • 3. Am 15:51 ar 6 Hydref 2009, ysgrifennodd Alun Llewelyn:

    Sylwais ar faner Dyfnaint yn chwifio ar y fferi sy'n hwylio i Ynys Lundy ym Mor Hafren - ynys sydd a hanes annibynnol iawn ac yn ol ambell hanes y man lle casglodd Madog ei lynges cyn hwylio i'r Gorllewin.

    Ar un adeg bu arglwyddi Lundy yn cynghreirio a thywysogion Cymru yn erbyn brenin Lloegr, ac enwyd eglwys yr ynys ar ol Elen Sant.

    Efallai rhyw ddydd cawn groesawi Dyfnaint i blith cenhedloedd bychain Ewrop!

  • 4. Am 16:40 ar 7 Hydref 2009, ysgrifennodd Griff:

    Vaughan - dim ond ym '59 y cafodd y Ddraig Goch ei gwneud yn faner swyddogol Cymru gan y Frenhines - nid yw hynnu yr un peth a dweud mai dim ond yn 1959 y cafodd hi ei mabwysiadu.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.