Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Syr Wmffra a Moron

Vaughan Roderick | 12:21, Dydd Sadwrn, 12 Medi 2009

Rwy'n becso weithiau y bydd pobol yn meddwl bod gen i obsesiwn ynghylch cyfieithu'r cofnod!

Fe wna i ond nodi wrth fynd heibiol felly bod cynhadledd Plaid Cymru newydd basio cynnig yn datgan bod y bwriad i gwtogi ar y cyfieithu yn annerbyniol ac yn galw ar gomisiwn y cynulliad i newid ei benderfynniad.

Cyn i chi ofyn doedd Dafydd Elis Thomas ddim yn bresenol ar gyfer y sesiwn!

Collodd Llywydd y Cynulliad un berlen oherwydd ei absenoldeb. Fe wnes i grybwyll ddoe y gallai'r ddadl ynghylch Academi Filwrol Sain Tathan fod yn un ffyrnig. Nid felly y bu pethau gyda chynnig "cytuno i anghytuno" yn cael ei gymeradwyo ond fe gafwyd un dyfyniad bythgofiadwy;

"We don't want Wales to carry a sack of carrots and not a stick."

Oes angen dweud pa aelod cynulliad ddyweodd hynny?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:59 ar 12 Medi 2009, ysgrifennodd Siôn Aled:

    Felly mae'r Blaid oedd yn gwrthwynebu hyd at garchar yr Ysgol Fomio yn fodlon cytuno i anghytuno ar Brifysgol Dinistr. Aeddfedu gwleidyddol sbo.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.