Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Wel...

Vaughan Roderick | 10:44, Dydd Iau, 3 Medi 2009

sir-humphrey.jpgErs i Gwion Lewis danio'r ergyd gyntaf yn y rhifyn newydd o "Barn" mae'r ffwdan ynghylch perthynas comisiwn y cynulliad a'r bwrdd iaith wedi magu stem.

Y stori hyd yma. Fe bleidleisiodd y cynulliad llawn o blaid mabwysiadu cynllun iaith statudol. Y tu ôl i ddrysau caeedig fe benderfynodd comisiwn y cynulliad (sef Dafydd Elis Thomas, Chris Franks, William Graham, Peter Black a Lorraine Barret ) anwybyddu'r penderfyniad hwnnw ar ôl i'w Syr Wmffras ganfod esgus cyfreithiol i wneud hynny.

Os ydy'r symudiad bach slei yna'n llwyddo y Cynulliad fydd yr unig gorff cyhoeddus o unrhyw bwys yng Nghymru na fydd yn atebol i'r Bwrdd Iaith. Ar sail y triciau Syr Wmfraidd yma penderfynodd y comisiwn gwtogi ar gyfieithu'r cofnod heb ymgynghori naill ai a'r Bardd Iaith na neb arall y tu fewn neu'r tu fas i'r cynulliad.

Yn y cyd-destun hwnnw rwyf am wneud rhywbeth nad wyf yn gwneud yn aml sef dyrchafu sylw i fod yn bost. Wrth ymateb i ar "Freedom Central" mae Gruffudd Prys yn cyflwyno dadl rymus dros beidio gadael i'r comisiwn a'r cynulliad blismona ei hun. Dyma sylw Gruffudd.

Peter Black ar Freedom Central:

"If a language is to survive and flourish then it must be used as part of daily life and business. It follows therefore that in a body such as the National Assembly we should be using our resources to enable our business to be conducted blingually rather than producing what is effectively a retrospective record that adds nothing to that aim. For Rhodri Glyn Thomas and others it appears the bilingual record of proceedings is symbolic rather than functional. At £250,000 a year that is a very expensive symbol."

Y Cofnod, bron yn ddiamheuaeth, sy'n ffurfio'r sail i gyfieithu peirianyddol Google Translate Cymraeg. Caiff ei ddefnyddio ganddynt fel corpws dwyieithog i gynhyrchu cyfieithiadau newydd ar sail tebygolrwydd ystadegol. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio gan y criw sy'n gyfrifol am raglen debyg Apertium ar gyfer eu rhaglen gyfieithu peirianyddol hwythau. Gweler https://xixona.dlsi.ua.es/corpora/UAGT-PNAW/README am enghraifft o'r Cofnod wedi'i baratoi ar gyfer defnydd peiriant cyfieithu.

Dylai potensial rhaglenni cyfieithu o'r fath i'n galluogi i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob rhan o'n bywyd a'n busnes beunyddiol fod yn amlwg i unrhyw un sydd wedi defnyddio'r feddalwedd.

Yn amlwg felly, yn hytrach nag ychwanegu "nothing to that aim" (fel y dywed Peter Black), bydd y Cofnod yn cyfrannu'n sylweddol at hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg mewn bywyd modern drwy effeithlonni a hwyluso cyfieithu yn aruthrol.

Mae'r budd anuniongyrchol hwn a gawn o'r Cofnod yn rhoi swyddogaeth ymarferol, hynod werthfawr i rywbeth y mae Peter Black, yn ei ddiffyg dealltwriaeth ynglÅ·n ag anghenion iaith fodern, yn ystyried yn 'symbolaidd' ac felly'n ddiwerth.

Efallai bod agwedd symbolaidd i'r Cofnod, ond am £250,000 y flwyddyn, mae cyfraniad y Cofnod at ostwng costau ac amser cyfieithu - o hyn hyd dragwyddoldeb - ynddo'i hun yn cynrychioli un o fargeinion y ganrif.

