Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Uchafsymiau

Vaughan Roderick | 09:24, Dydd Llun, 14 Medi 2009

Ty_Cyfri.jpgYn y post "7? 50:50" fe wnes i nodi mai wyth oedd yr uchafswm o seddi yr oeddwn i'n credu y gallai Plaid Cymru eu hennill yn yr Etholiad Cyffredinol. Y saith mae'r blaid yn targedu yw'r rheiny ac un "jocyr" yn y cymoedd. Ar ôl i mi bostio'r sylw yna fe wnaeth hi fy nharo i bod trafod uchafsymiau posib i'r pleidiau yn ffordd wahanol ac eithaf defnyddiol o edrych ymlaen at yr etholiad nesaf.

Yn ddamcaniaethol gallai unrhyw blaid ennill deugain sedd wrth gwrs ond pwrpas yr ymarferiad yma yw dyfalu beth yw'r nifer fwyaf y gallai plaid ei hennill os ydy'r amgylchiadau presennol yn bodoli pan ddaw'r etholiad.

Mae 'na ddau rybudd amlwg cyn cychwyn. Mae sawl sedd yn ymddangos mewn mwy nac un golofn. Mae'r cyfanswm ymhell dros ddeugain, felly. Cofiwch hefyd y gallai amgylchiadau newid cyn y bleidlais. Ar ôl dweud hynny bant a ni! Os mai wyth yw uchafswm Plaid Cymru beth am y pleidiau eraill?

Mae'n hawdd anghofio mai'r Democratiaid Rhyddfrydol yw ail blaid Cymru o safbwynt cynrychiolaeth seneddol. Beth yw'r canlyniad gorau y gallai'r blaid honno obeithio amdano y tro nesaf?

Chwech yw'r ffigwr, yn fy marn i, sef y seddi presennol ynghyd â Gorllewin Abertawe a Dwyrain Casnewydd. Mae'n deyrnged i effeithlonrwydd targedu'r blaid ei bod eisoes yn dal cymaint o'i seddi posib.

O hyn ymlaen mae pethau'n mynd yn ddiddorol! 29 sedd sydd gan Lafur ar hyn o bryd. Dydw i ddim yn gallu meddwl am unrhyw sedd, hyd yn oed Blaenau Gwent, y gall Llafur ei chipio. Ar y llaw arall rwy'n meddwl, o dan yr amgylchiadau presennol, ei bod hi'n anorfod y bydd y blaid yn colli Gogledd Caerdydd, Bro Morgannwg a Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro ac yn methu ennill etholaeth newydd Aberconwy. 25 yw'r uchafswm Llafur felly ac rwy'n meddwl bod hynny yn hael.

Ond beth am y Ceidwadwyr ? Yn ychwanegol at eu tair sedd bresennol rwy'n meddwl bod gan y blaid rhywfaint o gyfle yn y seddi sy'n cael eu rhestri isod. Sylwer bod "rhywfaint" yn golygu "rhywfaint ond dim llawer" mewn ambell i achos! Ta beth, dyma nhw;

De Clwyd, Alun a Glannau Dyfrdwy, Delyn, Wrecsam, Dyffryn Clwyd, Aberconwy, Ynys Môn, Maldwyn, Brycheiniog a Maesyfed, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Gwyr, Pen-y-bont, Bro Morgannwg, Gogledd Caerdydd, Gorllewin Caerdydd, De Caerdydd a Phenarth, Gorllewin Casnewydd a Dwyrain Casnewydd.

Uchafswm y Ceidwadwyr yw 21 felly, dros hanner y seddi yng Nghymru a dim ond pump yn llai na'r uchafswm posib i Lafur.

Fe ddywedodd rhywun mai'r gwahaniaeth rhwng Llafur yng Nghymru a'r blaid yn Lloegr ar hyn o bryd yw bod y Saeson yn "defeatist" a'r Cymry "in denial". Efallai y bydd y post yma o gymorth i'w deffro! Os ydw i'n iawn fe allai'r Torïaid fod mewn sefyllfa nid yn unig i oddiweddid Llafur o ran nifer eu cynrychiolwyr yng Nghymru ond i ennill dros hanner y seddi Cymreig.

Dyw hynny ddim yn debygol ac fe allai pethau newid. Ond ydy Llafur Cymru, mewn gwirionedd, yn mynd i barhau i orwedd ar y cledrau ac anwybyddu sŵn y trên sy'n rhuthro i'w cyfeiriad?

Un peth bach arall ar ffurf cwestiwn. Pe bai Llafur yn colli pob un sedd sy'n ymddangos yng ngholofn un o'r pleidiau eraill sawl aelod seneddol Llafur fyddai ar ôl yng Nghymru?

Pymtheg. Fifteen. Quinze. Fünfzehn. Limabelas. Pa iaith sydd angen ei siarad er mwyn iddyn nhw glywed?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:26 ar 14 Medi 2009, ysgrifennodd Dewi:

    "Un peth bach arall ar ffurf cwestiwn. Pe bai Llafur yn colli pob un sedd sy'n ymddangos yng ngholofn un o'r pleidiau eraill sawl aelod seneddol Llafur fyddai ar ôl yng Nghymru?"

    Onid 11 yw'r ateb ?:
    Aberafan
    Caerffili
    Cwm Cynon
    Islwyn
    Merthyr
    Castell Nedd
    Ogwr
    Pontypridd
    Rhondda
    Dwyrain Casnewydd
    Torfaen

  • 2. Am 11:29 ar 14 Medi 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Dwyrain "Abertawe" yn lle "Casnewydd" - sori.

  • 3. Am 11:41 ar 14 Medi 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Um, Mae gen i ben tost! Fe wnes i'r symiau o'r cyfeiriad arall sef gweithio lawr o'r seddi presennol yn hytrach na gweithio lan o ddim! Rwy'n meddwl dy fod yn iawn. Fe fydd yn rhaid i mi gyfri eto! Gyda llaw, ti oedd yr unig berson yng Nghymru benbaladr i sylwi ar y gwall yn y cynnig ynghylch y cofnod. Rwy'n ildio i dy ddoethineb felly!

  • 4. Am 11:50 ar 14 Medi 2009, ysgrifennodd Dewi:

    "Fe fydd yn rhaid i mi gyfri eto! Gyda llaw, ti oedd yr unig berson yng Nghymru benbaladr i sylwi ar y gwall yn y cynnig ynghylch y cofnod. Rwy'n ildio i dy ddoethineb felly!"

    Dwi ddim yn aml yn ddiymhongar ond rhaid cyfadde taw Dewi arall oedd hynny..(yr un gyda doethineb!!)

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.