Google Translate: https://translate.google.com/#
Apertium: https://www.apertium.org/
humphrey2.jpg
Diweddariad; Fel y Bwrdd Iaith mae Cymdeithas yr Iaith yn awr yn cymryd cyngor cyfreithiol. Mewn un ystyr fy hoffwn i weld y peth yn cyrraedd llys. Fe fyddai'n bleser gweld pa bynnag Syr Wmffra sy'n gyfrifol yn ceisio esbonio pam y dylai'r comisiwn gael anwybyddu ysbryd a bwriad Deddf Iaith 1993 yn ogystal ac ewyllys y Cynulliad ei hun. Gellid osgoi hynny wrth gwrs pe bai'r Cynulliad yn gorchymyn i'r comisiwn ufuddhau i'w dymuniadau. Wedi'r cyfan, pwy yw'r meistr a phwy yw'r gwas yn y berthynas hon?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:22 ar 3 Medi 2009, ysgrifennodd Dafydd ab Iago:

    Ym Mrwsel, lle mae popeth yn ddwyieithog Ffrengeg-Iseldireg, byddai cael gwared o'r Iseldireg yn cael ei ystyried fel sarhad i 14% o boblogaeth y ddinas sy'n siarad yr iaith. Dwi'n methu deall sut y gall comisiwn ein Cynulliad yn cymeradwyo'r un sarhad arnon ni.

    Beth bynnag, dyma gyfieithiad Google Translate o eiriau Peter Black!

    Os iaith yw oroesi yna ffynnu ac mae'n rhaid ei ddefnyddio fel rhan o fywyd bob dydd a busnes. Mae'n dilyn felly bod yn un corff fel y Cynulliad Cenedlaethol y dylid byddwn yn defnyddio ein hadnoddau er mwyn galluogi ein busnes i gael ei gynnal blingually yn hytrach nag yn cynhyrchu hyn yn effeithiol yn gofnod ôl-weithredol sy'n ychwanegu unrhyw beth at y nod hwnnw. I Rhodri Glyn Thomas, ac eraill mae'n ymddangos y cofnod o drafodion dwyieithog yn symbolaidd yn hytrach na gweithredol. Ar £ 250.000 flwyddyn hynny yw symbol yn ddrud iawn.

  • 2. Am 14:49 ar 3 Medi 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae'n ddiddorol bod Google Translate yn gweithio'n well o'r Gymraeg i'r Saesneg nac i'r gwrthwyneb. Y rheswm am hynny dwi'n tybio yw bod y Gymraeg yn iaith o frawddegau byrion. Mae'r Saesneg ar y llaw arall yn llawn dop o frawddegau aml-gymalog nad ydynt yn hawdd eu cyfieithu.

  • 3. Am 17:00 ar 3 Medi 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Yn well i'r Ffrangeg?

    "Il est intéressant que Google Translate est une œuvre d'Gymraeg mieux l'anglais que l'inverse. La raison en est que je suppose que le langage Gymraeg phrases courtes. Les Anglais, en revanche, sont bourrés de multi-articulés phrases qui ne sont pas faciles à traduire."

  • 4. Am 18:54 ar 3 Medi 2009, ysgrifennodd Gruffudd Prys:

    Ew, braint a hanner yw gweld fy sylw'n cael ei ddyrchafu'n gofnod yn ei hawl ei hun. :)

    "Mae'n ddiddorol bod Google Translate yn gweithio'n well o'r Gymraeg i'r Saesneg nac i'r gwrthwyneb."

    Dwi'n amau ei bod hi'n haws diystyrru treigladau a rhediadau berfau neu arddodiaid (C->S) na'u hychwanegu yn y man priodol (S->C).

    Mae hynny'n arbennig o wir wrth ddefnyddio dull ystadegol (fel mae Google yn ei wneud) yn hytrach na' un sy'n seiliedig ar reolau iaith.

    Hefyd, mae gan Google lawer mwy o brofiad mewn cynhyrchu brawddeg au Saesneg sy'n gwneud synnwyr na sydd ganddyn nhw ar gyfer y Gymraeg!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.